David Melding: Dawn—
David Melding: Cyn imi alw ar y Gweinidog i ymateb, rwy'n ceisio bod mor garedig â phosibl gyda'r Aelodau Llafur, oherwydd ei bod yn bwysig i feincwyr cefn gael eu galw, ond mae'r cwestiynau hyn yn troi'n sgyrsiau cil pentan, yn hytrach na bod yn gwestiynau penodol, ac nid oes angen inni glywed yr holl hanes am sut y ffurfiwyd eich barn—dewch yn syth at eich cwestiwn. Gweinidog.
David Melding: Ac yn olaf, Jack Sargeant.
David Melding: Diolch, Gweinidog.
David Melding: Cyhoeddir eitem 6 fel datganiad ysgrifenedig. Symudwn at eitemau 7 ac 8, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan yr eitemau hyn, rheoliadau diogelu iechyd 2020, yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân.
David Melding: Gallaf weld nad oes gwrthwynebiad, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
David Melding: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
David Melding: A'r Gweinidog i ymateb.
David Melding: Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelod yn gwrthwynebu, ac felly gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Unwaith eto, gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, a gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon hefyd tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Eitem 9 yw Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
David Melding: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
David Melding: Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau'n nodi eu bod yn dymuno siarad. Prif Weinidog, wn i ddim a oes gennych unrhyw beth arall i'w ychwanegu, o ystyried yr hyn y mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd arno.
David Melding: Diolch, Prif Weinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Eitem 10 yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.
David Melding: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
David Melding: Cyn i mi alw ar John Griffiths, a wnaiff fy sicrhau ei fod wedi bod yn bresennol drwy gydol y ddadl hon, os yw eisiau cael ei alw? Oherwydd nid oedd eich fideo ymlaen.
David Melding: Felly, cewch siarad. Galwaf ar John Griffiths.
David Melding: Diolch. Rwy'n atgoffa'r Aelodau ar Zoom bod yn rhaid i chi droi eich fideo ymlaen os ydych eisiau sicrhau y cewch eich galw; ni allwch ragdybio caredigrwydd y Cadeirydd yn unig, er y caiff ei arfer, mae'n siŵr, pan fo'n briodol. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb.
David Melding: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A gawsom—? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi gweld gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.