Canlyniadau 121–140 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

10. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Iechyd Trawsffiniol (30 Tach 2016)

Caroline Jones: Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn fy enw i. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel y darganfu’r Pwyllgor Materion Cymreig, mae’r gwahaniaeth cynyddol rhwng y systemau gofal iechyd trawsffiniol nid yn unig yn achosi dryswch i gleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau trawsffiniol, ond hefyd mae’n peri anhawster i gael mynediad at...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 7 Rha 2016)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn hynod o boenus darllen yn y papurau am artaith teulu dyn 86 mlwydd oed a laddodd ei wraig 85 oed a oedd yn dioddef o ddementia, ac yna, ag yntau’n methu ag ymdopi, ei fod wedi camu o flaen trên. Ef oedd gofalwr ymroddgar ei wraig ac maent yn gadael chwech o blant sy’n teimlo’n siomedig ac yn honni nad oedd darpariaeth y gwasanaethau...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 7 Rha 2016)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2014, cwblhawyd adolygiad o ofal preswyl, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’. Daeth i’r casgliad fod gan ormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd annerbyniol. Er bod cyfres o ofynion ar gyfer gweithredu ar gartrefi gofal wedi cael eu gweithredu gan Sarah Rochira, ein comisiynydd pobl hŷn ymroddedig sydd a thîm o...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 7 Rha 2016)

Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o gyhoeddusrwydd a phryder ar hyn o bryd ynglŷn â ffioedd atodol mewn cartrefi gofal ac i ba bwrpas y defnyddir y ffioedd hyn. Sut y gallwn sicrhau perthnasau, a phreswylwyr yn wir, mewn cartrefi gofal bod eu ffioedd yn cael eu defnyddio’n briodol?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Rhewmatoleg
(13 Rha 2016)

Caroline Jones: Ymddiheuraf am gwestiwn tebyg, ond, Brif Weinidog, gyda thua 400,000 o blant yn byw yn y de, mae'r ffaith bod y rhanbarth yn dal i fod heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaeth pwrpasol yn ddychrynllyd. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn rhan amser gan riwmatolegydd oedolion, ond nid oes rhwydwaith clinigol ffurfiol na mewnbwn amlddisgyblaeth digonol. Pa...

6. 5. Datganiad: Strategaeth Tlodi Plant Cymru — Adroddiad Cynnydd 2016 (13 Rha 2016)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n braf nodi bod cynnydd wedi'i wneud o ran lleihau tlodi plant. Fodd bynnag, mae gennym ffordd hir ofnadwy i fynd os ydym i gyflawni’r nod yr ydym i gyd yn ei rannu o ddileu tlodi plant unwaith ac am byth. Sylwaf o'ch datganiad heddiw na fyddwch yn gallu cyrraedd eich targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac i raddau yr ydych...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cyfiawnder Ieuenctid
(14 Rha 2016)

Caroline Jones: 6. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid? OAQ(5)0084(CC)

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant yn Ne Cymru
(14 Rha 2016)

Caroline Jones: 9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi plant yn ne Cymru? OAQ(5)0081(CC)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Morlynnoedd Llanw
(14 Rha 2016)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe fydd y cynllun cyntaf o’i fath yn y byd ac mae’n dechnoleg heb ei phrofi i bob pwrpas. Mae’r datblygwyr yn honni y bydd y cynllun yn darparu 320 MW o gapasiti gosodedig, ond nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod faint o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu mewn gwirionedd. Fel rydym wedi’i weld o gynllun llanw swnt Dewi, nid yw...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cyfiawnder Ieuenctid
(14 Rha 2016)

Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, cefais siom wrth ddarllen bod gan dros 60 y cant o’r rhai 15 i 18 oed mewn carchar yn fy rhanbarth broblem sy’n gysylltiedig â chyffuriau wrth ddod i’r carchar. Amlygwyd hefyd y bydd llawer o’r bobl ifanc hyn wedi treulio amser yn y system ofal, wedi chwarae triwant o’r ysgol, neu wedi dioddef o ganlyniad i anawsterau dysgu a/neu...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant yn Ne Cymru
(14 Rha 2016)

Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod ymysg yr uchaf yn y DU. Yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, mae gennym dros 36,000 o blant yn byw mewn tlodi, sef 28.4 y cant o blant y rhanbarth. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar gyflwr y genedl yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan ddatgan nad...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Ion 2017)

Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru yn ystod 2017?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cefnogi Twf Economaidd
(10 Ion 2017)

Caroline Jones: Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r economi yn fy rhanbarth i o hyd yn ystod 2017 yw seilwaith gwael. Mae economi ffyniannus yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth da. Gyda gwaith trydaneiddio yn cael ei wneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd, mae busnesau yng Ngorllewin De Cymru ar drugaredd y llif traffig ar yr M4. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i leihau tagfeydd ar yr...

2. Cwestiwn Brys: Gofal Brys (10 Ion 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, dylai’r ffaith fod is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru yn dweud fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu a bod staff yn cael trafferth i ymdopi â gofynion dwys fod yn achos pryder mawr i ni i gyd. Yn gam neu'n gymwys, disgrifiodd y Groes Goch y sefyllfa dros y ffin yn argyfwng dyngarol a dywedodd Dr Roop fod perfformiad mewn rhai meysydd cyn...

4. 3. Datganiad: Ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru (10 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar yn un yr ydym i gyd yn ei rannu. Dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae disgwyl i nifer y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt gynyddu gan oddeutu 40 y cant dros y degawd nesaf. Mae croeso mawr iawn i’r ffaith y gall dioddefwyr dementia yng Nghymru, eu...

6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd (10 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich llythyr yn gynharach heddiw. Mae’r newyddion y gall cleifion bellach elwa ar y gronfa triniaethau newydd i’w groesawu, a bydd yn rhyddhad mawr i lawer o gleifion yng Nghymru, y mae rhai ohonyn nhw wedi mynd i Loegr am driniaeth o’r blaen. Pan drafodir mynediad at feddyginiaethau, mae’n ymwneud fel arfer â chyffuriau...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (11 Ion 2017)

Caroline Jones: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru?

5. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Parodrwydd y GIG ar gyfer y Gaeaf (11 Ion 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Hyd yn hyn, mae gaeaf 2016-17 wedi bod yn un mwyn ac ar wahân i ogledd-ddwyrain Cymru, ni fu unrhyw achosion difrifol o salwch tebyg i ffliw. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi lleihau pwysau ar ein GIG. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn fel na all y system ymdopi â chynnydd...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra (11 Ion 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw am gyflwyno’r ddadl hon ar ordewdra, yn enwedig yn union ar ôl y Nadolig, fel y mae Angela wedi dweud. Mae gwneud rhywbeth da ar gyfer mis Ionawr yn addewid y gall pawb ohonom ei gefnogi yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra. Mae’n fater o gywilydd cenedlaethol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean o blant...

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd (11 Ion 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Neil Hamilton am gynnig y ddadl hon heddiw. Mae’r rhai a oedd yn gwrthwynebu i’r DU adael yr UE yn benderfynol o ddod o hyd i unrhyw ffordd bosibl o’n cadw wedi ein clymu at fiwrocratiaeth anetholedig, annemocrataidd, wedi’i llethu gan reoliadau cyfyngol heb allu rheoli ein ffiniau ein hunain—a’r cyfan er mwyn sicrhau mynediad at yr hyn a elwir yn...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.