Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau gwledig ledled Canol De Cymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0041(ERA)
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r cynllun datblygu gwledig yn cynnig lefel o gefnogaeth i amaethyddiaeth, boed hynny yng Nghwm Cynon, neu unrhyw le arall yng Nghanol De Cymru, neu’n wir yng Nghymru gyfan. Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i gyflwyno cynllun grantiau bach yn ystod y tymor hwn. Pa bryd y credwch y bydd y cynllun grantiau bach hwnnw ar gael i ffermwyr, a beth sydd...
Andrew RT Davies: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Un o’r pethau a gyflwynwyd gan y Llywydd yn y trydydd Cynulliad, pan oedd yn Weinidog dros faterion gwledig, oedd newid i’r system gynllunio ar gyfer anheddau gwledig o dan nodyn cyngor technegol 6. Rwy’n sylweddoli nad yw cynllunio yn eich portffolio o gyfrifoldebau—
Andrew RT Davies: Mae’n rhan ohono; gwell fyth felly—mae’r cwestiwn yn fwy perthnasol nag y credwn. [Chwerthin.] A minnau’n Aelod rhanbarthol, mae gennyf dri chyngor gwahanol yng Nghanol De Cymru sy’n dehongli’r canllawiau cynllunio hynny mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ar gyfer olyniaeth mewn busnesau fferm, ond hefyd ar gyfer busnesau gwledig, mae’r ddarpariaeth hon yn y system gynllunio yn...
Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, un o brif elfennau iechyd y cyhoedd yw codi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau iach, ble bynnag y maent. Mae’n amlwg mai o’r pethau sy’n achosi trafferth i nifer o glybiau chwaraeon ar draws fy rhanbarth, sef Canol De Cymru, yw ffioedd lleiniau a ffioedd am gyfleusterau. Rwy’n sylweddoli mai mater i...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd.
Andrew RT Davies: Weinidog, diolch i chi am eich ymateb hyd yn hyn i’r cwestiwn brys. Rwyf wedi ymweld â’r safle ar nifer o achlysuron ac rwy’n sylweddoli safle mor gymhleth ydyw, gyda thîm amlddisgyblaethol yno sy’n cyflawni ar y blaen yn eu maes, ond mewn amgylchedd cystadleuol iawn, gyda Dubai a Singapore yn cynnig arbedion maint mawr iawn i rai gweithredwyr, ond mae BA, er tegwch iddynt, wedi...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y gost ychwanegol y gallai eich polisi gofal plant ei gostio yn y pen draw o bosibl i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y Cynulliad pum mlynedd—diffyg posibl o tua £120 miliwn dros yr hyn a gostiwyd gennych ar gyfer eich maniffesto. A ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, ac os ydych...
Andrew RT Davies: Rwy’n cymryd o’ch ateb eich bod yn derbyn bod potensial ar gyfer y gorwariant enfawr hwn, yn enwedig os bydd y cynllun, gobeithio, yn llwyddiant ysgubol, er tegwch, Brif Weinidog, oherwydd fel y dywedais, cydnabuwyd gan bob plaid bod gofal plant yn fater enfawr wrth fynd i mewn i'r etholiad. Eich cynnig chi yw’r cynnig a fydd yn cael ei weithredu gan mai chi sydd mewn Llywodraeth, a...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Felly, rydych chi yn derbyn, felly, nad yw'r ffigurau hynny’n gywir ac mai eich ffigurau chi o £90 miliwn yw costau’r cynllun hwnnw. Ond, os edrychwch chi ar eich ymrwymiadau ehangach yn ystod pum mis cyntaf y Cynulliad hwn, mae gennych chi’r gefnogaeth i’r llwybr du, sef y dewis lliniaru drytaf ar gyfer yr M4, mae gennych chi’r premiwm...
Andrew RT Davies: A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, arweinydd y tŷ, ar ddefnydd awdurdodau lleol o adrannau 106, ac yn arbennig eu defnydd wrth roi ystyriaeth i ddatblygiadau hunanadeiladu neu ddatblygiadau preswyl bach? Gall adrannau 106 fod yn ddefnyddiol iawn mewn datblygiadau masnachol, gan ddenu arian ar gyfer addysg a chyfleusterau cymunedol eraill, ond does bosib y gallant fod yn arf y...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru?
Andrew RT Davies: Taflodd lluniau erchyll trychineb Aberfan rywfaint o oleuni ar y golygfeydd annirnadwy y bu’n rhaid i gymuned Aberfan, Cymru a’r byd eu dioddef 50 mlynedd yn ôl. Aeth y drasiedi hon, a lyncodd 20 o dai ac ysgol y pentref, â bywydau 28 o oedolion a 116 o blant. Roedd y plant newydd ddychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth ar ôl canu ‘All things bright and beautiful’ yn eu gwasanaeth....
Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, ers 23 Mehefin, nid yw’r awyr wedi disgyn ar ein pennau, mae twf economaidd yn iach ac yn y pen draw, mae capasiti gweithgynhyrchu yn ehangu. Bu llawer o ragfynegiadau ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm, ond yr hyn rydym yn ymwneud ag ef yma yw’r byd go iawn ac mae angen yn awr iddo fynd rhagddo, wedi’r trafodaethau. A ydych wedi cael trafodaethau gyda’ch...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ceir heriau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan o ran recriwtio a chadw athrawon mewn unrhyw system addysg. Yn anffodus, mae'r ffigurau yma yng Nghymru ar gyfer recriwtiaid newydd i'r proffesiwn yn eithaf damniol, i fod yn onest â chi. Ar ôl pum mlynedd yn y proffesiwn, bu cynnydd o 50 y cant mewn athrawon yn troi eu cefnau ar y proffesiwn a cherdded i...
Andrew RT Davies: Bri Weinidog, yn amlwg, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y gwelliant hwnnw i Fil Cymru ddoe, a mater i chi yw mapio sut yn union y byddwch chi’n defnyddio'r pwerau newydd hynny fel Llywodraeth pan fyddant yn cyrraedd yma. Mae'r undebau yn amlwg wedi rhoi eu barn ar hynny eisoes. Ond os edrychwch chi, mewn gwirionedd, ar bobl sy'n bwriadu hyfforddi i fod yn athrawon, bu gostyngiad o 9 y...
Andrew RT Davies: Rwy’n gobeithio y byddwch chi, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yn gallu rhoi rhywfaint o gig gwirioneddol ar asgwrn beth yn union y bydd eich Llywodraeth yn ei wneud ynghylch cyflogau ac amodau gwaith athrawon gyda'r cyfrifoldebau newydd. Nid wyf yn dwyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyfrif am yr adran ar hyn o bryd, ond mynegodd Dr Philip Dixon, er tegwch, farn dros y...
Andrew RT Davies: Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac, yn benodol, am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud â'i phwyllgorau amrywiol ac is-bwyllgor y Cabinet sy'n cynghori'r Cabinet. Mae rhywfaint o siom i mi, er hyn, ym mheth o'r iaith yn y datganiad hwn heddiw, yn enwedig y dôn ddigalon. Roedd Prif Weinidog...
Andrew RT Davies: Rwyf finnau hefyd yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad ar ehangu Heathrow. Bûm yn ddigon ffodus i fod ym Maes Awyr Heathrow i weld y potensial ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi cysylltu'n agos iawn â nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynnig unrhyw gymorth y gallaf ei roi i wneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn digwydd. Y siom chwerw iawn heddiw yw clywed am anallu Llywodraeth Cymru i sicrhau unrhyw...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am dri datganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw: roeddech chi a minnau ar Stryd Fawr y Bont-faen ddydd Sadwrn, pryd y tynnodd llawer o fusnesau sylw at yr ymarfer ailbrisio a gynhaliwyd a'r cynnydd enfawr y bydd llawer o'r busnesau hynny yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a fydd, yn y bôn, yn creu amheuaeth wirioneddol ynghylch eu...