Vikki Howells: Diolch, Brif Weinidog. Gwn eich bod wedi ysgrifennu yn y gorffennol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, yn galw am adolygiad o gynllun pensiwn y glowyr. Cyfarfûm yn ddiweddar ag ymgyrchwyr o gymdeithas cynllun pensiwn glowyr y DU, a ddywedodd wrthyf sut y mae'r ffordd y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd yn effeithio’n wael ar wragedd gweddwon glowyr,...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Cromosom Anghyffredin, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn adeg briodol i dalu teyrnged i waith fy etholwraig Amy Walker. Ganed ei mab hi gyda chyflwr genynnol anghyffredin iawn, ac mae Amy yn ymgyrchu dros well dealltwriaeth o'r brwydrau y mae plant a theuluoedd fel ei theulu hi yn eu hwynebu’n feunyddiol. A gawn ni...
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall athrawon gefnogi addysg disgyblion yn effeithiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd?
Vikki Howells: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0675(FM)
Vikki Howells: Prif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi’n ddiweddar am annigonolrwydd cysylltiadau cludiant cyhoeddus rhwng Cwm Cynon a Chaerdydd ar y Sul, gydag, er enghraifft, gwasanaethau anaml yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, yn y brifddinas a dim ond ymhellach i lawr Cwm Cynon ei hun. O dan metro de Cymru, neu unrhyw fasnachfraint reilffyrdd...
Vikki Howells: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru? OAQ(5)0187(HWS)
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd â dementia?
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Gweinidog. Ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd â’r cyfraddau gwaethaf o ordewdra ymysg plant yng Nghymru. Mae mwy nag un o bob pedwar o blant yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon yn ordew, ac yn ogystal â pheri heriau iechyd, gwyddom fod hyn yn effeithio hefyd ar eu bywydau cymdeithasol ac addysgol. Gall arferion arloesol a chynhwysol fel y filltir ddyddiol annog gweithgaredd iach,...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd. Fel yr hydra mewn chwedloniaeth Roegaidd, mae tlodi yng Nghymru yn anghenfil sy’n meddu ar lawer o bennau. Mae’n cyflwyno amrywiaeth o heriau, ac yn ôl pob golwg, wrth i bob un gael ei goresgyn, mae dwy broblem arall yn codi yn ei lle. Fodd bynnag, yn wahanol i’r hydra chwedlonol, mae tlodi yn rhywbeth go iawn ac yn effeithio ar fywydau a lles y rhai yr effeithir...
Vikki Howells: Yn flaenorol, gallai bod o oedran pensiwn fod yn gyfystyr â byw mewn tlodi. Mae hyn wedi newid i raddau helaeth o ganlyniad i weithredoedd y Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2010, ond amcangyfrifir o hyd fod tua 50,000 o bobl hŷn yn byw mewn amgylchiadau ariannol enbyd. Yn yr un modd, er na chyflawnwyd ymrwymiadau llawn bwriadau da i roi terfyn ar dlodi plant o fewn cenhedlaeth, mae’n dal i...
Vikki Howells: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghwm Cynon sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol, a'u teuluoedd? OAQ(5)0682(FM)
Vikki Howells: Prif Weinidog, byddaf yn mynd i ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Aberdâr ddydd Sadwrn, a hoffwn gymeradwyo Rhondda Cynon Taf am eu hagwedd ragweithiol yn y mater hwn, gan fod gan gynghorau swyddogaeth mor allweddol o ran darparu llawer o'r personél gwasanaethau rheng flaen y mae personél gwasanaethau a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. Mae...
Vikki Howells: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru? OAQ(5)0157(ERA)
Vikki Howells: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y strategaeth Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? OAQ(5)0160(CC)
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n sicr yn bwysig iawn ein bod yn annog teuluoedd i ailgylchu cymaint o wastraff bwyd â phosibl yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o’r ffaith fod y cyfleuster treulio anerobig ym Mryn Pica yn fy etholaeth wedi trawsnewid gwastraff bwyd yn ddigon o drydan i bweru dros 2,500 o gartrefi ar gyfer y flwyddyn galendr y llynedd. Beth yw’r ffordd orau y gall...
Vikki Howells: Yn fy etholaeth, cafodd elfen cronfa partneriaeth canol trefi y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ei defnyddio i gefnogi mentrau pwysig yng nghanol y dref fel y mentrau â’r enwau lliwgar, Yabba Dabba Dare a Faberdare, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn denu pobl i ganol tref Aberdâr. Gan gydnabod bod y rhaglen bob amser wedi’i llunio i fod yn gynllun â phen draw iddo, pa gymorth y...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd. Heddiw, rwyf am drafod bywyd a llwyddiannau Dr Shah Imtiaz. Daeth Dr Imtiaz i amlygrwydd yn 1988 pan gafodd ei ethol yn faer cyngor bwrdeistref Cwm Cynon, gan ddod yn faer Asiaidd cyntaf Cymru, a ddisgrifiodd fel moment falchaf ei fywyd. Ond roedd Dr Imtiaz wedi bod yn ganolog i’r gymuned ers iddo gyrraedd Aberdâr yn 1970 i fod yn feddyg teulu. Fel y dywedodd y Cynghorydd...
Vikki Howells: Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i’r ACau dros Ogwr a Chastell-nedd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi’n gryno, mae sicrhau bod cartrefi Cymru yn defnyddio ynni’n effeithlon yn hollbwysig yn amgylcheddol. Mae hyn yn wir mewn perthynas â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau defnydd, ond mae hefyd yn hanfodol yn economaidd hefyd. Os ydym eisiau...
Vikki Howells: Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o fod yn llwglyd yn ystod y gwyliau ymysg plant ysgol yng Nghymru?