Russell George: Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar ddatganiad yr hydref y Canghellor. Bydd fy nhôn yn wahanol iawn yn wir i’r siaradwr diwethaf sydd i’w weld fel pe bai eisiau bychanu Cymru. Mae’n ymddangos fod y gwydr yn hanner gwag i’r siaradwr diwethaf—
Russell George: O na, yn hollol wag, yn bendant. Nawr, rwy’n croesawu buddsoddiad y DU yn nyfodol economaidd Cymru drwy gynnydd o £400 miliwn mewn cyllid cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r arian hwn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £500 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ei fenthyca i’w fuddsoddi hefyd o 2018, symudiad y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud y gallai agor y drws ar...
Russell George: Iawn, fe wnaf.
Russell George: Rydych yn parhau i fod â ‘gwydr hollol wag’. Er gwaethaf y rhagolwg tywyll, mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn gorffen 2016 gyda diweithdra is nag erioed—[Torri ar draws.]
Russell George: Rydym yn gorffen 2016 gyda diweithdra is nag erioed, yn sylweddol is na chyfartaledd yr UE, a gydag economi Prydain ar y trywydd i dyfu’n gynt na gwledydd eraill y G7. Fy marn i yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi’r flaenoriaeth i wella ein seilwaith, yn enwedig o ganlyniad i adael yr UE. Yn wir, o ganlyniad i’r sicrwydd cyllid y mae’r Canghellor wedi ei...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, wedi crybwyll hefyd fod datganiad yr hydref yn nodi’r sylfeini cyllido cadarn ar gyfer buddsoddi yn ein ffyrdd a’n hysgolion a’n hysbytai i wella twf, wrth gwrs, a chynnal yr economi hefyd. Nawr, ar seilwaith digidol megis band eang ffibr a phumed genhedlaeth—mae hon yn un o fy mhregethau, rwy’n gwybod—mae datganiad...
Russell George: Mae ehangu Maes Awyr Heathrow yn sicr yn hwb mawr i fasnach a thwristiaeth yng Nghymru. Nawr, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu â denu llawer o hwb cadarnhaol i Gymru yn gyfnewid am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r ehangiad. Mewn memorandwm o gyd-ddealltwriaeth i Lywodraeth yr Alban, sicrhaodd Llywodraeth yr Alban 16,000 o swyddi newydd,...
Russell George: Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd y banc datblygu yn cael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn newydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn ychydig yn siomedig bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ychydig iawn yn y datganiad heddiw o ran yr achos busnes ar gyfer model hybrid y banc datblygu i ganiatáu ar gyfer craffu heddiw gan Aelodau'r Cynulliad. Rwy’n...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau’r statws a’r pwyslais a roddir ar bolisïau mewn cynlluniau datblygu lleol pan fydd ei swyddogion yn penderfynu pa mor dderbyniol yw unrhyw gynllun cynhyrchu ynni lleol, sydd, yn rhinwedd ei allbwn disgwyliedig, bellach yn cael ei gategoreiddio bellach fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol?
Russell George: Rwy’n ddiolchgar; nid wyf yn credu bod unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Rwy’n cytuno â hynny. Mae hwn yn fater a hyrwyddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig rai blynyddoedd yn ôl, ac rwy’n falch y bydd yna ddatganiad yfory. Ond a gaf fi ddweud: pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn? Eich rhagflaenydd, Rebecca Evans, a gododd y mater hwn yn gyntaf, ac mae wedi cymryd...
Russell George: Rwy’n datgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys. Mae aelodau o Gyngor Tref Machynlleth wedi mynegi eu pryderon ynghylch cynigion gan Gyngor Sir Powys i leoli safle parhaol i Deithwyr ger Machynlleth. Mae cynghorwyr y dref yn cytuno na fu ymgynghoriad ffurfiol, er bod y cyngor sir wedi addo cynnal un gyda’r trigolion ynglŷn â lleoliadau posibl ar gyfer y safle. Rwyf wedi cyflwyno...
Russell George: Weinidog, a allwch gadarnhau—? Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y byddai gwaith yn dechrau yn 2018, ond yn amlwg mae 24 mis tan ddiwedd 2018. A allwch gadarnhau pryd yn 2018 y gallai ddechrau? A allwch roi dyddiad ychydig yn fwy manwl, yn amodol, wrth gwrs, ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus? Yn eich datganiad heddiw, dywedwch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod yr asesiad...
Russell George: A gaf fi gefnogi safbwyntiau Adam Price yn llwyr? Mae’n warthus na allai Ysgrifennydd y Cabinet fod yma heddiw i gyflwyno i’r Siambr yr hyn a gyflwynodd yn ei araith y bore yma. Nid wyf—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith honno y bore yma, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw hyn: mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith a...
Russell George: Y ddau gwestiwn penodol sydd gennyf, Weinidog, yw: a gaf fi ofyn i chi amlinellu, Weinidog, pa brosiectau seilwaith fydd yn cael eu dynodi ar gyfer cefn gwlad Cymru, ac yn ail, pa brosiectau penodol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i ddarparu’r gwasanaeth rhwydwaith bysiau cynaliadwy y mae wedi ymrwymo iddo? Mae’n siomedig nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yma ei hun nac wedi...
Russell George: Cyhoeddodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a datblygu economaidd argymhellion ar sut y gellid gwella dwyieithrwydd a datblygiad economaidd. Awgrymodd tystiolaeth o'r adolygiad bod gwahaniaethau rhwng sut y mae BBaChau a busnesau mwy yn defnyddio'r Gymraeg, gyda llawer o BBaChau yn dweud mai cost yn hytrach na budd yw’r Gymraeg. Ers cyhoeddi’r adolygiad dair blynedd yn ôl, a gaf i...
Russell George: Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny. Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu...
Russell George: Erbyn mis Ionawr 2020, bydd angen i gerbydau yng Nghymru gydymffurfio â'r rheolau newydd ar gyfer y DU gyfan ar fynediad i bobl anabl. Fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd, ni fyddai’r rhan fwyaf o gerbydau Cymru a'r gororau yn bodloni’r safonau hyn ac mae gennym ni dystiolaeth i awgrymu y gallai sicrhau cerbydau newydd gymryd, wrth gwrs, hyd at bedair blynedd. A ydych chi’n ffyddiog y...
Russell George: Brif Weinidog, dywedasoch nad oes unrhyw gynnig arall ar y bwrdd ac rwy’n derbyn y sefyllfa honno hefyd. Ond a gaf i ofyn pa drafodaethau cychwynnol ydych chi wedi eu cael, fel Llywodraeth, gyda Llywodraeth y DU, yr undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb, ar ddatblygu strategaeth arall rhag ofn y bydd y cynnig presennol yn cael ei wrthod?
Russell George: Rwy’n sicr yn croesawu'r penderfyniad i dorri'r tollau, a chredaf y bydd yn hwb enfawr i fodurwyr. Nawr, rydych chi wedi amlinellu eich dymuniad, Ysgrifennydd y Cabinet, i weld y tollau ar groesfan Hafren yn cael eu diddymu, ac rwy’n cytuno â’r uchelgais honno hefyd, hyd yn oed os oes cwestiynau ariannol difrifol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac, yn wir, faterion yn ymwneud â...
Russell George: Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol y bu’n rhaid gwagio eiddo ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener ar ôl iddyn nhw gael eu gorlifo gan ddŵr o brif gyflenwad a oedd wedi byrstio, sy'n cario dŵr o Lyn Efyrnwy i Lerpwl. Difrododd y llifogydd y neuadd bentref newydd hyd yn oed, a agorwyd gan y Prif Weinidog, rwy’n ei gofio’n dda, a hynny ond yn...