Michelle Brown: Mae angen i unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal yn drylwyr ac yn deg, wrth gwrs, ond sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol? Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau nad yw unrhyw ganfyddiadau yn cael eu diystyru’n syml gan yr ystrydeb sydd i’w gweld yn cael ei defnyddio pan welir bod corff cyhoeddus yn gwneud cam â’n pobl,...
Michelle Brown: 8. Ar ôl gweithredu Deddf Cymru 2017, pa bwerau eraill ddylai gael eu datganoli i Gymru? OAQ(5)0590(FM)
Michelle Brown: Os oes gennym ni’r arian i’w wario ar TG, oni fyddai’n well gwario’r arian hwnnw ar lythrennedd a rhifedd mewn ysgolion, sydd wedi bod yn methu ers cryn amser?
Michelle Brown: Iawn. Diolch i chi am eich ateb. Nodaf i chi addo yn gynharach i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond a wnewch chi addo hefyd defnyddio eich pwerau datganoledig i leihau costau i fusnesau, fel y gall cyflogwyr ddechrau cael eu denu i Gymru a darparu swyddi y mae wir eu hangen?
Michelle Brown: Diolch, Llywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag UKIP y dylai rhieni allu sbarduno arolygiad Estyn o ysgol eu plentyn os oes ganddynt bryderon penodol ynglŷn â’r ysgol?
Michelle Brown: Diolch am eich ateb. Nodaf nad yw Estyn yn edrych ar gyfraddau gadael ysgolion nac ar farn rhieni, gan fethu arwyddion posibl o broblem yn yr ysgol. Os yw rhiant yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd problem gyda’r ysgol, gallai hynny fod o ganlyniad i bryderon ynglŷn ag addysgu gwael neu oherwydd rhywbeth roeddent eisoes wedi ceisio’i ddatrys gyda’r ysgol. Hefyd, gallai fod yn syml am...
Michelle Brown: Iawn, diolch am hynny. Fel y gwyddoch, mae gormod o ysgolion yn y categorïau oren a choch. A ddylid sicrhau mecanwaith sy’n ei gwneud yn haws nag yw hi ar hyn o bryd i blant sy’n mynychu ysgol yr aseswyd ei bod yn y categori oren neu goch newid i ysgol nad yw’n methu?
Michelle Brown: Os caf fi wneud pwynt ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Dawn, mae’r ffioedd yn uwch, mewn rhai achosion, nag yr awgrymodd Dawn Bowden. Mae bellach yn costio oddeutu £1,250 i wneud hawliad diswyddo annheg. Gall hawlwyr wneud cais i beidio â thalu ffioedd, ond bydd llawer o bobl angen cymorth i wneud hynny. Bydd llawer o bobl angen cymorth gyda chyflwyno’r hawliad a’i drin. Mae’r...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd yr academi yn gyfrifol am froceru rhaglenni arweinyddiaeth a sicrhau ansawdd, yn amlwg bydd angen iddi gyflogi staff, nid wyf yn amau hynny. Ond y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw beth fydd maint yr academi—faint o bobl sy’n debygol o fod ar y bwrdd a faint o weithwyr fydd eu hangen? Sut fydd bwrdd yr academi yn cael ei...
Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon. Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn, ond mae’r cwestiwn a ofynnais y tro diwethaf y trafodwyd y syniad hwn yn y lle hwn yn dal i sefyll. Onid ydym yn meddwl bod angen gwneud mwy i wella a hyrwyddo’r cynnig bywyd sydd ar gael i weithwyr proffesiynol er mwyn eu cael i ddod i ogledd Cymru neu i beidio â...
Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er fy mod yn cefnogi’r defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, rhaid iddo ddigwydd bob amser mewn ffordd sy’n gwella addysg ar gyfer y plentyn, ac nid yn unig i leddfu baich gwaith yr athro. Mwy o athrawon, nid mwy o gyfrifiaduron, ddylai’r ateb fod bob amser i athrawon sy’n...
Michelle Brown: 10. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Etholiad Cyffredinol y DU yr wythnos ddiwethaf ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0657(FM)
Michelle Brown: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Etholiad Cyffredinol y DU yr wythnos ddiwethaf ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru?
Michelle Brown: Iawn. Diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Roedd polisïau addysg Llafur yn cynnwys diddymu ffioedd dysgu ac ailgyflwyno grantiau cynnal—rhywbeth y byddem ni’n ei gefnogi yn UKIP a dweud y gwir, o ran myfyrwyr STEM. A oes gennych chi unrhyw fwriad i gyflwyno hyn yng Nghymru?
Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad i'r amcan o sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gymwys yn ddigidol erbyn iddo adael yr ysgol. Mewn gweithleoedd modern, ychydig iawn o swyddi sy’n bodoli lle nad oes angen ryw lefel o gymhwysedd mewn technoleg ddigidol, a phrin iawn yw’r meysydd o fywyd lle nad yw'n...
Michelle Brown: Diolch, Llywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o ysgolion cynradd sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori coch neu oren a faint o ysgolion cynradd yn y categorïau coch ac oren sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori melyn neu wyrdd?
Michelle Brown: Iawn. Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn y categori oren yn cael hyd at 15 diwrnod o gymorth, gyda’r rhai yn y categori coch yn cael hyd at 25 diwrnod o gymorth. Nid oes unrhyw sôn am adnoddau ychwanegol yn y canllawiau a roddir i rieni ac ysgolion—yr adnoddau ychwanegol at ddibenion cyflogi mwy o athrawon a darparu cyfleusterau ychwanegol ac wedi’u...
Michelle Brown: Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn amlwg yn elwa o’r math o gyngor a chymorth rydych yn sôn amdanynt, ac rwy’n sylweddoli bod gwella ysgolion yn broses barhaus, a dyna pam fy mod yn pryderu am y diffyg cymorth pendant a adlewyrchir yn y canllawiau ar y system gategoreiddio ysgolion. Fodd bynnag, bydd rhai pobl ifanc wedi treulio eu haddysg naill ai mewn...
Michelle Brown: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r cynnig hwn, ac rwy’n cefnogi cynnig yr Aelod i gyflwyno Bil awtistiaeth. Rwy’n amau y byddai unrhyw un yma yn anghytuno â’r egwyddor y dylai hawliau pobl ag awtistiaeth gael eu diogelu a’u hyrwyddo. Y ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud hynny yw drwy ddeddfwriaeth, ac mae’n drueni mawr fod y Gweinidog yn mynd i ymatal ar y cynnig...
Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y diwygiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae gennyf rai cwestiynau. Rwy’n sylweddoli efallai nad oes gennych ateb pendant ar hyn o bryd i rai ohonyn nhw, ac os yw hynny'n wir, hoffwn gael eich sicrhad y gofynnir i randdeiliaid am eu barn ar y pwyntiau hyn. Nodaf y...