Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn syth ar ôl ein cyfarfod brynhawn ddoe. Bydd y Gweinidog yn gwybod mai ychydig iawn o amser oedd gennym i ystyried y memorandwm, o ystyried y cafodd ei gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022, a gofynnwyd i ni adrodd erbyn 16 Ionawr 2023. Dim ond 11 diwrnod oedd yn y cyfnod hwnnw pan oedd y...
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad yn nodi barn Llywodraeth Cymru bod y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, neu UKIMA, fel y byddaf yn cyfeirio ati yn awr, ac yn benodol bod ei gofynion yn golygu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn caniatáu gwerthu a marchnata PBOs—organebau wedi’u bridio’n fanwl—yng Nghymru, sydd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Helo, eto. [Chwerthin.] Neil Diamond, rwy'n credu—'Hello Again'.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon wrth i ni, y Senedd, gynnal ein hystyriaeth gyntaf o Fil cydgrynhoi Cymreig, a gynigir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru.
Huw Irranca-Davies: Fel y pwyllgor cyfrifol am ystyried y Biliau cydgrynhoi, cawsom y dasg o benderfynu a ddylai'r Bil fynd ymlaen drwy'r Senedd fel Bil cydgrynhoi. Ein nod oedd bodloni ein hunain: bod cwmpas y cydgrynhoi'n briodol; bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys o fewn yr ymarfer cydgrynhoi; bod yr ymarfer cydgrynhoi yn gywir a bod y Bil ond yn newid deddfiadau perthnasol i'r graddau a ganiateir gan...
Huw Irranca-Davies: Llywydd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Bil fel y cyntaf o'i fath ar gyfer y Senedd ac ar gyfer cyfraith Cymru, yn bennaf oherwydd yr effaith ymarferol y bydd yn ei chael o ran sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael yn y ddwy iaith swyddogol, gwella hygyrchedd i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru, a chyfrannu i fynediad gwell at gyfiawnder yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies: Mae'r Bil yn nodi dechrau cynlluniau uchelgeisiol y Llywodraeth Cymru hon i gydgrynhoi cyfraith Cymru, ac mae'n wir yn ymdrech y dylid ei chroesawu gan y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Janet, am roi munud i mi gyfrannu mewn dadl ddiddorol iawn. Mae yna un neu ddau o gynigion cam cynnar yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer prosiectau hydrogen mewn gwirionedd, prosiectau hydrogen gwyrdd. Ac yn wir, mae'n ddigon posibl y bydd gan hydrogen ran i'w chwarae wrth bontio i economi wyrddach. Ond rwyf eisiau gwneud dau bwynt. Y cyntaf yw bod yn rhaid inni sicrhau...
Huw Irranca-Davies: 6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59005
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Os bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn mynd yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd, ac yn ôl yr amserlen fympwyol sydd wedi'i gosod gan Lywodraeth y DU, yna erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld miloedd ar filoedd o reoliadau sy'n cynnwys diogeliadau amgylcheddol a chyflogaeth hanfodol a llawer mwy, y mae llawer...
Huw Irranca-Davies: Mae'n dda gweld bod cyd-Aelodau eisoes heddiw wedi bod yn codi mater effaith ymyl y dibyn ddiwedd mis Mawrth o ostyngiad y gefnogaeth i brisiau ynni ar fusnesau. Mae Vikki a Jayne Bryant wedi codi hyn. Rwy'n credu eu bod nhw'n iawn i godi effaith hyn ar bethau fel siopau manwerthu, tafarndai a chlybiau lleol, ac yn y blaen—mae hynny'n hollol iawn. Ond byddwn i'n croesawu datganiad,...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr ac mae ein hadroddiad wedi cael ei osod er gwybodaeth i'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys tri phwynt rhinwedd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddarparu ymateb amserol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ein trydydd pwynt rhinwedd, ac rwy'n mynd i'w nodi fel darn bach ond pwysig iawn o gynnydd o ran y Gymraeg ac mewn gwirionedd o ran cael deddfwriaeth a rheoliadau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Oherwydd nododd bod Llywodraeth Cymru...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethon ni drafod hefyd y rheoliadau hyn ar 16 Ionawr, ac mae ein hadroddiad wedi'i gynnwys ar agenda'r prynhawn yma i lywio'r ddadl hon.
Huw Irranca-Davies: Mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Fe ddechreuaf gyda'r ail, a nododd na fu unrhyw ymgynghoriad ar y rheoliadau. Yn benodol, nodwyd paragraff yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau sy'n nodi, gan fod caniatâd dros dro i aros yn gynnyrch polisi Llywodraeth y DU a gedwir yn ôl—sef mewnfudo—nid oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru? OQ59002
Huw Irranca-Davies: 5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59004
Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar effaith y gyllideb ddrafft ar gyfiawnder cymdeithasol?
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac yn wir mae cynnydd wedi bod, gan weithio gyda phartneriaid yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx), gyda cholegau a darparwyr addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gymhwyster cyfnod sylfaen lefel 3 yn awr a chymhwyster uwch lefel 5 o'r cymhwyster...
Huw Irranca-Davies: Bydd y Cwnsler Cyffredinol, fel finnau, wedi bod mewn sawl protest o wahanol fathau dros y blynyddoedd. Ac mewn gwirionedd, dros y degawdau, ac yn wir dros genedlaethau a chanrifoedd yng Nghymru, gwelwyd traddodiad brwd o brotestio cyhoeddus, ac mae'n iawn mai felly y bu. O'r protestwyr cynharaf yng Nghomin Greenham a ddaeth o Gymru, gan gynnwys fy niweddar gyfaill a'm beirniad dibynadwy,...