Huw Irranca-Davies: Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 12 i Ddeddf 2016 i ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf o chwe mis ar gyfer hysbysiad landlord, sydd eisoes yn ofynnol mewn cysylltiad â chontractau safonol cyfnodol newydd, i gontractau safonol cyfnodol wedi'u trosi, yn weithredol o 1 Mehefin 2023. Mae ymestyn y cyfnod hysbysu o dan gontractau safonol cyfnodol wedi'u trosi o ddeufis i chwe mis yn golygu...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn brynhawn ddoe, ac mae ein hadroddiad hefyd wedi’i osod er mwyn hysbysu’r Aelodau y prynhawn yma. Mae’r rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer rhoi grantiau a benthyciadau gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen.
Huw Irranca-Davies: Mae'r rheoliadau'n disodli set flaenorol o reoliadau drafft a osodwyd ddiwedd mis Medi ac a ystyriwyd gan fy mhwyllgor yng nghanol mis Hydref. Roedd ein hadroddiad ar y fersiwn flaenorol honno o'r rheoliadau yn cynnwys nifer o bwyntiau adrodd, yn dechnegol ac yn gysylltiedig â rhinweddau. Felly, mae'r rheoliadau diwygiedig hyn yn wir wedi'u gosod i fynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd yn yr...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Yn ein hadroddiad, daethom i un casgliad, a gwnaethom naw argymhelliad. I ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ysgrifennu atom gyda gwybodaeth bellach i gynorthwyo ein gwaith craffu ar y Bil, yn lle'r sesiwn dystiolaeth a gafodd...
Huw Irranca-Davies: Fel y bydd y Senedd yn gwybod, rydym ni’n edrych yn fanwl iawn ar gynnwys pwerau mewn Biliau i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, Llywydd, mae'r Bil hwn yn cynnwys pum pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, un pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod, a dau bŵer i gyhoeddi cyfarwyddiadau. Nawr, mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â'n cred gyson nad yw'r gweithdrefnau craffu sydd ynghlwm...
Huw Irranca-Davies: Diolch am gadarnhau’r hyn rwyf wedi’i glywed mewn sesiynau briffio a ddarparwyd i mi ac i Aelodau eraill o'r Senedd o bleidiau eraill, a oedd nid yn unig yn sôn am y pwysau cyllidebol sy’n wynebu awdurdodau lleol, ond hefyd yn trafod y cronfeydd wrth gefn. Ac o ran y ffigur hwnnw a ddyfynnwyd gennych, pe bai'r cyfan yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r pwysau presennol, efallai...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi dynnu eich sylw at y gofrestr fuddiannau a'r sawl sefydliad rwy'n perthyn iddynt sydd â buddiant yn y maes hwn, gan gynnwys Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Cerddwyr ac eraill? Ond a gaf fi ganmol y Gweinidog ar y modd y mae hi'n ceisio creu dyfodol i ffermio cynaliadwy yng Nghymru sy'n cydbwyso'r hyn sy'n ymddangos weithiau fel buddiannau sy'n cystadlu, ond nad ydynt yn fuddiannau...
Huw Irranca-Davies: Alun, diolch am gymryd fy enw'n ofer, ond mewn ffordd glodfawr yn y fan honno am ennyd. Ond hoffwn ddweud bod yr adroddiad yn dal yno ac mae'n dal i fod yn ddilys, rhaid i mi ddweud, ac fe gafodd ei roi at ei gilydd—. Fe drof at yr adroddiad hwn yn y man, ond rhaid imi ddweud bod yr adroddiad hwnnw ar ariannu yn y dyfodol, ariannu rhanbarthol, yng Nghymru, wedi gosod y meincnod ar gyfer yr...
Huw Irranca-Davies: Na, dim o gwbl. Mewn gwirionedd, byddwn i'n cefnogi honno, ond fy mhwynt i yw hyn: a ddylai un AS, un cynrychiolydd etholedig, sy'n anwybodus ynghylch y fframwaith polisi yng Nghymru, yn anwybodus ynghylch anghenion ehangach y rhwydwaith rheilffyrdd yn yr ardal honno hefyd, fel croesfan Maesteg a Ton-du, sydd wedi bod yn aros ers 20 mlynedd am fuddsoddiad gan UK Network Rail—nid yw hynny'n...
Huw Irranca-Davies: O—. Iawn, fe wnaf. Gwnaf.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni symud oddi wrth hyn, ac mae angen iddo fod yn seiliedig ar ddadansoddi da, mae angen dadansoddi, a lle dylai'r arian fynd yn briodol. Ac i ddilyn pwynt eithaf cywir Alun, nid dim ond ymwneud â'r swm presennol o gyllid a allai gael ei golli y mae, mae'n ymwneud â chyllid cynaliadwy hirdymor sy'n mynd i'r ardaloedd a'r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Nid...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr—
Huw Irranca-Davies: —Ddirprwy Lywydd. Dim eglurder ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU ar gyllid ôl-UE yn y tymor canolig ac yn hirdymor yn y dyfodol. Dim cytundeb nac eglurder ynghylch y swm a gollwyd i Gymru na fel arall. Ansicrwydd parhaus ynghylch Erasmus+, Horizon Ewrop, cytundebau cydweithio Ewropeaidd eraill. Ymgysylltiad gwael neu ddiffyg ymgysylltiad llwyr rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru....
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. Rwy'n mynd i ddargyfeirio tamaid bach, ac mae'r dargyfeiriad hwnnw'n rhedeg o Gas-gwent i Gonwy. Rhagwelwyd y syniad o lwybr Cambria drwy fynyddoedd Cambria am y tro cyntaf yn ôl ym 1968, ac ym 1994 chynhyrchodd y diweddar Tony Drake, un o'r mawrion yn y byd cerdded a mapio'r llwybrau cerdded hyn yng Nghymru, arweinlyfr cyntaf ffordd Cambria, a...
Huw Irranca-Davies: Ai chi sy'n talu?
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, rydych chi wedi rhannu rhai o'r tensiynau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac, yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud, y genedl noddfa hon dros y driniaeth o ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ond, siawns y dylai fod yn amhosibl i'r Swyddfa Gartref leoli ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn unochrog mewn mannau heb unrhyw rybudd o flaen llaw â'r cymunedau neu gyda Llywodraeth...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr, ac eto'n nodi'r weledigaeth o ran i ble mae'r Llywodraeth Cymru hon eisiau mynd, ond a fyddai e'n cytuno â mi mai un o brofion llwyddiant hyn fydd pa un a ydym ni, yma yn y Senedd, yn cefnogi blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd teithio llesol yn hyn? A bydd dewisiadau anodd i'w gwneud ar hyn, oherwydd mae hynny'n golygu cyfyngu ar le ar y...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dim ond siarad i gefnogi pwyntiau Jenny, i holi'r Gweinidog ychydig ymhellach, un o'r pethau y mae'r Co-op yn dweud yn arbennig yw eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar hyn, sef y gellir ei gompostio. Maen nhw wedi osgoi'n daer y mater o fod yn ddiraddadwy, oherwydd maen nhw'n dweud, 'Wel, mae hyn mewn gwirionedd ar flaen y gad, bydd yn mynd i mewn i'r...
Huw Irranca-Davies: 8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ58817
Huw Irranca-Davies: 4. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynllun cymorth aberth cyflog i geir trydan ar gyfer staff y Comisiwn a staff Aelodau o'r Senedd? OQ58815