Canlyniadau 141–160 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (17 Ion 2017)

Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella seilwaith technoleg gwybodaeth y GIG yng Nghymru?

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cred UKIP na ddylem fod yn trafod y cynnig hwn sydd gerbron heddiw. Amlinellaf ein safbwynt yn syml. Ar 16 Chwefror, bydd gweithwyr ym Mhort Talbot yn gwneud un o’r penderfyniadau pwysicaf ynglŷn â dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru. Mae’r undebau wedi gweithio’n galed ac wedi negodi’r canlyniad gorau posibl ar gyfer gweithwyr. Mae’n benderfyniad sy’n...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Caroline Jones: Ddim ar hyn o bryd, Suzy, diolch. Rydym i gyd am weld gwaith dur Port Talbot yn goroesi ac yn ffynnu, ond nid ein gwaith ni fel gwleidyddion yw dweud wrth weithwyr beth yw’r cynnig gorau ar eu cyfer. Nid oes gwahaniaeth a yw rhywun yn meddwl ei fod yn gynnig da neu’n gynnig gwael yn ein sefyllfa ni; yr unig safbwyntiau sy’n cyfrif yn y mater hwn yw rhai’r gweithlu a’u teuluoedd....

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Caroline Jones: Na wnaf. Ond rydym i gyd yn gwybod nad yw bod yn genedlaetholwr yn golygu gwneud yr hyn y maent yn ei bregethu bob amser. Poeni am fantais wleidyddol y maent. Rwy’n annog yr Aelodau—

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Caroline Jones: Dim diolch. Rwy’n annog yr Aelodau i wrthod cynnig Plaid Cymru heddiw a chefnogi un o’r gwelliannau. Mae UKIP, Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn y gred na ddylem fod yn ymyrryd mewn ymgynghoriad democrataidd rhwng Tata a’i weithlu. Yn yr ysbryd hwn—[Torri ar draws.] Yn yr ysbryd hwn ni fyddaf yn—[Torri ar draws.]

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Caroline Jones: Yn yr ysbryd hwn ni fyddaf yn bwrw ymlaen â gwelliant 2, a gyflwynwyd yn fy enw. Yn hytrach, bydd UKIP yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n annog yr Aelodau i wneud yr un peth.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru
(24 Ion 2017)

Caroline Jones: Brif Weinidog, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod angen newid radical arnom i'n system addysg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae hi wedi awgrymu y dylem ni ystyried addysgu ym mhob ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn orfodol i bob plentyn ysgol yng Nghymru ddysgu Cymraeg ers 1999. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng. I am...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Amseroedd Aros Ysbytai (Gorllewin De Cymru)
(25 Ion 2017)

Caroline Jones: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0114(HWS)

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’n harfau mwyaf effeithiol ar gyfer ymladd canser yw sgrinio ar lefel y boblogaeth. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog iechyd y cyhoedd ynghylch y newid i ddulliau gwell o sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Fodd bynnag, ni waeth sut y byddwn yn gwella’r technegau sgrinio, ein brwydr fwyaf yw...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un maes a allai elwa o well sgrinio yw canser y prostad. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn ‘The Lancet’ fod defnyddio MRI amlbarametrig ar ddynion a oedd â lefelau uchel o antigenau prostad-benodol yn cynyddu’r gallu i ganfod tiwmorau ymosodol, ac yn arbed llawer rhag yr angen i gael biopsi a’i sgil-effeithiau...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y greal sanctaidd ym maes sgrinio am ganser yw datblygu cyfundrefn brofi ddibynadwy ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gwelodd Prifysgol Caerdydd, mewn treial diweddar, nad yw’r defnydd o sganiau CT dos isel ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yn cael unrhyw effaith seicogymdeithasol hirdymor ar gleifion, gan ei wneud yn offeryn ardderchog ar gyfer canfod canser...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Amseroedd Aros Ysbytai (Gorllewin De Cymru)
(25 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru’n gwario llawer mwy ar iechyd fesul y pen nag y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi arwain at ganlyniadau sy’n sylweddol well. Yn gyffredinol, mae cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy am driniaeth na chleifion yn Lloegr—ddwywaith mor hir am lawdriniaeth cataract a bron dair gwaith mor hir am...

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Julie, Dai, Rhun, Mark, Hefin a Jenny am gyflwyno’r ddadl hon gan Aelodau unigol ac am roi’r cyfle i bawb ohonom drafod y pwnc pwysig hwn. Mae’r sgandal gwaed halogedig yn un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith fod pobl a ofynnodd am gymorth gan y gwasanaeth iechyd yn agored i firysau marwol yn frawychus ddigon, ond mae’r ffaith eu bod wedi methu...

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig ger eich bron a gyflwynwyd yn fy enw i. Y cyswllt cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gael yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yw drwy ein meddyg teulu. Diolch byth, i’r mwyafrif llethol ohonom, hwn yw’r unig gysylltiad â’r GIG. Mae ychydig o dan 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru yn gweithio yn y 454 practis cyffredinol ledled Cymru. Er bod hyn...

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr, Janet.

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Diolch. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi, y ffaith fod llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol yn gynnar, a’r nifer fawr sy’n ceisio gweithio’n rhan-amser oherwydd pwysau gwaith, yn rysáit ar gyfer trychineb. Mae ymarfer cyffredinol yn wynebu pwysau cynyddol a digynsail. Ceir bwlch sylweddol a chynyddol rhwng y galw arno a’i...

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Ni allaf gymryd un arall, Jeremy, mae’n ddrwg iawn gennyf. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond sylwadau Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn rhybuddio ers tair neu bedair blynedd fod argyfwng ar y ffordd mewn ymarfer cyffredinol. Maent wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y meddygon teulu, ond weithiau cafodd...

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Hoffwn, mewn gwirionedd.

9. 7. Dadl UKIP Cymru: Practisau Cyffredinol (25 Ion 2017)

Caroline Jones: Rwy’n teimlo bod hyn yn haerllug braidd. Rydych yn gyson yn gwneud sylwadau ar draws y Siambr ynglŷn â’r ffaith nad yw Neil Hamilton yn byw yma, ac yn byw yn Lloegr, ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eithaf haerllug, mewn gwirionedd.

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.