Mike Hedges: Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn gyntaf, rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn anffodus, ym Mhrydain, mae gan glybiau pêl-droed proffesiynol—yn enwedig ar y lefel uchaf—sylfaen fawr iawn o gefnogwyr lleol, gydag un neu fwy o unigolion yn unig yn berchen ar y clwb, yn aml o dramor. Rwy’n gwybod y byddai cefnogwyr Dinas Caerdydd...
Mike Hedges: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thwyllo yng Nghymru? OAQ(5)0443(FM)
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Nid wyf yn credu y gallwch chi orbwysleisio’r broblem gyda thwyll, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Mae’r effaith ar bobl sy'n cael eu twyllo yn erchyll a gall gael effaith ddifrifol ar eu bywydau, ac yn wir, mewn rhai achosion, gall arwain at fyrhau eu bywydau. Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan safonau masnach a sefydliadau...
Mike Hedges: Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i Ddwyrain Abertawe ac yn ddiwrnod trist i iechyd, wrth i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, cartrefi di-fwg, dosbarthiadau ymarfer corff, diet iach a rhaglenni colli pwysau ddod i ben. Diwrnod trist ar gyfer cyrhaeddiad addysgol, wrth i glybiau paratoi ar gyfer arholiadau’r Pasg, clybiau gwaith cartref a rhaglenni dysgu i’r teulu ddod i ben. Diwrnod trist...
Mike Hedges: Rydym yn cymryd trydan yn ganiataol. Rydym yn cynnau ein cyfrifiadur, ein teledu, ein goleuadau neu ein dyfeisiau trydanol eraill ac rydym yn disgwyl iddynt weithio. Mae'n rhaid cynhyrchu’r trydan ac mae’n rhaid iddo fod ar gael pan fydd ei angen arnom. Yn draddodiadol, mae trydan wedi ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil. Mae pob tanwydd ffosil yn seiliedig ar garbon. Pan mae carbon...
Mike Hedges: Rwy'n meddwl ei fod a dweud y gwir mewn afonydd oherwydd mae’r pysgod yn symud i fyny ac i lawr yr afon ac, i fynd i fyny ac i lawr yr afon, rhaid iddynt fynd drwy'r ardal lle mae'r tyrbinau. P'un a ydynt yn cynnwys bwlch i bysgod neu beth bynnag sydd ganddynt ar gyfer hynny—. Rwy’n credu, os oes angen bylchau i bysgod arnom, bod angen iddynt adeiladu bylchau i bysgod yn y morlyn llanw....
Mike Hedges: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y pŵer cymhwysedd cyffredinol arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0086(FLG)
Mike Hedges: 4. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch gorfodi cyfreithiau morol? OAQ(5)0022(CG)
Mike Hedges: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno nad yw caledi byth yn gweithio. O Arlywydd Hoover yn yr Unol Daleithiau i Wlad Groeg heddiw, y cyfan y mae caledi wedi’i wneud yw gwneud pethau’n waeth. Pan gyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ei gyllideb werdd, gwyddom fod ei gyfarwyddwr wedi dweud y byddai’r ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu diffinio gan y toriadau...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Galwyd amdano gan awdurdodau lleol ers o leiaf 30 mlynedd. A all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd o fudd i awdurdodau lleol, a chadarnhau ei fod yn cael gwared ar yr angen i brofi capasiti dros ben er mwyn gwerthu nwyddau a gwasanaethau i’r sector preifat?
Mike Hedges: Nad yw byth yn defnyddio saib. [Chwerthin.]
Mike Hedges: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Pa ystyriaeth y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i rhoi i sut y gellid erlyn am droseddau morol yn fwy effeithiol?
Mike Hedges: Clywais yr hyn a ddywedoch, ond a allwch gadarnhau eich bod yn dymuno i’r Principality, beth bynnag sy’n digwydd, aros dan berchnogaeth gydfuddiannol, nid troi’n debyg i’r math o fanc a ddigwyddodd o’r blaen, gyda’r rhan fwyaf ohonynt—pob un ohonynt, yn wir—wedi mynd i drafferthion ariannol?
Mike Hedges: Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech hefyd yn cytuno bod yna lawer o bobl, yn enwedig ymysg yr henoed, nad ydynt am wneud eu bancio ar-lein, pobl nad ydynt eisiau defnyddio cyfrifiadur ar gyfer gwneud eu bancio ac sy’n awyddus i ymweld â’u banc lleol?
Mike Hedges: Hoffwn innau ddiolch i Caroline Jones hefyd am roi munud yn y ddadl hon i mi. Rwyf wedi siarad am unigrwydd yn y Siambr hon sawl gwaith, ac mae’n fater sy’n fy mhryderu’n fawr iawn. Bwriadaf roi dwy enghraifft yn unig o unigrwydd: yn gyntaf y fenyw a ymwelodd â mi mewn cymhorthfa dair gwaith. Gofynnais iddi ar ôl ei thrydydd ymweliad beth oedd hi am i mi ei wneud i’w helpu. Atebodd...
Mike Hedges: Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad. Rwy’n meddwl efallai mai'r peth cyntaf y dylem ni ei wneud yw diolch i Rhodri Morgan a wnaeth, fel Prif Weinidog, wrthsefyll y demtasiwn i lofnodi’r hyn sydd wedi bod yn gynlluniau Menter Cyllid Preifat costus iawn yn Lloegr a'r Alban. Credaf fod angen i ni ddiolch iddo am hynny gan fod tua £400 miliwn, efallai, o arian yn cael ei wario ar...
Mike Hedges: Y cwestiwn arall yw: a fydd cyfleuster ar gyfer ailstrwythuro taliadau yn y dyfodol? Nid wyf yn siŵr, efallai, os gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym nawr a fydd y costau hyn yn sefydlog, neu a fyddant yn newidiol. Os ydynt yn newidiol, a fydd modd eu hailstrwythuro?
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe?
Mike Hedges: Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i gymryd rhan mewn dadl ar amodau gwaith a chyflogau. Y rheswm dros fodolaeth y Blaid Lafur a pham y cafodd ei ffurfio yn y dechrau oedd i amddiffyn gweithwyr rhag camfanteisio. O ran cyflogaeth, mae pethau wedi newid, ac nid er gwell, i’r rhan fwyaf o weithwyr dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Yn y 1970au, y disgwyl oedd cyflogaeth amser llawn, naill ai am dâl...
Mike Hedges: Nid oes gennyf ond 17 eiliad, yn anffodus, Darren. Dylem gael uchelgais i greu Cymru ag economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a dylai ddod yn wlad cyflog byw. Dyna sydd yn rhaid i ni ei wneud. Mae ‘Ni allwn ei fforddio’ a ‘Bydd yn arwain at golli swyddi’ wedi bod yn ddadleuon yn erbyn pob newid blaengar o ddiddymu caethwasiaeth i’r isafswm cyflog.