David Melding: Diolch. A galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
David Melding: Galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
David Melding: Nid oes gennyf Aelod sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Y cwestiwn yw a ddylid cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Daw cynnig yn awr i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
David Melding: Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
David Melding: Andrew, a wnaethoch chi ildio peth o'ch amser?
David Melding: Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb. Dafydd Elis-Thomas.
David Melding: Diolch. Symudwn yn awr at eitem 11, sef y ddadl fer a drefnwyd ar gyfer heddiw, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis.
David Melding: Mae eich amser bron ar ben nawr.
David Melding: Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
David Melding: Pa gynlluniau sydd ar waith i roi cyngor gyrfa ychwanegol i raddedigion Cymru mewn ymateb i'r crebachu yn y farchnad lafur a achoswyd gan bandemig COVID-19?
David Melding: 7. Pa fesurau sydd ar waith i wella tryloywder proses gyllidebol Llywodraeth Cymru? OQ56082
David Melding: Rwy'n pryderu'n benodol am y sector BBaCh, a gafodd ei daro'n wael iawn gan argyfwng COVID, sydd wedi cau'r stryd fawr ac wedi gorfodi dulliau gweithio gwahanol iawn—a hynny o reidrwydd, wrth gwrs. Er lles iechyd ein strydoedd mawr, er lles iechyd yr economi sylfaenol—ac mae llawer o'n strategaeth economaidd yn ymwneud â datblygu'r sector busnesau bach a chanolig—a allwch chi ein...
David Melding: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ond mae mwy o dryloywder yn bendant o fudd i’r cyhoedd, ac mae hon wedi bod yn daith hir, a chryn dipyn o ffordd i fynd o hyd. Rydym ni, yn hollol briodol, yn gofyn llawer gan lywodraeth leol yn eu datganiadau ariannol a'r wybodaeth, yn wir, y maent yn ei hanfon at dalwyr y dreth gyngor, a chredaf fod angen proses debyg o ymgysylltu â'r cyhoedd fel y...
David Melding: Weinidog, a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i'ch gwahodd i longyfarch ysgol arbennig Headlands ym Mhenarth, sydd wedi cael gwobr cydnabyddiaeth o ragoriaeth yn ddiweddar gan Uchel Siryf De Morgannwg oherwydd y ffordd arloesol y mae wedi ymateb i'r pandemig, yn enwedig ym maes dysgu o bell a dysgu cyfunol? Un o'r pethau allweddol oedd allgymorth gweithredol, boed yn alwadau ffôn, Zoom neu...
David Melding: Gweinidog, rwyf hefyd eisiau siarad ar ran y lesddeiliaid. Roedden nhw'n gweithredu diwydrwydd dyladwy, ac, oherwydd methiant trychinebus rheoliadau adeiladau, arolygu ac, mae'n rhaid dweud, ansawdd yr adeiladu, maen nhw bellach mewn eiddo diffygiol. Mae llawer ohonyn nhw'n ifanc, maen nhw eisiau dechrau teulu, ni allan nhw symud, ac maen nhw mewn eiddo sy'n anaddas i fagu plant. Nawr, dim...
David Melding: 6. Pa fesurau sydd ar waith i sicrhau y gall ysbytai barhau i ddarparu gofal acíwt nad yw'n gysylltiedig â COVID-19? OQ56140