David Melding: Mae cynnig nawr i atal y Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
David Melding: Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad.
David Melding: Felly, bydd y Rheolau Sefydlog yn cael eu hatal i alluogi'r ddadl, a fydd yn digwydd ar ôl seibiant byr i ganiatáu newid yn y Siambr.
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch am eich geiriau caredig amdanaf i, a oedd yn braf eu clywed gan y cadeirydd, er na allaf i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, fel arall byddwn i yn sicr wedi dymuno'n dda iddi hi hefyd. A gaf i ddweud mai dim ond dau siaradwr sydd gen i ar gyfer y ddadl, felly os bydd unrhyw un yn ceisio dal fy sylw, efallai y byddwch chi'n lwcus? Laura Anne Jones.
David Melding: Cyn i mi alw ar Siân Gwenllian, rwyf i yn ymddiheuro, dylwn i fod wedi hysbysu'r Aelodau nad oedd y gwelliant wedi ei ddewis yn unol â Rheol Sefydlog 12.23. Siân Gwenllian.
David Melding: A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Allwn ni ddad-dawelu'r Gweinidog, os gwelwch yn dda? Dyna ni. Gweinidog.
David Melding: Diolch, Gweinidog. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf i yn gweld Aelod yn gwrthwynebu, felly gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd toriad o bum munud neu fwy cyn i'r cyfnod pleidleisio ddechrau. Bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau yn ystod y cyfnod hwn.
David Melding: 3. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol? OQ55742
David Melding: 6. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi staff y Comisiwn sy'n gweithio gartref yn ystod y pandemig? OQ55741
David Melding: Weinidog, gwyddom mai cadw pellter cymdeithasol yw'r ffordd orau o atal trosglwyddiad y feirws. Mae arferion hylendid hefyd yn bwysig iawn, ond mae cadw pellter cymdeithasol yn hanfodol. Credaf y dylem fod yn ddiolchgar am broffesiynoldeb ein staff addysgu a'r holl staff wrth ganmol ysgolion, oherwydd nid ydym wedi gweld y lefelau trosglwyddo rydym wedi'u gweld mewn addysg uwch. Nawr, rwy'n...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Gomisiynydd, a gaf fi gofnodi fy niolch fy hun—ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran yr holl Aelodau o'r Senedd—am y gefnogaeth ragorol a gawn gan staff y Comisiwn, ac wrth gwrs, sylweddolwn fod llawer o'r cymorth hwnnw'n dod drwy ein cyfarfodydd Zoom a'n cysylltiadau ein hunain. Ond mae lefel y proffesiynoldeb sydd wedi'i gynnal yn eithaf eithriadol. Ond rydym yn...
David Melding: Diolch, Gomisiynydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau mai cwestiynau yw'r rhain ac nid sgyrsiau. Bydd cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Alun Davies.
David Melding: Bydd cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan Joyce Watson. Neil McEvoy.
David Melding: Trefn. Trefn. Trefn. Neil, mae hwn yn fater sy'n ymwneud â gweithdrefn yn y Senedd, dan arweiniad y Llywyddion, ac nid yw'n rhywbeth y mae'r Comisiynydd yn gymwys i siarad amdano. Felly, mae'n rhaid i mi ofyn i chi eistedd oherwydd mae'r cwestiwn hwn, neu mae'r cwestiwn atodol hwn, yn groes i'r drefn.
David Melding: A gafodd y sgript ei derbyn? Beth oedd y sgript a gafodd ei derbyn gennym?
David Melding: Trefn. Rydych newydd ddweud wrthyf fod y sgript roeddech yn ei darllen wedi'i gosod yn Swyddfa'r Llywydd.
David Melding: Nid eich cwestiwn atodol. Nawr, na, na—
David Melding: Trefn. Neil. Rwy'n derbyn bod yr hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn ymwneud â'r cwestiwn cyntaf, ac fe'i camddeallais. Roeddwn yn gofyn i weld a oedd eich cwestiwn atodol wedi'i dderbyn gan Swyddfa'r Llywydd, ac nid yw wedi cael ei dderbyn. Ac rwyf newydd ddweud, yn fy marn i, caiff ei ystyried yn groes i'r drefn. Mae'n rhaid i chi eistedd yn awr.
David Melding: Nid wyf yn credu.