Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Mannau Agored wedi galw ar awdurdodau lleol a datblygwyr i sicrhau mai 2017 yw blwyddyn maes y pentref. Maent yn annog datblygwyr i gynnwys meysydd pentref cofrestredig ar eu safleoedd, er mwyn sicrhau lle gwyrdd gwarantedig i bobl leol ar gyfer gweithgareddau hamdden. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i drafod y mater hwn gyda’i chyd-Aelod yn...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Groes Goch yn cynnig cymorth rheolaidd i’r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn ystod gwaith arferol a digwyddiadau mawr. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r Groes Goch er mwyn eu galluogi i barhau i ddarparu’r cymorth mwyaf gwerthfawr i wasanaethau ambiwlans Cymru?
Mohammad Asghar: Fel un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf ar y pwyllgor hwn, am y 10 mlynedd diwethaf i fod yn fanwl gywir, ac ar ôl 45 mlynedd fel cyfrifydd mewn practis cyhoeddus, rwy’n gwybod ychydig am waith ffigurau. Eisiau gwybod am afreoleidd-dra ariannol oedd Neil McEvoy. Mae’n rhaid i ni edrych ar adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru. Rwy’n cytuno â chi y dylai’r adran honno ymgymryd...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n un o'r pethau hynny y mae pawb yn siarad amdano—yr ardaloedd menter. Dim ond hanner awr yn gynharach, braf oedd clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dweud—yn ei eiriau ei hun— bob rhan o Gymru ... y rhannu’r cyfoeth a grëir. Gwaith gwych. Dangosodd ffigurau a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2015 hefyd ganlyniadau cymysg ardaloedd menter yng...
Mohammad Asghar: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae mater ffioedd dysgu myfyrwyr a threfniadau ariannu addysg uwch wedi mynnu cryn sylw. Fodd bynnag, mae gan addysg bellach ran yr un mor bwysig os nad yn bwysicach o ran darparu sgiliau i economïau lleol a’u dysgwyr, ac yn haeddu sylw cyfartal. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y bydd gostyngiad parhaus yn y cyllid ar gyfer sgiliau lefel is yn peryglu’r...
Mohammad Asghar: Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod pa mor hanfodol yw sefydliadau addysg bellach ar gyfer darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gywain y sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i ddiwydiant drwy raglenni prentisiaeth a sicrhau cyflogaeth amser llawn yn y pen draw. Ddirprwy Lywydd, fe adroddaf stori fach wrth fy nghyd-Aelodau yma, a ffaith wir. Daeth gŵr bonheddig i’r wlad hon yn 22 neu’n 23 oed....
Mohammad Asghar: Brif Weinidog, Casnewydd yw un o'r trefi neu ddinasoedd sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig pan ddaw i siopau gwag. Roedd mwy na chwarter siopau’r ddinas yn wag yn ystod hanner cyntaf 2016, yn ôl y Cwmni Data Lleol. Pa gynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ddarparu cymhellion, fel rhyddhad treth, i bobl agor busnesau newydd mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o siopau gwag,...
Mohammad Asghar: Brif Weinidog, bydd chweched dosbarth presennol Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Ysgol Uwchradd Gatholig St Albans ac Ysgol Croesyceiliog yn cael eu diddymu'n raddol yn fuan. O ystyried y bydd rhaid i staff chweched dosbarth yn yr ysgolion hyn gystadlu am swyddi yn y ganolfan newydd, a wnaiff y Prif Weinidog ein hysbysu faint o ddiswyddiadau a ddisgwylir o ganlyniad i’r ad-drefnu hwn a pha...
Mohammad Asghar: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y taliadau ymlaen llaw i gleifion tramor sy’n defnyddio'r GIG yng Nghymru? O fis Ebrill eleni, bydd yn ddyletswydd gyfreithiol ar ysbytai'r GIG yn Lloegr godi tâl ar gleifion tramor ymlaen llaw am ofal nad yw’n ofal brys os nad ydynt yn gymwys i gael triniaeth am ddim. Bydd triniaeth frys yn parhau i gael ei darparu...
Mohammad Asghar: Un o’r cyfleoedd a nodwyd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd yw y bydd yn galluogi pobl, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, fel y Cymoedd gogleddol, i fanteisio ar raglenni a chyfleoedd addysg a hyfforddiant presennol. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda chyd-Weinidogion ac awdurdodau lleol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd ynglŷn â chynorthwyo pobl ifanc...
Mohammad Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r canllawiau yn ymwneud â chodi tâl ar gleifion o dramor am ofal y GIG nad yw'n ofal brys?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae helpu pobl i gael gwaith yn fesur allweddol o lwyddiant i leihau tlodi. Croesawaf dro pedol Llywodraeth Cymru, felly, ar gael gwared ar y cynllun teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd unrhyw gynllun newydd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau ei fod yn llwyddiant hirdymor, fel bod modd i’n pobl ifanc, yn...
Mohammad Asghar: Weinidog, caiff menywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari eu cynghori i gael eu hofarïau a’u tiwbiau ffalopaidd wedi’u tynnu gan nad oes rhaglen sgrinio ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd yng Nghymru. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Oncology’ yn dangos y gallai prawf gwaed—prawf gwaed syml—bob pedwar mis helpu i ganfod canser yr ofari’n...
Mohammad Asghar: Brif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan Fanc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn yng Nghymru wedi gostwng gan fwy na chwarter dros y pum mlynedd diwethaf. Gostyngodd nifer y busnesau newydd gan fwy na 27 y cant yng Nghaerffili, mwy na 23 y cant yn Nhrefynwy, a llai na 9 y cant yng Nghasnewydd, ac 8 y cant ym Mlaenau Gwent. Nid yw hynny'n cynnig darlun da o fusnesau newydd...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y cyhoeddiad am golli 60 swydd yn Gyrfa Cymru? Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth annibynnol am yrfaoedd, cyngor ac arweiniad i rai o bob oed yng Nghymru. Mae'n helpu pobl i wneud penderfyniadau realistig ynglŷn â gyrfa, boed drwy annog addysg bellach, hyfforddiant, datblygu sgiliau neu gyflogaeth. Mae'n destun...
Mohammad Asghar: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yng Nghymru? OAQ(5)0103(ERA)
Mohammad Asghar: 5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cefnogaeth ar gyfer cymunedau i leihau tlodi plant yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(CC)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb cadarnhaol, Weinidog. Roedd adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2007 yn amlygu pwysigrwydd pysgota i economi Cymru. Amcangyfrifwyd fod pysgodfeydd mewndirol Cymru yn cynhyrchu £75 miliwn o wariant gan bysgotwyr, gyda llawer ohonynt yn ymwelwyr â Chymru o dramor. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cynyddu mynediad cyfrifol a chynaliadwy at ddyfroedd...
Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Wrth gyhoeddi bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod am greu cymunedau sy’n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant. Fodd bynnag, mae Sefydliad Bevan wedi rhybuddio bod y sefydliadau sy’n cyflwyno Cymunedau yn Gyntaf a’r cymunedau eu hunain mewn cyfnod o limbo go iawn yn sgil cael gwared ar...