Russell George: A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn nadl y Ceidwadwyr heddiw? A gaf fi hefyd ddatgan buddiant fel perchennog busnes bach fy hun sydd, yn anffodus i mi, yn gorfod talu ardrethi busnes? Ond hoffwn ddweud fy mod wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau Adam Price heddiw, ac rwy’n cytuno â phob dim a ddywedodd. Mae llawer o fusnesau bach o dan bwysau difrifol, ac nid oes pleser o gwbl mewn...
Russell George: Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod busnesau bach yn hanfodol bwysig, wrth gwrs, i economi Cymru. Ond rhaid i mi ddweud nad yw busnesau bach wedi cael y sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Datganolwyd ardrethi busnes ers peth amser, ac mae busnesau’n dal i fod o dan...
Russell George: Wel, mae busnesau Cymru eisoes ar eu colled o gymharu â’u cystadleuwyr yn Lloegr a’r Alban. Mae Lloegr a’r Alban eisoes wedi codi lefelau rhyddhad ardrethi busnesau bach yno. Ar ben hynny, model hybrid o Cyllid Cymru yw’r banc datblygu yr ydych yn ei gynnig—yn wir, hwy a ddarparodd yr achos busnes. Nawr, gwelais enghraifft yr wythnos diwethaf pan euthum i ymweld â busnes. Roedd eu...
Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn gwneud hynny ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Mae strategaeth ddiwydiannol y Prif Weinidog wedi nodi y bydd buddsoddiad sylweddol yn mynd tuag at ymchwil a datblygu, a hyfforddiant, fel bod ein gweithlu’n barod i wynebu’r heriau a ddaw yn sgil arloesedd. Yn wir, mae’n nodi y dylem greu’r amodau cywir er mwyn i fentrau newydd a mentrau...
Russell George: Cyfarfûm â’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, y llynedd mewn perthynas â system traffig unffordd y Trallwng, a Chyngor Tref y Trallwng hefyd. Cytunwyd ar y pryd y buasai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o waith i asesu’r opsiynau o droi Brook Street yn ôl o fod yn system draffig unffordd i system ddwyffordd er mwyn lleddfu’r problemau parhaus yn y dref. Buaswn yn ddiolchgar pe...
Russell George: Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i dalu teyrnged i David Pugh, cyn-faer y Drenewydd a hanesydd lleol o fri, a fu farw yr wythnos diwethaf. Roedd David Pugh yn hanesydd lleol blaenllaw ers sawl degawd, yn allweddol yn y gwaith o sefydlu grŵp hanes y Drenewydd yn 1995 a’i gylchgrawn ‘The Newtonian’, ac mae’r ddau’n parhau i ffynnu heddiw. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gael ei weld...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer heddiw yw ‘Her ailgylchu i fusnesau a thrigolion yng Nghymru wledig.’ Rwy’n mynd i ddechrau fy nghyfraniad drwy gymeradwyo’r Llywodraeth a dweud gwaith mor dda y maent yn ei wneud, yna rwy’n mynd i gyflwyno rhai achosion sy’n dangos, os nad ydym yn cynnal y momentwm, y bydd pethau’n newid. Wedyn hefyd rwy’n mynd i ddangos clip fideo...
Russell George: Diolch. Felly, fe archwiliaf bob un o’r achosion hyn. Roedd y clip cyntaf gan Lorna Hamer o Quality Pipe Supports, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu pan ddywedodd Lorna na all ailgylchu cardbord a phlastig yn unman ym Mhowys. Pan holais i hi, roedd un lle yn y dref nesaf, ond yn anffodus, nid oedd y cwmni’n ei dderbyn yn y ffurf yr oeddent yn ei gynhyrchu ac roedd lleiafswm...
Russell George: Derbyniaf eich pwynt ynglŷn â dod â deunydd i ganolfannau mewn archfarchnadoedd, er enghraifft, ond ni all busnes wneud hynny. Pe bai busnes yn gwneud hynny, buasent yn cael eu dirwyo.
Russell George: O ran eich Papur Gwyn ar adael yr UE, Brif Weinidog, mae ynddo lawer y gallaf gytuno ag ef. Ond mae'n ymddangos bod diffyg cynllunio strategol i ysgogi’r cyfleoedd, rwy’n credu, i dyfu economi Cymru. Rydym ni’n gwybod bod allforion Cymru wedi gostwng yn 2015 a bod 26 y cant yn llai o fusnesau newydd a gychwynnwyd ers 2011. Felly, wrth dyfu economi Cymru, sut mae eich papur yn cysylltu...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith undebau credyd yn y canolbarth?
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)
Russell George: Brif Weinidog, nod strategaeth ddiwydiannol y DU yw cau’r bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol. Yma, yng Nghymru, mae cynhyrchiant rhanbarthol yn amrywio'n fawr, gydag Ynys Môn â 53 y cant o werth ychwanegol gros y DU, o’i gymharu â 90 y cant yng Nghaerdydd. Mae eich Llywodraeth wedi datgan yn y gorffennol fod amrywiadau yn lefelau gwerth ychwanegol gros y pen yn cael eu heffeithio...
Russell George: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyflwyno ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ac rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol yn enw Paul Davies. Dylwn ddweud fy mod yn cytuno â holl welliannau Plaid Cymru. Yn anffodus, ni allwn eu cefnogi am eu bod yn dileu ein cynnig yn gyfan.
Russell George: Ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r ansicrwydd anochel sy’n gysylltiedig â’r canlyniad, rwy’n credu bod y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn cynnig diogelwch a sicrwydd i fusnesau allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â sylfaen gadarn ar gyfer gwella safonau byw a buddsoddi yn llwyddiant pob rhan o’r DU yn y dyfodol....
Russell George: Wel, fe amlinellais, yn union cyn i chi ymyrryd, yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Ond fe ddywedodd Greg Clark yr wythnos diwethaf ei fod am fargen arbennig gyda’r diwydiant dur fel rhan o strategaeth ddiwydiannol flaenllaw’r Llywodraeth. Mae’n rhaid i mi ddweud, ni chymeraf unrhyw wersi gan y Blaid Lafur, ac nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd unrhyw...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? EAQ(5)0121(EI)
Russell George: A gaf i ddiolch Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Mae'r adroddiad a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi rhai pryderon difrifol iawn, fe ddywedwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, wrth i swm sylweddol arall eto o arian trethdalwyr—£3 miliwn—gael ei golli. Mae rhai cwestiynau am atebolrwydd yn y fan yma, ac yn anffodus, nid hwn yw’r tro...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ddatgan fy mod i’n credu ei bod yn arbennig o bwysig i ddiolch i'r staff, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn? Mae llawer o bryderon wedi eu codi gan staff nad achoswyd ganddyn nhw, ac rwy'n credu y dylid talu teyrnged iddyn nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae'r sefydliad, fel corff a noddir gan y Llywodraeth, wedi ei...