Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ychwanegol at yr hyn ddywedodd fy nghydweithiwr yma, mae’r trigolion sy'n byw gerllaw gwaith glo brig Ffos-y-fran wedi ymgyrchu'n hir yn erbyn llygredd aer a sŵn. Ceir tystiolaeth anecdotaidd o gyfraddau uchel iawn o asthma plentyndod a chlystyrau canser o fewn y gymuned. Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau, Weinidog, pe byddech mor garedig ag ateb. Os nad oes...
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol?
Mohammad Asghar: Mae cyllideb y gwanwyn yn darparu hwb o £150 miliwn i gyllideb adnodd Llywodraeth Cymru a £50 miliwn i’w chyllideb cyfalaf, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn helpu i dalu costau ychwanegol yr isafswm cyflog cenedlaethol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i...
Mohammad Asghar: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 18 mlynedd. Am 11 o’r 18 mlynedd, roeddent yn llywodraethu law yn llaw â Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Dros y 18 mlynedd hir a wastraffwyd, maent wedi methu’n systematig â gwella bywydau ein haelodau mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae un o bob pump o blant yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Dyna drueni. Mae’n uwch...
Mohammad Asghar: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0513(FM)
Mohammad Asghar: Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol raglen gwerth £14 miliwn i ddarparu dull arloesol o fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys nifer o fentrau i helpu unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i helpu’r rheini sy'n cysgu ar y stryd i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg, ac i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol pobl sy’n cysgu ar y...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Codwyd y cyhoeddiad gan Newsquest eu bod yn bwriadu cau eu canolfan is-olygu yng Nghasnewydd ac adleoli i Weymouth yn y Siambr hon o'r blaen. Fodd bynnag, datgelwyd bod Newsquest wedi derbyn £95,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2012-13 o dan raglen Sgiliau Twf Cymru, a £245,000 arall i ehangu ei ganolfan is-olygu y llynedd. A wnaiff y Prif Weinidog...
Mohammad Asghar: Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, rwy’n cydnabod bod y trosglwyddiad cyllid o £21 miliwn ar gyfer CCAUC i gefnogi’r grant ffioedd dysgu wedi cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod safonau yn ein prifysgolion yn cael eu cadw’n uchel, ac mae angen iddynt gael yr adnoddau priodol i wneud hynny. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod...
Mohammad Asghar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn, Angela. Rwy’n credu y dylem ddysgu ychydig o wersi gan Ogledd Iwerddon—ac Iwerddon. Rhoddwyd y 200 milltir o dir dan y môr, mewn gwirionedd, gan y Cenhedloedd Unedig i’r genedl Wyddelig i archwilio budd dŵr y môr. Mae llawer o drysor yno i ni ei archwilio hefyd. Diolch.
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, gofynnais yr un cwestiwn i chi yr wythnos diwethaf, o’r un safbwynt ynghylch y ganolfan is-olygu hon yng Nghasnewydd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn, fe wnaethoch gadarnhau bod y grant, yr arian, ym mis Mai 2015 yn amodol ar i swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020—pum mlynedd. Felly, mae’n ymddangos nawr bod y staff yn Newsquest yng Nghasnewydd wedi cael eu rhoi mewn perygl o...
Mohammad Asghar: Yn ychwanegol at y cwestiwn hwn, rydym i gyd yn cydnabod pa mor awyddus yw pobl, yn enwedig ym Mlaenau Gwent, i gael penderfyniad ynglŷn â phrosiect Cylchffordd Cymru, yn enwedig o ystyried yr honiadau a wnaed ynglŷn â nifer y swyddi y bydd yn eu creu yn yr ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau na fydd y pwysau hwn yn arwain at wneud penderfyniad hyd nes y cwblheir asesiad...
Mohammad Asghar: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle y prynhawn yma i siarad am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarparu eiriolaeth statudol. A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn? Mae gan y Cynulliad hanes balch o gefnogi hawliau plant. Rwy’n credu bod ein hadroddiad yn nodi carreg...
Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, mewn cyhoeddiad, maen nhw’n honni—dyma'r dyfyniad: un o'r gwelliannau mwyaf arwyddocaol i gymudwyr y cymoedd mewn degawd, ers agor rheilffordd Glynebwy. Datgelodd Trenau Arriva Cymru eu bod yn dyblu capasiti trenau cymudwyr i mewn ac allan o Gaerdydd i ymdrin â gorlenwi. Fodd bynnag, mae contractau Arriva yn golygu eu bod yn ceisio ymdrin â’r nifer gynyddol o deithwyr...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad ar 14 Chwefror ar eich dull newydd o adeiladu cymunedau cryf, fe gyhoeddoch grant newydd o £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi’r rhai sy’n byw i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o fanylion am y cynllun hwn, pryd y bydd yn cael ei lansio, at bwy y bydd yn cael ei anelu, pa amcanion sydd wedi’u pennu, a...
Mohammad Asghar: Diolch i chi, Madam Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Mae caffael cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru. Dangosodd datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2011 fod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £4.3 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau allanol. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu un rhan o dair o’i gyllideb flynyddol....
Mohammad Asghar: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r tagfeydd ar y ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, chwe blynedd yn ôl, cyflwynais Fil menter busnes yn y Siambr hon, a rhoddais bwyslais cryf iawn ar hyrwyddo ein diwydiant hedfanaeth. Clywais yn ddiweddar iawn fod ein Prif Weinidog wedi trefnu cysylltiadau agos iawn ag un o gwmnïau awyrennau’r dwyrain canol, sydd yn mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. Onid yw hyn chwe blynedd yn hwyr, neu saith blynedd yn hwyr,...
Mohammad Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd yng Nghymru?