David Melding: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19? OQ55920
David Melding: 4. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd? OQ55921
David Melding: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tybed a ydych wedi cael cyfle i ystyried sylwadau'r Athro Sally Holland, y comisiynydd plant, i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn, a ddywedodd fod y gwasanaethau a gâi eu darparu o'r ysgolion a oedd yn cynnig presenoldeb amser llawn neu allgymorth gweithredol i hybiau nad oeddent prin yn bodoli, yn amrywio'n enfawr, yn ystod y...
David Melding: Diolch i'r Llywydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r arloesedd a welsom, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, drwy gydol y cyfnod datganoli yng Nghymru, ac yn sicr yn ystod y pumed Senedd hon. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, oherwydd mae pob un ohonom eisiau dinasyddiaeth weithredol, fel y clywsom mewn atebion blaenorol. Ac mae'n ymddangos i mi, yn ogystal â...
David Melding: A gaf i ymddiheuro os yw unrhyw beth a grybwyllaf yn fy nghyfraniad eisoes wedi cael sylw yn y rhan o araith y Cwnsler Cyffredinol a gyflwynwyd yn Gymraeg? Nid oedd y cyfieithu yn gweithio ar fy nyfais i, mae arnaf ofn. Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn wrth ddadansoddi gweithrediad tribiwnlysoedd yng Nghymru, ac felly bydd o ddiddordeb cyffredinol i bobl, oherwydd gall yr...
David Melding: 5. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo gwydnwch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55968
David Melding: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A wnaiff hi ategu fy nghanmoliaeth i'r ymchwil a wnaed gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac a gyhoeddwyd fis diwethaf yn y cyfnodolyn uchel ei barch Frontiers in Psychiatry? Mae'n astudiaeth un wlad, sy'n myfyrio ar arolwg cynharach a gynhaliwyd yn 2018-19, ac yna'n cymharu sut roedd pobl yn teimlo yn ystod y pandemig. Dangosodd gynnydd o deirgwaith...
David Melding: Ceisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau rhagorol a wnaeth Helen Mary, ond hoffwn eu hategu'n llawn. Byddwn yn dweud hyn, serch hynny, am y gwelliant yn y sylw a roddir i faterion datganoledig, fod Mark Drakeford wedi dod yn dipyn o ffigwr cwlt ledled y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddatganiad di-bolisi ar fy rhan i, ond mae wedi cael proffil, mae wedi cael ei broffilio hefyd ar Radio 4 gan Nick...
David Melding: Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a'r rheswm rwy'n siarad yw fy mod am gymeradwyo adroddiad y pwyllgor. Hoffwn bwysleisio nad wyf yn erbyn egwyddor y Bil marchnad fewnol, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod yr un ger ein bron wedi’i ruthro a heb ei gynllunio’n dda, yn nodweddiadol o ystyried ei oblygiadau cyfansoddiadol. Yn wahanol i'r...
David Melding: O ran ei effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig, credaf ei bod yn bwysig nodi yma fod y Bil mewn perygl o’i gwneud yn llawer anoddach i arfer pwerau datganoledig, ac wrth eu harfer y mae pwerau'n arwyddocaol. Gallant fodoli'n dybiannol, ac mae llawer o bobl wedi cyfeirio at y 70 o bwerau ychwanegol yn ôl pob sôn a fydd yn dod inni wrth iddynt gael eu symud o Frwsel, ond os na ellir...
David Melding: Prif Weinidog, diben cynllun grant rhwystrau Busnes Cymru yw blaenoriaethu'r rhai y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnyn nhw, fel menywod, pobl anabl, pobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, ac i roi rhywfaint o gymorth ariannol i'r bobl hynny a fydd eisiau sefydlu busnes yn ystod y misoedd nesaf. Tybed pryd y bydd y...
David Melding: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y de, rydym yn debygol yn ystod y dyddiau nesaf o weld lefelau heintio o 1,000 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac erbyn y Nadolig, gallen nhw godi hyd yn oed yn uwch a chyrraedd y lefelau uchaf erioed a welwyd yn ardal Walloon yng Ngwlad Belg ddechrau'r hydref. Dyna faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac mae siawns go iawn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y...
David Melding: Trefn. Rydym yn awr yn ailddechrau gydag eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Lynne Neagle.
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Lynne. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedoch chi am grŵp cynghori'r Gweinidog. Rhaid imi ymddiheuro i'r Aelodau. Dylwn fod wedi rhoi dwy funud lawn ichi ar ôl i'r gloch gael ei chanu, ac ofnaf mai dim ond 20 eiliad a gawsoch. Felly, rwy'n ymddiheuro i'r rhai sydd allan o wynt, ac ni fyddaf yn cosbi unrhyw un a gyrhaeddodd ychydig yn hwyr oherwydd fy...
David Melding: A galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd—roeddwn bron â dweud 'Cadeirydd', oherwydd mae ein Cadeirydd dros dro ardderchog yn y pwyllgor ar yr ochr arall i'r Siambr. Ond rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i Helen, sydd, ers 1999, wedi bod yn wasanaethwr ac yn rym mawr ym maes datganoli yng Nghymru a datblygiad ein sefydliadau gwleidyddol, ac mae wedi camu i mewn mor fedrus. Rydym i gyd yn edrych ymlaen, yn...
David Melding: Trefn. Rydym yn ailddechrau gydag eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim, a galwaf ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.
David Melding: Mae'n ddrwg gennyf. Siân Gwenllian.
David Melding: Ymddiheuriadau, Siân. Cyflwynwch y cynnig os gwelwch yn dda.
David Melding: Mae'r Llywydd wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.