Lynne Neagle: Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon heddiw i amlinellu prif gasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roedd y pwyllgor yn cytuno’n unfrydol ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn credu y bydd y Bil yn darparu llwyfan ar gyfer diwygio'r system AAA bresennol, ac mae’n hen bryd gwneud hynny, barn a rannwyd yn glir gan y mwyafrif o'r rhai a roddodd...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol?
Lynne Neagle: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru dros y chwe mis nesaf? OAQ(5)0139(EDU)
Lynne Neagle: 9. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc? OAQ(5)0140(EDU)
Lynne Neagle: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’n fawr eich sicrwydd yn y pwyllgor y bore yma y bydd y grant amddifadedd disgyblion a ailenwyd yn parhau i gael ei dargedu at ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a hefyd, diolch i chi am eich geiriau caredig am ysgol Woodlands yn fy etholaeth. Nid oes amheuaeth fod yna arfer rhagorol i’w weld yn y defnydd o’r grant amddifadedd...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â Samariaid Cymru gyda mi yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, maent wedi bod yn awyddus iawn i brif ffrydio gwydnwch emosiynol yn y cwricwlwm, ac rwy’n siŵr eu bod yn croesawu, fel finnau, y ffaith eich bod wedi mynd ymhellach, mewn gwirionedd, drwy gynnwys llesiant yn ‘Cymwys am Oes’—mae hynny’n...
Lynne Neagle: Rwy’n falch o gyfrannu’n fyr yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn ddiolchgar i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am gyfarfod â mi ar ôl y tro diwethaf y buom yn trafod hyn. Roedd eu hangerdd a hefyd eu rhwystredigaeth amlwg ar ran y teuluoedd y maent yn eu cefnogi yn bwerus a gwnaeth argraff fawr iawn arnaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fy ngwaith achos fy hun o’r brwydrau y mae...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru?
Lynne Neagle: Un o'r pethau y gallwn ni ei wneud i wella bywydau pobl hŷn yw sicrhau bod ein strategaeth dementia yn uchelgeisiol ac wir yn newid bywydau. Fel y gwyddoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet wrthi’n ystyried y nifer fawr iawn o ymatebion y mae'r Llywodraeth wedi eu cael ar hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i'r Llywodraeth gyfan, yn enwedig gan fy mod i’n credu y bydd angen...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw a rhoi ar gofnod hefyd fy nghydymdeimlad dros y rheini a gollodd eu bywydau yr wythnos diwethaf? Rwy'n ddiolchgar iawn i Tai Cymunedol Bron Afon am gyfarfod â mi yn brydlon iawn yr wythnos diwethaf i drafod goblygiadau’r trasiedi ofnadwy hwn i Dorfaen. Fel y byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym ni dri bloc aml-lawr...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy siomedigaeth ddofn yn sgil y penderfyniad hwn heddiw. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, bûm yn gefnogwr i'r prosiect hwn, fel y bu fy awdurdod lleol yn Nhorfaen, gan gredu y byddai'n beth trawsffurfiol i ardal Blaenau'r Cymoedd, yn enwedig gyda’r traddodiad cryf o weithgynhyrchu...
Lynne Neagle: 6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro canlyniadau ei chynllun pum mlynedd, Dyfodol Byd-eang, i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OAQ(5)0155(EDU)
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, fel rwy’n siŵr y byddwch wedi gweld, mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyhoeddi eu trydydd arolwg tueddiadau iaith blynyddol o ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae’r canlyniadau, rwy’n sicr y byddwch yn cytuno, yn peri pryder mawr. Daw’r arolwg 18 mis yn unig ar ôl dechrau’r cynllun, sy’n anelu at...
Lynne Neagle: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ffyniant yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0207(EI)
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi yn Nhorfaen ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad?
Lynne Neagle: Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y cynigion a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch dyfodol eu hystâd yng Nghymru yn golygu adleoli tua 200 o staff medrus allan o ganol tref Cwmbrân. Byddai hyn nid yn unig yn cael effaith ddinistriol ar yr economi leol yng Nghwmbrân, ond byddai’n creu anawsterau enfawr i staff â chyfrifoldebau gofalu nad ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai dros y 12 mis nesaf?
Lynne Neagle: Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn ymwybodol o fy mhryderon ynglŷn â mynediad at feddyginiaethau yn gyffredinol, ac rwy’n ddiolchgar i chi am gyfarfod â mi yn flaenorol i drafod Avastin. Ac rwy’n deall yr anawsterau, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni hefyd gydnabod ei bod yn anodd iawn i bobl ddeall y gall rhywbeth fod ar gael yn yr Alban, ac yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. Rwyf...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith diwygio lles yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar effaith diwygio lles ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru? Bu peth amser ers i ni drafod y mater hwn yn y fan yma. Fel y gwyddoch, cyflwynwyd gwasanaeth llawn ar gyfer credyd cynhwysol yn Nhorfaen ym mis Gorffennaf—yr ail ran o Gymru i gael y gwasanaeth llawn—ac mae'r arwyddion yn achosi pryder mawr. Mae'r faith...