Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth ac nid yw’r penderfyniad i adael yr UE yn newid hyn yn uniongyrchol. Mae buddsoddi mewn plant a phobl ifanc yn beth sylfaenol dda i’w wneud. Mae’n gwneud synnwyr er lles y gymdeithas ac er budd hirdymor yr economi.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am sylwadau a chwestiynau’r Aelod. Wrth gwrs, fe fydd yr Aelod yn ymwybodol o gyhoeddiad y Prif Weinidog ei fod wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet, sydd eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, i ystyried goblygiadau gadael yr UE a beth y mae hynny’n ei olygu i Lywodraeth Cymru, a’r trafodaethau ledled y DU. Nid wyf wedi cael cyfarfod uniongyrchol gyda fy nghyd-Aelodau...
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn ac mae’n peri pryder i minnau hefyd. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar oblygiadau’r adroddiad hwnnw a faint yn fwy y gallwn ei wneud, nid yn unig gyda’r adran hon, ond hefyd drwy gymorth addysgol mewn ysgolion ac mewn sefydliadau trydydd sector o ran sut yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn gwrando ar eu barn. Yn aml, mae’r...
Carl Sargeant: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddarparu addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y cyflenwir y ddarpariaeth hon, a gallant ddewis ei darparu mewn ysgolion neu feithrinfeydd y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Carl Sargeant: Yn wir, rydym wedi ystyried y mater o ddarparu gofal plant ymhellach, a bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd ein hymrwymiad maniffesto i ddarparu gofal plant o safon yn cael ei gyflwyno yn gynt, ac y byddwn yn rhoi’r rhaglen honno ar waith ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl ifanc ledled Cymru gyfan.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am allu’r Aelod i neidio i gwestiwn 15 yn y cwestiwn atodol a ofynnodd heddiw. Ond mae’r cynllun drafft 10 mlynedd yn nodi’r cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu gofal plant y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar asesu effaith nifer o ddatblygiadau polisi cyn cwblhau cynllun y gweithlu. Mewn gwirionedd, credaf fod un o’r materion sy’n codi yn awr yn...
Carl Sargeant: Nid yw’r niferoedd hynny gennyf, ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ailadrodd ymrwymiad ein maniffesto a groesawyd yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn cyflawni hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ceisio dechrau’r rhaglenni peilot yn ystod hydref y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaglen gymhleth iawn, ond byddwn yn darparu ar gyfer pobl Cymru, a...
Carl Sargeant: Mae cymunedau ledled Cymru wedi elwa’n fawr o gyllid Ewropeaidd. Drwy drafodaethau a arweiniwyd gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau y bydd y dyraniad presennol o gyllid adfywio ar gael tan 2020.
Carl Sargeant: Mae’r gwaith hwn yn wirioneddol anodd, a phe baem yn credu’r rhai a oedd eisiau gadael yr UE, yna ni ddylem boeni gormod ynglŷn â’r swm o arian y dylem ei gael yn ôl i Gymru, ond mae gennyf fy amheuon ynglŷn â’r swm o arian a gawn. Mae’r Prif Weinidog ac is-bwyllgor y Cabinet yn parhau i arwain y gwaith o ran sut olwg fydd ar y setliad ariannol a’r amodau ynghlwm wrtho. Wrth...
Carl Sargeant: Nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd penodol ynglŷn â hyn gydag unrhyw Weinidog, ond mae’r Prif Weinidog a’r tîm wedi cael cyfarfodydd. Y Prif Weinidog a’r Gweinidog cyllid yw’r Gweinidogion arweiniol ar gyfer trafodaethau Ewropeaidd, a chafwyd llawer o drafodaethau dros fisoedd yr haf.
Carl Sargeant: Diolch i Jenny am ei chwestiwn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi plant yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu economi gref, cynyddu sgiliau, lleihau diweithdra, lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau addysg ac iechyd, a mynd i’r afael â’r premiwm tlodi. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd yn agos ag elfennau strategaeth gwrthdlodi Sefydliad Joseph Rowntree.
Carl Sargeant: Wel, mae’r gofynion y mae adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yn ymateb iddynt yn cyd-fynd yn agos iawn â datblygiad polisi Llywodraeth Cymru. Cytunaf fod cynorthwyo rhieni yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi penderfynu newid ffocws y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau ei bod yn datblygu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth i rieni. Bydd hynny’n...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym wedi gweld gostyngiad bychan o 2 y cant mewn tlodi plant yma yng Nghymru. Credaf fod hynny’n rhannol oherwydd economeg Cymru, gyda mwy o swyddi a llai o bobl ifanc yn byw mewn cartrefi di-waith. Mae’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn arwain arno o ran y strategaeth tlodi, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd i...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Dorfaen. Mae ymchwil diweddaraf y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i effaith diwygio lles a newidiadau i drethi personol yn amcangyfrif bod cyfanswm y golled flynyddol yng Nghymru oddeutu £600 miliwn.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i’r nifer o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef o drais domestig, a chaiff achosion eraill eu cefnogi drwy Gymru a ledled y DU. Rwy’n bryderus iawn nad yw llety â chymorth, gan gynnwys llochesi i fenywod, wedi eu heithrio rhag y cap lwfans tai lleol. Rydym wedi cyflwyno sylwadau i’r Adran Gwaith a...
Carl Sargeant: Yn ddiddorol, cefais drafodaethau y bore yma ynglŷn â’r union fater hwnnw. Ond y prif bryder ynglŷn â hyn oedd y setliad ariannol sy’n rhaid i ni ei gael gan Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, hyd yn hyn, nid ydym wedi cael llawer o lwc o ran cytuno ar setliad ariannol sy’n iawn ac yn briodol ar gyfer Cymru, er bod yr Alban wedi cael cytundeb gwahanol. Rwy’n siŵr, o ystyried y cyfle...
Carl Sargeant: Yn wir, credaf fod rhoi cyfle ac uchelgais i bobl yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn awyddus i’w gefnogi, a dyna pam y bydd ein rhaglen o 100,000 o brentisiaethau yn cael ei chyflwyno gan adran sgiliau’r Llywodraeth hon. Mae’r materion sy’n ymwneud â chynorthwyo pobl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhywbeth rwy’n canolbwyntio arno yn fy adran innau hefyd. Mae yna bethau rydym yn...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn taliadau annibyniaeth bersonol, mae’n rhaid i unigolyn fod â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, sy’n cynnwys cyflyrau iechyd meddwl, ac yn benodol, cyflyrau cynyddol fel dementia. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion holi’r Adran Gwaith a Phensiynau am eglurhad pellach ynglŷn â sut y maent yn...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Jenny, am eich cyfraniad heno. Croesawaf y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y dull o foderneiddio’r sector rhentu preifat, sydd wedi chwarae rhan gynyddol bwysig yn y broses o ddiwallu anghenion tai pobl. Fel y dywed Jenny, mae sawl math o landlord diegwyddor. Gall landlord diegwyddor fod yn rhywun sy’n methu â chydymffurfio...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw, a diolch i’r Aelodau am eu sylwadau. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy gydnabod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gofalu am lawer o bobl agored i niwed yn ein cymunedau, a dechrau drwy ddiolch i Cymorth Cymru am y man cychwyn? Diolch i Auriol Miller, a phob lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i’r cyfarwyddwr dros dro, Katie Dalton, pan ddaw...