Delyth Jewell: —ac y dylai pawb mewn sefyllfa o bŵer sy'n gysylltiedig â'r sgandal honno ymddiswyddo. O ran—
Delyth Jewell: Iawn. O ran eich dyletswyddau fel Gweinidog Brexit, hoffwn ofyn i chi sut y bydd ymddiswyddiad Alun Cairns yn effeithio ar waith eich Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU? A ydych yn disgwyl iddynt benodi rhywun yn ei le fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn yr etholiad, o ran y dyletswyddau a oedd ganddo ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE)? Ac a yw hyn yn creu anawsterau mewn unrhyw...
Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y ddogfen Ein Dull Gweithredu?
Delyth Jewell: Cadarnhaodd datganiad gan Weinidog yr economi neithiwr bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfarfod gydag undeb Community a'r ymgynghorwyr, Syndex, i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer ffatri ddur Orb yng Nghasnewydd. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n newyddion da iawn. Tybed a all y Gweinidog rannu rhywfaint o wybodaeth gyda ni o ran yr hyn sydd wedi cael ei gynnig. Yn gyntaf, a allai ddweud...
Delyth Jewell: A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r baich trethu ar bobl ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd?
Delyth Jewell: Mae rheilffyrdd y Cymoedd yn wynebu problemau difrifol bob dydd, fel y mae rheilffyrdd ledled de-ddwyrain Cymru. Rwy'n gwybod hyn o fy mhrofiad fy hun ac o'r cwynion rwy'n eu gweld gan etholwyr. Y bore yma, defnyddiwyd trên dau gerbyd yn ystod yr oriau brig rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gyda phobl yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi'u gwasgu i mewn fel sardîns ac yn teimlo'n...
Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau offthalmoleg a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Delyth Jewell: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU a safon uwch? OAQ54763
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Mae arolwg 'Tueddiadau Ieithoedd Cymru' diweddaraf y British Council yn ddiddorol iawn i'r rhai ohonom sy'n credu bod dysgu ieithoedd tramor modern yn bwysig nid yn unig er mwyn cynyddu sylfaen sgiliau ein pobl ifanc, ond er mwyn cynyddu eu hempathi ac ehangu eu dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. Dengys yr ymchwil fod y cwymp yn nifer y disgyblion sy'n...
Delyth Jewell: Mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Mae'n glefyd nad oes digon o bobl yn ymwybodol ohono mewn manylder, ond os yw'n rhywbeth sydd wedi cyffwrdd â'ch teulu chi, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol ydyw. Gwn y bydd llawer ohonom sy'n cyfrannu at y ddadl hon yn ddyledus i sefydliadau fel Pancreatic Cancer UK am anfon ystadegau atom, a hoffwn gofnodi fy niolch...
Delyth Jewell: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Nwyrain De Cymru? OAQ54811
Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd un o'm hetholwyr â mi yn ddiweddar gyda phryderon difrifol am y ffordd y mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi bod yn ymdrin â'i achos. Nawr, rhoddwyd llawdriniaeth iddo tua degawd yn ôl i gael gwared â melanoma malaen, a oedd yn llwyddiannus, diolch byth, ond dywedwyd wrtho y byddai angen archwiliadau blynyddol am weddill ei oes i fonitro'r sefyllfa. Ers hynny...
Delyth Jewell: Weinidog, mae'r teithwyr ar reilffordd Rhymni wedi cael addewidion ynghylch y trenau 769, a mwy o gapasiti, ers mis Mai 2018, ac maent yn dal i aros. Nawr, rwy’n derbyn eich pwynt ynglŷn â’r hyn rydych wedi'i ddweud wrth Hefin David—sef, pan fydd y trenau 769 yn cael eu cyflwyno, y bydd hynny’n arwain at gynnydd yn y capasiti. Ond dywedasoch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mantra'r Torïaid ar gyfer yr etholiad hwn yw eu bod yn mynd i gael Brexit wedi'i wneud. Gwyddom fod hynny'n gelwydd, ac yn fwy na hynny, mae'n amlwg bellach fod y bygythiad o 'ddim cytundeb' ar ddiwedd 2020 hyd yn oed yn fwy. Weinidog, a ymgynghorodd Boris Johnson neu Michael Gove â Llywodraeth Cymru cyn dweud wrth y wasg nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y...
Delyth Jewell: Ie, sefyllfa druenus iawn yn wir. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd ein Senedd, y prynhawn yma, yn trafod cynnig Plaid Cymru ar breifateiddio'r GIG. Yng ngwelliannau eich Llywodraeth i'r cynnig, nid ydych wedi dileu cymalau sy'n nodi y gallai cytundeb masnach ôl-Brexit yn y dyfodol rhwng y DU a'r UDA yn hawdd fod yn drychinebus i GIG Cymru. Felly, rwy'n cymryd bod y Llywodraeth yn cytuno...
Delyth Jewell: Diolch am eich eglurhad, Weinidog. Nid wyf yn synnu eich bod yn rhannu ein pryder ynglŷn â'r sefyllfa, a buaswn yn eich annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried cefnogi ein hateb i hyn hefyd yn y ddadl y prynhawn yma. Ond rydych wedi sôn eisoes fod rhan arall o’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn ein cynnig yn ymwneud â chael feto ar gytundebau masnach, ac rydych hefyd wedi cyfeirio at y...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein GIG mewn perygl enbyd. Wythnos sydd i fynd cyn yr etholiad erbyn hyn. Yr etholiad sydd i fod i gael Brexit wedi'i wneud, yn ôl Boris Johnson. Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn ymweld â'r DU i roi sicrwydd i ni nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael mynediad i'r farchnad am ein GIG. Mae'r ddau safbwynt yn gelwydd. Ni fydd cynlluniau Brexit y Ceidwadwyr yn...
Delyth Jewell: Gwnaf.
Delyth Jewell: Byddai cwmnïau fferyllol mawr yr UDA eisiau dadreoleiddio'r farchnad gyfan, fel y gallai cyffuriau yr Unol Daleithiau gystadlu. Ac mae pawb ohonom wedi darllen y straeon, Mark, ynglŷn â sut y mae fferyllfeydd yn y DU ar hyn o bryd—er enghraifft, ar gyfer unrhyw fath o barasetamol, mae'r pris yn llawer is na'r hyn y byddai ar gyfer cyffur cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Felly, os oes...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r ddadl yma heno. Diolch i David Rees am ei gyfraniad, oedd yn cytuno gyda rhan o'n cynnig ni o leiaf. Rwy'n cytuno â beth mae David yn ei ddweud am y bygythiad i'r NHS. Yn amlwg, buasem ni ddim, ym Mhlaid Cymru, dim ond eisiau feto, a dyna pam mae e ddim ond yn un o'r pethau dŷn ni'n ei gynnig yn ein cynnig ni heddiw. Ond rwy'n...