Huw Irranca-Davies: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gronnol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, a'r Bil Hawliau ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58293
Huw Irranca-Davies: 8. Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael â Llywodraeth y DU ar ddatblygu'r Bil Hawliau? OQ58294
Huw Irranca-Davies: 1. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu cyfran yr ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd hybrid ar draws ystâd y Senedd? OQ58295
Huw Irranca-Davies: Felly, Weinidog, diolch am yr ateb, ac ymddiheuriadau am wyro ychydig i hanes, ond gwyddom mai yng nghysgod yr ail ryfel byd y cefnogodd Churchill a Mitterrand ac eraill gonfensiwn, gyda chefnogaeth 100 o seneddwyr o 12 aelod-wladwriaeth Cyngor Ewrop, i ddrafftio'r siarter hawliau dynol a sefydlu llys i'w gorfodi. Yr AS Prydeinig a'r cyfreithiwr Syr David Maxwell Fyfe oedd un o'r aelodau...
Huw Irranca-Davies: Credaf fod yr effaith gronnol yn bwysig iawn, Gwnsler Cyffredinol. Rhoddwyd llawer o sylw i'r Bil Hawliau a'r effaith yma yn y Senedd heddiw, a hynny'n gwbl briodol, ond eto gallai'r holl ddeddfwriaeth DU, sydd wedi ei frysio a heb ei graffu'n effeithiol ar hyn o bryd, effeithio ymhellach ar fynediad dinasyddion unigol Cymru at gyfiawnder drwy leihau neu wadu'r cyfiawnder hwnnw i bobl fregus...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Mae'r heriau gyda'r bil hawliau hwn sy'n cael ei gyflwyno wedi cael eu trafod yn helaeth y prynhawn yma, yn enwedig y risgiau sylweddol y mae arsylwyr allanol wedi'u nodi i'r setliadau datganoli ledled y DU, a hefyd y goblygiadau sylweddol i hawliau dynol a chydraddoldeb, yn enwedig erthygl 10, rhyddid mynegiant, ac erthygl 11, rhyddid i...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Mae'n dda gweld y gwaith sydd wedi bod yn digwydd eisoes, ac sy'n parhau i ddigwydd, ar gynyddu cyfran yr ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar ffurf hybrid, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae'n ymddangos y bydd yn rhaid inni ddefnyddio hyn fel ffordd fodern o weithio yn awr, ac yn sicr wrth inni wynebu'r hydref a'r gaeaf. A yw'n realistig...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n ddrwg gen i.
Huw Irranca-Davies: Dim ond eisiau dod i mewn ydw i yn dilyn sylwadau Luke yn y fan yna, oherwydd bod y Gweinidog wedi mynegi cryn hyder ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hefyd yn ardal Rhondda Cynon Taf yn fy etholaeth i, yn eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen. Ond fe wnes i gyfarfod â Meurig, y pennaeth arobryn, y diwrnod o'r blaen, ac rwy'n credu y byddai'n croesawu ymweliad yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog. Gwnaethom ystyried y gyfres hon o reoliadau yn ystod ein cyfarfod ddoe a gosod ein hadroddiadau yn syth ar ôl hynny.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau caredig am y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud a'r ymgysylltu rydych chi wedi'i gael gyda ni ar hyn. O ran eich sylwadau agoriadol, rydym ni'n dwlu ar 'technegol a chymhleth'. Mae'r gyfres o reoliadau heddiw yn rhan o'r drydedd gyfran o is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Roedd ein pwynt adrodd technegol ar...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Yn hytrach na'r materion polisi pwysig yma, mae gennym ni rai pwyntiau technegol a rhinweddau i'w codi o ran gwneud cyfraith Cymru yn hygyrch yn gyntaf. Gwneir y Gorchymyn drwy arfer y pŵer yn adran 81(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn yn darparu bod y cyfeiriad yn adran 81(1) o'r Ddeddf at '30 milltir yr awr' i'w ddehongli fel...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, ac am y tro olaf heddiw, Gweinidog. [Chwerthin.] Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn brynhawn ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt adrodd am rinweddau. Nid ydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb i'r pwyntiau hynny, ond mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn gwneud sylw am fater pwysig y mae’n werth ei amlygu ar gyfer y Senedd. Fel y dywedodd y Gweinidog,...
Huw Irranca-Davies: Llyr, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Mae'n codi pwynt pwysig a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond, mewn gwirionedd, roeddem yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gwneud gwelliannau i'r darn hwn o ddeddfwriaeth nawr er mwyn gallu ymdrin â materion sydd eisoes wedi'u datblygu yn Senedd y DU ac yn y blaen o ran materion treth, ond fe ddywedsom ni hefyd, 'Edrychwch ar y...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan yna?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am ildio. Un sicrwydd y gallai'r Gweinidog ei roi i'r Senedd heddiw, yn y ffordd gydweithredol y mae hi wedi bwrw ymlaen â'r newidiadau hyn i'r ddeddfwriaeth a'r cynigion presennol ar gyfer yr hyn a gyflwynir—. Yn y cynigion hynny o'r hyn a ddaw nesaf, a wnaiff hi roi'r sicrwydd i'r Senedd heddiw y bydd yn gweithio gyda'r pwyllgorau perthnasol a gydag Aelodau'r Senedd...
Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am wasanaethau gofal sylfaenol?
Huw Irranca-Davies: Dim ond i wneud pwynt syml iawn ar faniffestos: mae maniffestos ar gyfer y tymor, hyd Senedd gyfan, nid i'w gyflawni ar y diwrnod cyntaf. Er bod yn rhaid imi ddweud, mae pump o'r pwyntiau allweddol a oedd gennym ym maniffesto Llafur eisoes wedi'u cyflawni, ynghyd â rhai eraill a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Fe gyrhaeddwn yno ar y pethau eraill.
Huw Irranca-Davies: Jane, diolch am fod mor barod i ildio. A wnewch chi nodi hefyd fod llais bach ond arwyddocaol ar asgell dde'r Ceidwadwyr sy'n cefnogi incwm sylfaenol cyffredinol ar sail rhyddhau pobl a rhoi'r gallu iddynt fod yn entrepreneuraidd, i sefyll ar eu traed eu hunain, i arbrofi, i greu eu bywydau eu hunain? Nid ydym wedi clywed dim o hynny heddiw nac erioed o’r meinciau acw yn unrhyw un o’r...