Canlyniadau 1441–1460 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Andrew RT Davies: Wel, mae'n ddiddorol mai llefarydd iechyd y Blaid Lafur wnaeth yr ymrwymiad hwnnw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi'r ffôn ac yn dweud wrtho nad oes modd cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, o gofio eu bod nhw'n edrych at Gymru bob tro i weld yr hyn y gellir ei gyflawni ar lefel San Steffan. Roedd hwnna'n sylw diddorol i chi ei wneud yn y fan yna, Prif...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Andrew RT Davies: Yn fy nghwestiwn cyntaf, Prif Weinidog, gofynnais i chi gefnogi ymrwymiad y dywedodd llefarydd iechyd y blaid Lafur yn San Steffan y byddai Llafur yn ei gyflawni, ac fe ddywedoch chi nad oedd modd ei gyflawni. Yn yr ail gwestiwn, gofynnais i chi roi ymrwymiad a map ffordd i ddileu'r arosiadau dwy flynedd yma yn y GIG. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, Richard Cooper, a gafodd ei...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Polisi Treth (26 Hyd 2022)

Andrew RT Davies: Gan adeiladu ar y pwerau treth sydd gennych, Weinidog cyllid, a ydych mewn sefyllfa y prynhawn yma i'n hysbysu, am bob ceiniog y gallech geisio ei chodi, os mai dyna oedd eich cyngor i'r Cabinet yn y cyfnod o osod cyllidebau, faint o arian ychwanegol a fyddai'n dod i goffrau Llywodraeth Cymru yn y trothwy 45c a 40c, ac fel arall, pob ceiniog y gallech ei thynnu, beth fyddai'r golled i'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn ei wellhad o COVID? Gobeithio y bydd yn ôl gyda ni cyn gynted â phosib. Arweinydd y tŷ, mae Keir Starmer wedi dweud ar y cofnod na fydd yn mynd i gwpan y byd yn Qatar, ac na fydd aelodau o'i blaid yn mynd i gwpan y byd chwaith. Rwy'n credu mai dyna'r dyfyniad y mae wedi ei roi ar y cofnod. Chi yw'r unig Lywodraeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Rwy'n cytuno â chi y dylai Llywodraeth Cymru fod yno. Rwy'n cytuno y dylai Gweinidogion fod yno. Ond mae'n ffaith bod arweinydd Llafur Cymru, yn yr wrthblaid, yn chwarae i'r galeri, yn eich geiriau chi, gan eich bod chi newydd dynnu sylw at y ffaith ei fod ef yn yr wrthblaid a'ch bod chi mewn llywodraeth. Un peth yr wyf i'n anghytuno â Llywodraeth Cymru yn ei gylch yw—[Torri ar draws.]...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Andrew RT Davies: —ond mae'n ffaith. Mae'n ffaith, mae'n ffaith, mae'n ffaith. Ond un peth rwy'n anghytuno ag ef yw tynnu'r Dirprwy Weinidog yn ôl, ddim yn mynd i Iran yn erbyn Cymru yng nghwpan y byd. Rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn arwydd cadarnhaol—anfon menyw i chwarae yn erbyn gwlad sydd yn y pen draw yn gormesu hawliau menywod—a'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw bod â Dirprwy Weinidog yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Ond mae'n ffaith eich bod wedi tynnu'r Dirprwy Weinidog yn ôl, y trefnwyd iddi fynd i'r gêm honno. Fel y dywedais i, rwy'n gresynu'r penderfyniad hwnnw, oherwydd rwy'n credu y byddai wedi anfon neges gadarnhaol am yr hawliau yma yng Nghymru a'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei efelychu yng ngweddill y byd. Rydym ni'n cefnogi cyfranogiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ar lwyfan...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Un ar weithwyr gofal, oherwydd cyhoeddiad y Llywodraeth yn ôl yn y gwanwyn i sicrhau bod arian ar gael i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yma yng Nghymru—menter i'w chroesawu, os caf i ychwanegu. Mae gwahanol ddarparwyr gofal wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth fy hun, ond rwy'n deall ei fod yn debyg ar draws gweddill Cymru,...

8. Dadl Plaid Cymru: Effaith fyd-eang defnydd domestig ( 9 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Weinidog. Mae pawb yn gefnogol i'r teimlad heddiw, ond fe wnaethoch chi gyffwrdd ar ddau faes yno lle rydych eisiau cynyddu caffael lleol—llaeth a chig coch. Mae'n ffaith bod y sectorau prosesu yn y ddau faes yn gyfyngedig iawn yng Nghymru. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o'n llaeth yn cael ei brosesu mewn llaethdai yn Lloegr. Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i atal y dirywiad a chynyddu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (15 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n dda eich gweld chi'n ôl ar ôl i chi fod i ffwrdd oherwydd COVID yr wythnos diwethaf. Atgof amserol bod y feirws, yn amlwg, yn dal allan yna ac yn tynnu pobl allan o weithgareddau eu diwrnod arferol. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf—bythefnos yn ôl, dylwn i ddweud—fe wnaeth cadeirydd yr ymchwiliad COVID ledled y DU dynnu sylw at y ffaith na...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (15 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Mae ar gofnod cyhoeddus bod y sylwadau hynny yna, bod cadeirydd ymchwiliad y DU wedi tynnu sylw at y cyfyngiadau oherwydd llwyth gwaith ymchwiliad y DU. Mae ar gofnod, yn yr un cyfweliad neu'r un sylwadau yr oedd hi'n eu gwneud, ei bod wedi tynnu sylw at y ffaith pe bai ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu yma yng Nghymru, y byddai hi, ynghyd â'i chydweithwyr, yn barod i weithio gyda'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (15 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Y cwestiwn a gyflwynais i chi, oedd y canlynol: a allech chi enwi sefydliad arall a oedd yn rhannu eich cred na ddylem gael ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i COVID yma yng Nghymru? Rwy'n sylwi o'ch ateb nad oeddech yn gallu rhoi enw sefydliad arall ar Gofnod y Senedd. Ac, os gwelwch yn dda, cymerwch cyhyd ag y dymunwch, oherwydd rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn dangos diddordeb mawr yn eich...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gostyngiad yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch. Rwy'n croesawu'r cytundeb rydych chi wedi'i arwyddo gyda'r gwahanol ddatblygwyr. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—fod yna drafodaethau o hyd gydag un datblygwr. Fel rwy'n deall, rhan o'r cytundeb hwnnw oedd y byddai eu cynlluniau adfer gyda chi o fewn mis i arwyddo'r ddogfen honno. A ydych chi wedi cael unrhyw un o'r cynlluniau adfer hynny, ac os ydych chi wedi, a yw eich swyddogion...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac yn arbennig, am y ffordd y nododd pam ein bod yn trafod y materion hyn, oherwydd trasiedi Grenfell, a diniweidrwydd pobl sy'n byw mewn llawer o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt yn sgil Grenfell—mae'n drasiedi i'r unigolion hynny. Ac fe gyffyrddodd Joel James yn bwerus iawn ar y materion iechyd meddwl,...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Fe wnaf hynny gyda phleser.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (16 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Mae hynny i'w groesawu, ond os siaradwch chi gyda'r trigolion ychydig i fyny'r ffordd oddi yma, mae yna oblygiadau ehangach i'r adeiladau amddifad y sonia'r Gweinidog amdanynt y mae'r preswylwyr eu hunain, drwy grŵp Cladiators a grwpiau pwyso eraill sydd wedi deillio o'r ymgyrch hon, am eu gweld wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rwy'n derbyn y pwynt y mae Mabon yn ei wneud fod angen...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Arweinydd y tŷ, mae'n amhosibl peidio â theimlo'n ddigalon wrth ddarllen yr adroddiadau yn The Sunday Times am weithgareddau swyddogion heddlu yn llu Gwent, ac yn arbennig mewn wythnos pan ydym ni'n tynnu sylw at drais domestig ac yn arbennig trais yn erbyn menywod. Mae'n drawmatig, a dweud y lleiaf, bod y cyhuddiadau, fe ddywedwn ni, a'r datguddiadau yn yr erthygl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Tach 2022)

Andrew RT Davies: Gallaf ddweud hyn, arweinydd y tŷ: nid oes gennyf unrhyw ffydd yn uwch arweinyddiaeth llu Gwent, boed hynny ar lefel swyddogion neu ar lefel y comisiynydd heddlu a throseddu. Mae'r datguddiadau hyn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf. Rwy'n canmol gweithgareddau'r heddlu wrth rybuddio pobl yn yr ardal fod 33 o fenywod yr wythnos yn wynebu trais domestig, yn ofni am eu bywyd neu'n ofni anaf,...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.