Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffordd rwy’n bwriadu mynd ati i ddatblygu’r dreth gyngor yn rhannu’n ddau gyfnod gwahanol. Rwy’n credu bod rhai camau gweithredu uniongyrchol y gallwn eu cymryd i wella gweithrediad y cynllun sydd gennym ar hyn o bryd ac i’w wneud yn decach i unigolion. Ond rwyf am i ni feddwl yn ehangach na hynny. Rwy’n credu bod yna nifer o ffyrdd y gellid diwygio...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, nid wyf yn credu y bydd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn peri syndod i lawer a fu’n dilyn y trafodaethau sydd wedi bod yn datblygu dros y misoedd diwethaf ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i’r Aelod am ei pharodrwydd i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Ymwelais â phob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru dros...
Mark Drakeford: Lywydd, mae’r fformiwla ariannu yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae grŵp o bobl sy’n arbenigo yn y maes, gan gynnwys cynrychiolaeth o lywodraeth leol, yn edrych ar y fformiwla bob blwyddyn. Maent yn edrych ar ei holl gydrannau: demograffeg, daearyddiaeth, economi a ffactorau cymdeithasol a phob blwyddyn, maent yn cyflwyno cynigion, ac mae llywodraethau, yn fy mhrofiad i, yn derbyn y...
Mark Drakeford: Lywydd, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael ein perthynas ag awdurdodau lleol yn iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau ac uchelgeisiau allweddol y disgwyliwn i awdurdodau lleol weithio tuag atynt a’u cyflawni. Wedyn, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain, a etholwyd yn ddemocrataidd ac sydd â chyfrifoldebau democrataidd eu hunain, yw gwneud y penderfyniadau y maent...
Mark Drakeford: Rwy’n falch o glywed yr Aelod yn cydnabod y gwaith ardderchog a wnaeth yr UE yn y maes hwn yn arwain rhai o’r gwelliannau amgylcheddol a welsom ar draws y Deyrnas Unedig. Yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am lusgo’r Deyrnas Unedig i gyflawni rhai o’r camau gweithredu hynny sydd wedi gwneud cymaint i wella ein hamgylchedd lleol. Heb yr Undeb Ewropeaidd—mae’n gwneud pwynt pwysig,...
Mark Drakeford: Fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod, ein huchelgais oedd lleihau, a hyd y bo modd, dileu’r defnydd o safleoedd tirlenwi, ac ni welaf unrhyw atyniad o gwbl mewn gwrthdroi ein safbwynt ar y mater hwnnw.
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp cynghori Ewropeaidd, a fydd yn dod ag arbenigedd ynghyd o’r gymdeithas ddinesig a’r gymdeithas wleidyddol yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyngor ar yr effeithiau eang yn sgil ymadawiad Cymru â’r Undeb Ewropeaidd a’r ffordd orau o fynd i’r afael â hwy.
Mark Drakeford: Wrth gwrs, bydd agenda’n cael ei chreu ar gyfer cyfarfod cyntaf y panel cynghori hwnnw, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud mai diben y panel cynghori yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i’r panel.
Mark Drakeford: Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n aelod o is-bwyllgor y Cabinet, ond mae’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf y panel cynghori, ond byddaf yn ei gadeirio ar ôl hynny, felly fy nghyfrifoldeb i fydd gwneud yn siŵr fod y cyngor y mae’r panel yn ei roi yn cael ei gyfleu’n uniongyrchol i is-bwyllgor y Cabinet. Yn y modd y...
Mark Drakeford: Rwy’n clywed yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud; byddaf yn gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael gwybod am ei farn, gan mai’r Prif Weinidog sy’n gyfrifol am wahodd pobl i fod yn aelodau o’r panel. Bydd yn llawn o bobl sydd ag arbenigedd go iawn a safbwyntiau cadarn eu hunain. Eu harbenigedd sy’n rhoi lle iddynt ar y panel yn hytrach nag unrhyw safbwyntiau blaenorol ynglŷn...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae awdurdodau lleol yn ddemocrataidd atebol am eu perfformiad eu hunain yn erbyn blaenoriaethau sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw drwy gyllid, cyngor a deddfwriaeth.
Mark Drakeford: Wel, a gaf i ddechrau trwy gytuno gyda’r Aelod am bwysigrwydd yr awdurdodau lleol yn y maes yma? Mae yna lot o bethau y mae’r awdurdodau lleol yn eu gwneud sy’n berthnasol i’r iaith Gymraeg a’r ‘ambition’ sydd gennym ni i dyfu’r nifer y bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg am y dyfodol. It’s not for me, as local government Minister, to set targets that are in the...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am hynny. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r hyn a ddywedodd ar ddechrau ei chwestiwn. Bydd unrhyw Aelod yma sydd wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy’n cofnodi’r hyn y mae’n ei alw’n effaith eithriadol 11 mlynedd olynol o doriadau i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn cydnabod yr hyn a ddywedodd am y pwysau y...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Byddwn yn parhau i gyllido llywodraeth leol drwy gyfuniad o’r setliadau blynyddol a grantiau penodol. Mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn meddu ar bwerau annibynnol i godi refeniw a chyfalaf i ariannu eu gweithgareddau.
Mark Drakeford: Wel, mae nifer o elfennau gwahanol yn yr hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud. Nid oes gennyf unrhyw ffordd o wybod beth yw’r sefyllfa mewn perthynas â’i phwynt olaf. Byddwn yn siomedig iawn yn wir pe bai’n awgrymu bod rhai grwpiau yn ein cymdeithas yn cael eu trin yn wahanol i eraill. Nid dyna’r ffordd y dylai pethau fod, fel y gŵyr. Mae ei phwynt cyffredinol yn mynd yn ôl at yr...
Mark Drakeford: Diolch i Jeremy Miles am dynnu sylw at yr adroddiad ‘Tegwch i bawb’ gan Cyngor ar Bopeth, adroddiad hynod o bwysig yr wyf yn ei gymryd o ddifrif. Ceir tri argymhelliad penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae dau ohonynt yn berthnasol i fy maes cyfrifoldeb fy hun. Y cyntaf oedd parhau â’n cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae’n gynllun drud. Mae’n costio £244 miliwn bob...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bargen ddinesig lwyddiannus i ranbarth bae Abertawe. Mater i’r rhanbarth ei hun fydd llunio cynnig buddsoddi cymhellgar i fynd ar drywydd cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Mae rhanddeiliaid lleol yn dal i gael cymorth gan fy swyddogion i a swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r dasg honno.
Mark Drakeford: Rwy’n falch o allu rhoi sicrwydd i’r Aelod fod dinas-ranbarth Bae Abertawe a’r cytundeb dinas ar ei gyfer yn cael eu trafod yn rheolaidd iawn, drwy fy nghysylltiadau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig—deuthum â’r mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys; rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â Changhellor y Trysorlys ynglŷn â’r mater—a bod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn cyfres...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, mae’n bwysig nodi tensiwn penodol yn safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundeb dinas Abertawe. Rwy’n parhau i fod eisiau i ni chwarae ein rhan weithredol yn llunio’r cytundeb hwnnw, rhoi cyngor yn ei gylch, sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth yn llwyddiannus, lobïo ar ei ran gyda Llywodraeth y DU ac yn y blaen, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i’r rhai sy’n...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y pwyntiau hynny; rwyf wedi gwrando’n ofalus arnynt. Mae’n debyg mai fy ymateb uniongyrchol yw bod angen i’r bobl sydd wedi bod yn rhan o’r holl waith a wnaed ar y cytundeb hyd yn hyn ddal ati yn awr a sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau. Pan fydd gennym gytundeb wedi ei gytuno ac y bydd modd ei ariannu, yna rwy’n credu y bydd y pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn...