Canlyniadau 121–140 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ( 9 Tach 2016)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Yn ystod wythnos y Cofio rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch, ac yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu cyfamod y lluoedd arfog, sydd wedi’i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cau’r Bwlch Cyflog rhwng Menywod a Dynion
(15 Tach 2016)

Mark Isherwood: Pa gamau neu ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu yn dilyn adroddiad newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif cost ariannol gwahaniaethu ac anfantais ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, a ganfu fod busnesau yn y DU yn colli bron i £280 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i fenywod yn cael eu gorfodi allan o'u swyddi gan wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Tach 2016)

Mark Isherwood: Galwaf am ddau ddatganiad, a’r cyntaf yn ymwneud â swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gefnogi merched sydd ag anghenion lluosog. Mae hyn yn dilyn adroddiad am hynny, o'r enw ‘Leading Change’, a anfonwyd ataf gan Ganolfan Merched Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf. Maen nhw’n dweud, er ei fod o safbwynt Lloegr, ei fod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i'n...

3. 3. Datganiad: Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Bach a Gwledig (15 Tach 2016)

Mark Isherwood: Fel y dywedwch, gall ysgolion bach ac ysgolion gwledig ddarparu manteision academaidd, diwylliannol a chymdeithasol gwirioneddol. Pan alwais ar Lywodraeth flaenorol Cymru i ymateb i bryderon bod Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio data hen ac anghywir ac yn gweithredu’n groes i'r cod trefniadaeth ysgolion ynglŷn â chynigion i gau nifer o ysgolion yno, gan gynnwys ysgolion bach ac ysgolion...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(16 Tach 2016)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, bûm yn siarad yng nghynhadledd Newid Ystyrlon yn Llanrwst yng ngogledd Cymru a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac a oedd yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar ddysgu am enghreifftiau ysbrydoledig lle y cafodd cydgynhyrchu ei fabwysiadu’n effeithiol, a thrafod ffyrdd y gallwn gynnwys pobl fwyfwy yn y broses o gynllunio a darparu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(16 Tach 2016)

Mark Isherwood: Gobeithiaf y byddwch yn cytuno â mi nid yn unig nad yw’n wahanol iawn, ond ei fod yn greiddiol iddo, gan fod adroddiad ‘Siarad Cenedlaethau’r Dyfodol’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yr wythnos diwethaf wedi rhoi llawer o enghreifftiau o gyfarfodydd grwpiau rhanddeiliaid ledled gogledd Cymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, lle mae’r ddau ohonom yn byw, a dywedodd fod...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(16 Tach 2016)

Mark Isherwood: Diolch. Yn amlwg, mae’n ymwneud ag ieithwedd, ond mae hwn yn fudiad byd-eang ag iddo derm byd-eang, ac mae cannoedd o sefydliadau ledled Cymru bellach wedi ymuno ag ef. Felly, yn olaf, efallai y byddwch wedi fy nghlywed—credaf eich bod wedi ddoe—yn cyfeirio at adroddiad a anfonwyd ataf gan Ganolfan Menywod Gogledd Cymru, ‘Leading change: the role of local authorities in supporting...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pobl Hŷn (16 Tach 2016)

Mark Isherwood: Mae pobl hŷn yng Nghymru yn arwyr pob dydd, ac yn cyfrannu’n enfawr drwy waith, actifiaeth, gwirfoddoli a gwaith cymunedol, a gofalu am deuluoedd a darparu gofal plant, cyfraniad sy’n aml yn cael ei anwybyddu gan gymdeithas. Maent yn haeddu urddas a pharch, annibyniaeth a rhyddid i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u bywydau eu hunain. Yn yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan Gomisiynydd...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (22 Tach 2016)

Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
(22 Tach 2016)

Mark Isherwood: Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y comisiwn yn ei gwneud yn eglur y byddai'r comisiwn yn gynghorol ac anstatudol, ac y byddai Gweinidogion yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau buddsoddi. Os, fel yr ydych chi newydd ei nodi, gallai esblygiad Cyllid Cymru i fanc datblygu i Gymru gynnwys rhai swyddogaethau banc seilwaith, sut gwnewch chi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddor...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Tach 2016)

Mark Isherwood: Rwy’n galw am ddatganiad sengl, neu hyd yn oed yn well, ddadl yn amser y Llywodraeth, ar y newid yn strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Rwyf am sôn am nifer o faterion bach, sy'n bwysig i lawer. Yng ngoleuni adolygiad Llywodraeth Cymru o reoliadau adeiladu, mae angen i ni ystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â thystysgrifau perfformiad ynni, a all godi neu ostwng yn...

10. 7. Datganiad: Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod (22 Tach 2016)

Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad, cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ddydd Gwener, a hefyd am eich sylwadau yn nigwyddiad Diwrnod Rhuban Gwyn heddiw, i hyrwyddo’r ymgyrch Ddim yn fy Enw I gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, lle gorffennodd goroeswr cam-drin domestig ei chyfraniad dewr a theimladwy drwy ofyn i bob un...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Effaith Brexit ar Bolisi Amgylcheddol
(23 Tach 2016)

Mark Isherwood: Yn amlwg, nid yw’r amgylchedd yn parchu ffiniau neu derfynau. Beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r math o system orfodi a fydd yn angenrheidiol ar lefel y DU ar gyfer polisi amgylcheddol wedi i ni adael yr UE? Mae tystiolaeth gan Brifysgol Aberystwyth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cyfeirio at drafodaethau ynglŷn â chreu llys amgylchedd y DU....

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad (23 Tach 2016)

Mark Isherwood: Diolch. Fel llysgennad Girlguiding Clwyd, mae’n ddyletswydd arnaf i’w cynrychioli a dweud wrth eraill am yr hyn y mae Girlguiding yn ei wneud a’r cyfleoedd y maent yn eu rhoi i ferched a menywod ifanc. Y mis hwn, yn Llyfrgell Bwcle, agorodd arddangosfa ‘Gwthio Ffiniau’, a oedd wedi bod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cyn hynny, yn olrhain hanes Girlguiding yng Nghymru hyd yma. Hefyd...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Dail ar y Rheilffyrdd
(29 Tach 2016)

Mark Isherwood: Cysylltais â Threnau Arriva Cymru ar ôl tarfu ar wasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston ddiwedd mis Hydref a achoswyd gan ddail yn disgyn a'r tywydd. Fe wnaethom ateb eu bod wedi bod yn ceisio datrys y broblem am nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y rheilffordd i geisio lleihau'r effaith ar eu cwsmeriaid. Cynhyrchwyd papur ganddynt ym mis...

4. Cwestiwn Brys: Y Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd (29 Tach 2016)

Mark Isherwood: Soniasoch am y felin drafod British Influence, ac maen nhw’n dweud nad oes darpariaeth yn y cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd i aelodaeth y DU ddod i ben os yw’r DU yn tynnu allan o'r UE, felly bydd yn rhaid i'r DU dynnu ei hun allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn proses ar wahân i adael yr UE ei hun. Fodd bynnag, mae Kenneth Armstrong, athro cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol...

6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Tach 2016)

Mark Isherwood: Yn ogystal â chymeradwyo galwad Julie Morgan ynglŷn â hemoffilia a gwaed halogedig, ar ôl bod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw’r wythnos diwethaf hefyd, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar HIV/AIDS, gan gydnabod ei bod hi’n Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Iau 1 Rhagfyr. Thema Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar gyfer Diwrnod Aids y Byd...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Pobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
(30 Tach 2016)

Mark Isherwood: Gan hawlio y bydd yn Trawsnewid y cymorth addysg ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig, nid yw’r ‘Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig’, a gyhoeddwyd heddiw, ond yn cyfeirio wedyn, mewn gwirionedd, at y Bil y cyfeirioch chi ato eisoes, sef Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Sut y...

10. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Iechyd Trawsffiniol (30 Tach 2016)

Mark Isherwood: Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion trawsffiniol yma ym mis Mai 2009, nodais, ‘mae symudiadau trawsffiniol mewn gwasanaethau iechyd... yn ffaith hir sefydledig, yn adlewyrchu’r realiti daearyddol a demograffig.’ Cyfeiriais at adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar wasanaethau trawsffiniol ar y pryd a ddaeth i’r casgliad fod diffyg cyfathrebu effeithiol rhwng...

12. 8. Dadl Fer: Byw gyda Cholli'r Golwg: Sut y Gallwn Wella Hygyrchedd yng Nghymru i Bobl Ddall a Rhannol Ddall (30 Tach 2016)

Mark Isherwood: Mae mannau neu wasanaethau a rennir yn parhau i fod yn fater arwyddocaol i bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru, lle y mae diffyg cyrbiau a mannau croesi diogel, rhwystrau ar balmentydd a dibyniaeth ar gyswllt llygad yn troi’r stryd fawr yn llefydd na all pobl ddall a rhannol ddall a chŵn tywys fynd iddynt. Dywedodd etholwr yn Sir y Fflint wrthyf, ‘Mae nam ar olwg fy nau blentyn a...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.