Alun Davies: Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael cyfle i drafod y pwyntiau hyn yn y fforwm hwn, fel rydym yn ei wneud y prynhawn yma. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn trafod y pwyntiau hyn, ein bod yn gwrando ar beth sydd gennym i'w ddweud, ac yna ein bod yn derbyn ymyriadau gan ein gilydd fel ein bod yn cael dadl, yn hytrach na dim ond darllen cyfraniad wedi'i baratoi ymlaen llaw. Oherwydd...
Alun Davies: Dyna'n union sydd ei angen arnom, a dyna fy nhrydydd pwynt, a'r olaf mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i fy mhwynt ar Fflecsi wrth ymateb i'r ddadl. Ond mae'n beth eithaf rhyfeddol fod Janet Finch-Saunders wedi gallu siarad am bron i chwe munud am ddyfodol gwasanaethau bws heb sôn am drychineb dadreoleiddio. Mae wedi bod yn gatastroffig.
Alun Davies: Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau weithiau. Janet, rydych chi'n hollol iawn ein bod ni wedi cael 25 mlynedd o ddatganoli, ond rydym wedi cael bron i 30 neu 40 mlynedd o wasanaethau bws wedi'u dadreoleiddio sydd wedi methu. Maent wedi gwneud cam â'r wlad. Mae'r Llywodraeth hon yn mynd i newid y gyfraith yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ac rwy'n disgwyl i chi bleidleisio drosto, a bod yn gwbl...