Alun Davies: Rwy'n croesawu'r datganiad rydyn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu'r weledigaeth a amlinellwyd gennych yn fawr, Gweinidog. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i chi am yr hyn rydych chi newydd ei ddweud wrth ateb y cwestiwn blaenorol, oherwydd rwy'n credu bod nifer ohonom yn chwilfrydig, os mynnwch chi, am yr hyn y byddai Ynni Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd....
Alun Davies: Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma, a dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod y Gweinidog yn ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad a dwi'n falch ei fod e wedi, a dwi'n croesawu'r gweithgareddau mae wedi eu datgan y prynhawn yma. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ei fod e'n ymateb yn y ffordd mae wedi. Mae yna dri peth hoffwn i ddweud wrtho fe heddiw—tri blaenoriaeth, efallai, yn...
Alun Davies: 7. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gynnydd cyfamod yr heddlu? OQ58993
Alun Davies: Diolch yn fawr. Cefais gyfarfod gyda Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn yr hydref, ychydig cyn y Nadolig, ac roeddwn yn bryderus i glywed eu bod yn teimlo bod llawer iawn o lesgedd gyda chyflwyno'r cyfamod a bod nifer o wasanaethau nad ydynt yn cael eu cyflwyno, y dylid eu cyflwyno i swyddogion heddlu fel rhan o'r broses hon. A fyddai'r Gweinidog yn barod i gyfarfod â mi a ffederasiwn yr...
Alun Davies: Weinidog, roedd y rhaglen a ddarlledwyd yr wythnos hon yn rhaglen dorcalonnus, a chlywsom dystiolaeth dorcalonnus. A chredaf y dylai pob un ohonom uno i gymeradwyo ac i ganmol y menywod a gododd eu lleisiau bryd hynny, a hefyd, wrth gwrs, y newyddiadurwyr sydd wedi adrodd ar y stori hon ac a ddaeth â'r mater i'n sylw. I mi, nid mater AD unigol yw hyn ond diwylliant sydd wedi’i wreiddio’n...
Alun Davies: Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a diolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol iawn. Mae'n ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad, ac fel Tom Giffard, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rwy'n gwrando ar eich araith. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymateb i’r adroddiad; roeddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog hefyd yn ymateb i’r ddadl. Un mater y ceisiais ei godi yn y ddadl oedd mater cydraddoldeb, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny a’r materion y mae cyd-Aelodau eraill wedi’u codi—materion pwysig iawn—yn y ddadl hon y prynhawn yma—credaf ei bod yn bwysig...
Alun Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i reoli'r broses o ryddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol? OQ59043
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Mae hi'n sicr yn wir dweud bod gweithio mewn partneriaeth yn nodwedd o ymateb Llywodraeth Cymru. Ni chefais fy argyhoeddi ei bod hi'n nodwedd lwyddiannus iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae'r niferoedd bron â bod yn cyfateb i niferoedd ysbyty cyfan yn llawn cleifion yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan y gallen nhw, ar unrhyw adeg, gael eu...
Alun Davies: Dyna ni. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, ac felly hefyd y Siambr. [Chwerthin.] Rheolaeth gartref, wrth gwrs, oedd un o egwyddorion sefydlu'r Blaid Lafur fodern, a bydd y bobl hynny sydd heb ddarllen 'In Place of Fear' yn dilyn chwiliad Aneurin Bevan am ddemocratiaeth a phŵer o borthdy'r glowyr yng nglofa Pochin, drwy gyngor tref Tredegar a Chyngor Sir Fynwy hyd at Balas San Steffan. A...
Alun Davies: Rwy'n croesawu'n fawr araith y Gweinidog heno wrth ofyn ac argymell nad yw'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gwneud hynny am ddau reswm: am y rhesymau cyfansoddiadol, ond hefyd am resymau polisi. Cytunaf gyda fy ffrind, Cadeirydd ein pwyllgor. Rwy'n cadw anghofio enw'r pwyllgor, ond mae'n bwyllgor da iawn. [Chwerthin.]...
Alun Davies: O, dewch o'na, mae'n ceisio amddiffyn Llywodraeth y DU; rhowch gyfle iddo. [Chwerthin.]
Alun Davies: Wel, rydych chi'n sicr wedi cefnogi fy achos ynglŷn â'r angen am graffu seneddol, os dim byd arall. A dydw i ddim yn anghytuno â chi, fel mae'n digwydd, Darren. Mae'n iawn ac yn briodol bod y llywodraeth yn ymwneud â dewis a gwneud dewisiadau, a'r pwynt rwy'n ei wneud yw bod Llywodraeth y DU wedi dewis y bobl sy'n gwneud arian yn Ninas Llundain dros ffermwyr Cymru, a dyna'r union bwynt...
Alun Davies: Ond wrth gwrs, yn y byd go iawn, Llywodraeth Cymru sy'n tynnu gwasanaethau yn bellach oddi wrth bobl. Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wnaeth ariannu ysbyty newydd heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl ar gyfer fy etholwyr, ac rwyf i wedi dod yn ôl yma am y chwe, saith mlynedd diwethaf, ac wedi cael sicrwydd gan bob Gweinidog sydd wedi dal y portffolio hwnnw y byddai...
Alun Davies: —oherwydd byddai pobl yn gwneud y dewisiadau eu hunain.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y datganiad, wrth ateb cwestiwn cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at Blaid Cymru yn llunio'r gyllideb. Cyfeiriwyd at hyn hefyd wrth ateb cwestiwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Erbyn hyn, gan fod llunio'r gyllideb yn rhan sylfaenol o rôl weithredol y Llywodraeth, mae'n codi cwestiynau sylweddol am ein gallu ni i graffu ar aelodau Plaid Cymru...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ymateb i'r datganiad yma y prynhawn yma. Mae iaith a chywair mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol i'n dadl ac mae'n sôn am y gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn eu rhannu, ac rwy'n credu bod y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi estyn allan i Wcráin, gan gydnabod effaith drychinebus yr ymosodiad ar fywydau pobl, yn dangos rwy'n credu bod pobl...
Alun Davies: Do, ac rydych chi'n hael iawn. Y pwynt olaf—
Alun Davies: Y pwynt olaf y bydda i'n ei wneud yw bod angen i ni hefyd ddarparu'r hyn y gall Wcráin ei ddefnyddio i frwydro yn erbyn Putin a pheiriant rhyfel Putin, ac mae hynny'n golygu cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru hefyd, sy'n gallu cynhyrchu arfau a ffrwydron rhyfel, er mwyn galluogi byddin Wcráin i wrthsefyll peiriant rhyfel Rwsia. Mae gennym weithgynhyrchwyr yn y diwydiant arfau yng...