David Melding: 5. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn dilyn triniaeth COVID-19? OQ56141
David Melding: Weinidog, mae hwnnw’n ateb calonogol, ond credaf fod pob un ohonom yn cydnabod bod y rhain yn weithwyr rheng flaen, ac mae pwysigrwydd gofal cartref i ganiatáu i bobl eiddil a phobl hŷn fyw bywydau mor llawn â phosibl o ran llesiant yn hanfodol bwysig. Ac o ystyried y gwasanaeth tameidiog, gyda llawer ohono yn y sector annibynnol neu breifat, hoffwn wybod pa gefnogaeth a roddir i...
David Melding: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Senedd yn awyddus i longyfarch staff gofal iechyd sydd wedi gallu darparu cryn dipyn o ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ofnadwy hwn. Fodd bynnag, gan fod yr ail don wedi bod cymaint yn fwy difrifol na'r gyntaf hyd yn oed, gwyddom bellach fod bron i hanner y cleifion mewnol, er...
David Melding: Diolch i chi, Weinidog. A gaf fi annog bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl a sefydlwyd gennych i edrych ar hyn? Rydych hefyd yn ystyried adroddiad diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, a oedd yn edrych ar y pandemig a'i oblygiadau. Bydd gennym bobl â COVID hir, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ôl-syndromau—fel polio, er enghraifft,...
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
David Melding: Symudwn at eitem 4, sef y datganiad gan y Gweinidog Addysg—diweddariad ar gymwysterau ar gyfer 2021. Galwaf ar y Gweinidog, Kirsty Williams.
David Melding: Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
David Melding: Symudwn yn awr at eitem 5, sy'n ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
David Melding: Ac yn olaf, Mike Hedges.
David Melding: Diolch yn fawr. Rhoddaf y gadair yn ôl i'r Dirprwy Lywydd nawr. Dydw i ddim yn siŵr bod gennym ni newid llyfn yma. A yw'r Dirprwy Lywydd wedi dychwelyd eto?
David Melding: A gawn ni ddad-dawelu'r Dirprwy Lywydd? Wel, tra ein bod yn delio â'r anhawster technegol hwn, galwaf yr eitem nesaf.
David Melding: Eitem 6 yw Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Phlanhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
David Melding: Ymddengys fy mod yn dal yn y gadair felly galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
David Melding: Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf siaradwyr eraill. Galwaf ar y Gweinidog rhag ofn ei bod eisiau ymateb i unrhyw beth y mae Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth wedi'i ddweud. Gweinidog.
David Melding: Diolch i chi Gweinidog. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Symudwn nawr at eitem 7, rheoliadau rheolaethau swyddogol anifeiliaid, bwyd anifeiliaid a bwyd, ffioedd iechyd planhigion et cetera. Credaf y bydd y Gweinidog, mae'n debyg, yn rhoi iddo ei deitl priodol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.
David Melding: Diolch i chi Gweinidog. Nid oes gennyf siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld neb yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Nawr, cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Ni welaf unrhyw wrthwynebiadau.
David Melding: Dyma reoliadau diogelu iechyd coronafeirws 2021. Galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.