David Melding: Weinidog, rwy'n siŵr y bydd yn rhyddhad ichi glywed nad wyf yn ymgeisydd yn yr etholiad, felly nid wyf am ddarllen fy anerchiad etholiadol; af ymlaen at gwestiwn priodol. Pan roddir symiau mawr o arian at ddefnydd y cyhoedd, credaf ein bod angen y gwerth mwyaf am y bunt Gymreig. Ac yma, rwy'n canmol cyngor RhCT am y ffordd y maent wedi defnyddio peth o'r arian hwn i hyrwyddo, drwy raglen yr...
David Melding: A gaf fi ddymuno'n dda i chi ar gyfer y dyfodol, Weinidog? Rydych wedi goroesi pum mlynedd ac wedi ffynnu, rwy'n credu, er i chi orfod dechrau o dan faich cymeradwyaeth gennyf fi—dyna fe, mae'n amlwg nad effeithiodd ar eich awdurdod na'ch perfformiad. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â phwynt Neil McEvoy yma, oherwydd credaf fod arnom angen dull hyblyg mewn rhai ffyrdd. Ac rwy'n...
David Melding: 5. Pa wasanaethau sydd ar waith i gefnogi pobl sy'n dioddef o byliau o banig a gorbryder? OQ56493
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy sôn am yr ymgysylltiad rydym wedi'i gael? Rwyf wedi mwynhau cysgodi'r briff hwn. Cawsom sesiynau briffio yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ar yr heriau diwylliannol sy’n ein hwynebu o ran darparu cyllid. Fodd bynnag, hoffwn siarad am iechyd meddwl a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau yn gynharach at y sector...
David Melding: Diolch am eich ateb caredig, Weinidog, ac yn sicr, hoffwn ategu'r deyrnged a roesoch i Dafydd Elis-Thomas. Rwyf hefyd am ganmol Mind, sy'n gweithio'n agos gyda Hafal a sefydliadau eraill. Credaf fod y sector iechyd meddwl yn rhagorol yn ei waith cydweithredol—mae'r cyrff ymbarél yn effeithiol iawn am eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. Un o'r prif bethau y maent yn gofyn inni ganolbwyntio...
David Melding: Gallaf, rwyf wedi cael fy ailgysylltu. A allwch chi fy nghlywed, Ddirprwy Lywydd?
David Melding: Af ymlaen at fy nghwestiwn olaf. Torrodd y cysylltiad pan oedd y Gweinidog yn mynd i ymosod ar y Blaid Geidwadol rwy'n credu—
David Melding: Rwy'n credu eich bod yn canolbwyntio ar blaid y DU yn hytrach na Phlaid y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf eisiau diwedd cas i fy nghwestiynau. A gaf fi ddweud fy mod wedi cael fy annog gan gyfranogiad Llywodraeth Cymru gyda'r Comisiwn Elusennau yn y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, y gwyddoch efallai eu bod yn edrych ar gyfrifon segur, yn y bôn, ac yn ceisio trosglwyddo'r arian hwnnw lle...
David Melding: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Roeddem yn sôn am stigma'n gynharach, ac a gaf fi ddweud, pan fûm yn siarad yn y Siambr am fy mhrofiad fy hun o gael pyliau o banig wrth roi gwasanaeth gwleidyddol, cefais fwy o ymateb am hynny nag am unrhyw beth a wneuthum erioed yn fy ngyrfa? Fe hoffodd ymhell dros 100,000 yr hyn a roddais ar y cyfryngau cymdeithasol ar hynny, a chredaf fod hyn yn...
David Melding: —yn rhan hanfodol o'r—[Anghlywadwy.]
David Melding: Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Bethan am ei harweiniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych wedi arwain y pwyllgor gydag egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad, ac mae hynny'n amlwg yn yr adroddiadau rhagorol y mae'r pwyllgor wedi'u cynhyrchu. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Helen Mary Jones, a helpodd mor fedrus yn ystod eich cyfnod mamolaeth. Rwyf am wneud dau bwynt. Mae'r...
David Melding: Lywydd, mae fy ngyrfa wedi bod yn hanes dau sefydliad ac mae rhywbeth pwysig yn eu cysylltu. Y sefydliadau yw'r Deml Heddwch a'r Cynulliad, sydd bellach yn Senedd. A'r hyn sy'n eu cysylltu i mi yw mater hawliau plant. Y Deml Heddwch yw adeilad art deco gorau Caerdydd, ond efallai ei fod yn sefydliad cenedlaethol nad yw'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol. Mae'n hafan i'r sector gwirfoddol, ac...
David Melding: Wrth imi estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â'i Mawrhydi a'r teulu brenhinol cyfan, cofiaf yn gynnes iawn agoriad swyddogol y pedwerydd Cynulliad yn 2011. Roedd yn anrhydedd cael gwasanaethu'r Tywysog Philip, ei gyflwyno i'r gwesteion a llywyddu ar ei fwrdd ar gyfer y cinio dathlu, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn syml, roedd y Dug yn gwmni da ac yn serchog. Dyna oedd sail ei...