Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a fydd y trefniadau rhyng-lywodraethol newydd a gynigir gan yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn ddigon agored i brosesau craffu?
Huw Irranca-Davies: Yn gynharach eleni, Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn gwybod—mae'n teimlo fel dau neu dri o Brif Weinidogion y DU yn ôl bellach—fod y pwyllgor a gadeiriaf wedi cynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Un o’r pwyntiau a ddaeth i’r amlwg drwy hynny oedd effaith dra hysbys Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a’r...
Huw Irranca-Davies: Mae hynny'n newyddion gwych iawn, ac mae'n dda clywed y bydd ar waith cyn bo hir. Dylwn dynnu sylw at y ffaith nad ceir trydan, yn fy marn i, yw’r ateb terfynol i'r broblem. Bydd llawer o bobl a fydd yn teithio yma i weithio neu o gwmpas yr etholaeth yn gwneud hynny drwy gerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond maent yn un ffordd o fynd i'r afael â’n hargyfwng newid hinsawdd....
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad hwn, a dweud unwaith eto ei fod yn dangos grym y Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno materion pwysig iawn i'r Senedd, a'r gallu sydd gennym yn Senedd Cymru i fynegi barn pobl y tu allan i’r Siambr hon ei hun? Mae’n gyfle gwych i drafod hyn. Ac wrth agor fy sylwadau, ymunaf ag eraill i ganmol gwaith teuluoedd sydd wedi ymgyrchu ar y materion...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf am ailadrodd pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill, ond rwyf am ddiolch i'r Cadeirydd a'r cyd-aelodau o'r pwyllgor am y sesiwn a gynhaliwyd ganddynt gyda'r asesydd interim, a diolch hefyd i'r asesydd interim am ddod ger ein bron ac am y dystiolaeth a roddodd. Rwy'n anghytuno â Janet ynglŷn ag un pwynt o bwys yn unig, oherwydd fe glywsom mewn tystiolaeth nad yw hon yn swyddogaeth...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ildio. Er ein bod yn casáu oedi, un o'r manteision yw y gallwn edrych nid yn unig ar Gynhadledd y Partïon 15 nawr, ond hefyd ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Fe wnaeth Janet y pwynt, do, fod yna strwythurau llywodraethu eraill sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y DU, ond nid ydynt wedi bod yn rhydd o feirniadaeth. Felly, os gallwch chi hefyd...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Cadeirydd ildio?
Huw Irranca-Davies: Rwy'n codi i ymuno ag ef yn ei ganmoliaeth o'n cyd-aelodau ar y pwyllgor, Janet, oherwydd mae cael yr unfrydedd hwnnw'n foment arwyddocaol—ydy wir. Os ydym i gyd yn gytûn, ar draws Siambr y Senedd, ar y llywodraethu a'r rheoliadau amgylcheddol gorau posibl i'n diogelu, gan roi Brexit i'r naill ochr neu beth bynnag, mawredd, mae hwnnw'n lle da i fynd ymlaen ohono y tu ôl i'r Gweinidog....
Huw Irranca-Davies: A bydd rhaid i chi gadw at hynny.
Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl iawn, ac yn bendant mae yna feirniadaeth o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, mae'r arolygiaeth gofal yn gwneud y sylw fod mesurau eisoes wedi'u cymryd i ymateb i'r rheini. Mae nifer o asiantaethau eraill wedi cael eu beirniadu hefyd, gan gynnwys anallu staff nyrsio...
Huw Irranca-Davies: Dim o gwbl, diolch.
Huw Irranca-Davies: Dwi’n siarad y prynhawn yma, ond yn nes ymlaen.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni drafod y rheoliadau hyn brynhawn ddoe ac mae ein hadroddiad hefyd wedi'i osod i hysbysu Aelodau y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Mae'r rheoliadau hyn yn pennu rheolau i'w defnyddio i gyfrifo'r swm y gellir ei godi ar gyfer hereditamentau gyda mwy o atebolrwydd cyfraddau annomestig o dros £300, o ganlyniad i'r cynnydd mewn gwerth ardrethol eu hereditamentau, yn dilyn llunio'r rhestr ardrethi cyfraddau annomestig newydd ar 1 Ebrill 2023. Yn dilyn cais gan y Gweinidog, aethom ati ar fyrder i graffu ar y rheoliadau fel y...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd.
Huw Irranca-Davies: Diolch eto. Fe wnaethon ni ystyried y rheoliadau hyn brynhawn ddoe yn ein pwyllgor, ac unwaith eto, mae ein hadroddiad wedi ei gyflwyno i hysbysu Aelodau y prynhawn yma. Hoffwn hefyd dynnu sylw'r Aelodau at lythyr a ysgrifennom ni at y Gweinidog brynhawn ddoe, sydd o arwyddocâd mawr i drafodaeth y prynhawn yma hefyd. Mae'r Gweinidog wedi egluro heddiw beth yw diben y rheoliadau hyn—a'i...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, rydych chi hefyd wedi dweud eich bod chi wedi penderfynu peidio â defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed ar frys, sy'n opsiwn sy'n agored o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 fel modd o gywiro'r drafftio diffygiol a amlygwyd gan y pwyllgor, oherwydd nad oeddech o'r farn ei fod yn ateb ymarferol. Nid ydym ni, wrth gwrs, wedi cael yr amser i ystyried yr ymateb hwn yn llawn ychwaith....
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Wrth agor ein sylwadau, nodaf fod dwy o'r dadleuon a gyflwynwyd gan y Dirprwy Weinidog a hefyd y Gweinidog, o ran yr offeryn blaenorol ger ein bron, yn debyg iawn, os nad yn union yr un fath. Un yw, wrth basio'r offerynnau hyn heddiw, hyd yn oed gyda'r agweddau diffygiol yr ydym wedi'u nodi, na fyddai'n cael effaith ar y gallu i weithredu'r offeryn hwn ar lawr gwlad, i bob...
Huw Irranca-Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cynllun gweithredu gwasanaethau canser? OQ58868