Altaf Hussain: Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Cyngor Abertawe fod menter newydd wedi'i lansio fel bod pobl yn gwybod bod gan weithredwyr hamdden ar draeth Caswell y sgiliau a'r profiad i ddarparu gweithgareddau diogel a hwyliog, wedi'u cyflwyno i'r safon uchaf. Mae'r bartneriaeth hon gyda'r RNLI a Ffederasiwn Syrffio Cymru yn syniad gwych, a gyda'r twf yn nifer y bobl sy'n ymgymryd â...
Altaf Hussain: 7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwerth maethol prydau bwyd a weinir mewn ysbytai yng Nghymru? OQ58333
Altaf Hussain: Weinidog, mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 'Brexit a Chymru' 'yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain busnesau drwy'r rheoliadau newydd; yn annog ailhyfforddi a chreu swyddi yn y sector tollau i ateb y galw cynyddol; yn cynnal cyllid brys ar gyfer sectorau y mae oedi ar y ffin yn effeithio arnynt; ac yn monitro'r effeithiau ar borthladdoedd Cymru yn barhaus.' A yw'r Gweinidog...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ystod dau arhosiad diweddar yn yr ysbyty, un yn Ysbyty Tywysoges Cymru a'r llall yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cefais fy synnu gan y diffyg dewis deietegol a oedd ar gael. Fel Mwslim, ni chefais gynnig bwyd halal. Fe'm hysbyswyd ers hynny fod llysieuwyr hefyd yn aml heb gael cynnig bwyd sy'n diwallu eu hanghenion deietegol. Y canlyniad: cleifion mewnol yn gorfod...
Altaf Hussain: 'Gall un plentyn, un athro, un llyfr ac un ysgrifbin newid y byd.' Dyma eiriau Malala Yousafzai, menyw ifanc wirioneddol ysbrydoledig, a anwyd ar 12 Gorffennaf 1997 yn nyffryn Swat ym Mhacistan. Pan oedd hi'n ddim ond 11 oed, meddiannodd y Taleban ei phentref a chau ei hysgol. Er ei hoedran ifanc, penderfynodd na fyddai'n rhoi'r gorau i'w haddysg heb frwydr. Siaradodd yn gyhoeddus ar ran...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Maent wedi trafod y pwynt yr oeddwn am gyfeirio ato. Diolch.
Altaf Hussain: Hoffwn hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â'i Fawrhydi y Brenin a'r holl deulu brenhinol ar farwolaeth y Frenhines Elizabeth annwyl. Roeddwn y tu allan i'r wlad pan glywais y newyddion trasig. Roeddem ni'n ymweld â theulu yn Kashmir pan glywsom ni'n hwyr nos Iau fod ein brenhines wedi marw. Roedd yn adeg o dristwch dwfn ac alaeth ofnadwy, nid yn unig i mi a fy nheulu agos, ond trwy Srinagar,...
Altaf Hussain: Gweinidog, ym mis Chwefror eleni, cwympodd tyrbin gwynt yn Gilfach Goch i'r llawr, gan ddinistrio ei lafnau. Ers hynny, rwyf i wedi herio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch y potensial i hyn ddigwydd rhywle arall a pha fesurau y mae modd eu cymryd gyda thirfeddianwyr i sicrhau diogelwch. Wrth i ni o bosibl weld cynnydd yn natblygiad ynni gwynt ar y tir, ac wrth i ni werthuso...
Altaf Hussain: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau 2022 yng Ngorllewin De Cymru? OQ58377
Altaf Hussain: Weinidog, ar ôl cyfnod mor gythryblus, gydag effaith y pandemig yn amlwg yn effeithio ar fywydau ein pobl ifanc, mae’n iawn inni ddathlu cyflawniadau ein holl bobl ifanc sydd wedi dangos cymaint o gryfder wrth gwblhau eu hastudiaethau. Bydd llawer wedi cael trafferth oherwydd absenoldeb, ac mae rhai wedi cwestiynu tegwch y canlyniadau. Pa wersi y gallwn eu dysgu o brofiad y garfan hon o...
Altaf Hussain: Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad ein pwyllgor ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd. Hoffwn ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, am ein llywio drwy nifer sylweddol o faterion pwysig, sydd, yn y cyfnod hwn o her economaidd, wedi dod yn bwysicach byth i deuluoedd ledled Cymru. Mae tlodi tanwydd, y risg i iechyd a llesiant teuluoedd wrth inni wynebu...
Altaf Hussain: Er bod gennyf rai pryderon ynghylch cyflymder ymatebion gweinidogol, mewn cyfnod o her ddigynsail ac uniongyrchol, mae sawl maes yn ein hadroddiad sy’n ymwneud â’r tymor hwy. Mae un o’n hargymhellion, Rhif 11, yn gofyn am gynllun seiliedig ar ardal yn y dyfodol i ddatblygu strategaeth ymgysylltu â’r gymuned er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r rhwydweithiau presennol—
Altaf Hussain: —a bod ymdeimlad cryfach o lawer o ymrwymiad ymhlith cymunedau lleol. Mae hyn yn bwysig. Gwlad fechan yw Cymru; mae gennym gapasiti sylweddol yn ein rhwydwaith o awdurdodau lleol, darparwyr tai, grwpiau cymunedol a thrydydd sector sydd wedi cyrraedd gallu i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i helpu i sicrhau'r ymrwymiad hwnnw. Mae yna reswm pam fod hyn yn hollbwysig. Hoffwn glywed...
Altaf Hussain: Ydw, ydy hynny—? Diolch yn fawr iawn.
Altaf Hussain: Rydych chi'n gwneud gwaith mor wych yn cyflwyno'r prydau ysgol hyn, ond roeddwn yn meddwl, yr hyn sydd ar goll yma yw: a fyddai modd cael gwersi i ddysgu'r plant hyn sut i goginio? A dylai hynny fod yn un o'r camau, fel nad ydym yn mynd ymlaen ac ymlaen â hyn, ac ni ddylai fod am ddim. Efallai y daw amser wedyn pan fyddwn yn gallu rhoi diwedd arno.
Altaf Hussain: Gweinidog, mae Cyngor Abertawe ynghyd â Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau'r amddiffynfeydd môr yn y Mwmbwls. Mae hwn yn fuddsoddiad i'w groesawu, ac rwy'n deall y bydd y rhan fwyaf o'r gost yn cael ei ddarparu drwy'r rhaglen rheoli risg arfordirol. Dylai'r cynlluniau hyn, er eu bod yn ymateb i fygythiad cynhesu byd-eang a lefelau'r môr sy'n codi, roi hyder i gymunedau a busnesau...
Altaf Hussain: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol ar ddyfodol y dreth gyngor? OQ58421
Altaf Hussain: Weinidog, mae llawer o bobl yn poeni am gostau byw. Mae llawer yn ofni bellach y bydd eich ymgynghoriad ar ddyfodol y dreth gyngor yn golygu y bydd mwy o aelwydydd yn talu llawer mwy mewn treth, fel a ddigwyddodd gyda'r ailbrisio diwethaf. Y dreth gyngor, ynghyd â morgeisi neu renti a chostau ynni yw’r gwariant mwyaf y bydd teulu’n ei wynebu bellach, a rhagwelir hefyd y byddant yn arwain...
Altaf Hussain: Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gwbl annigonol, fel y dywedoch chi, ac mae angen rhywbeth gwell cyn gynted â phosibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ffocws hynod fanwl ar ganserau yn gyffredinol yng Nghymru a llunio strategaeth i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn oll yn llywio ac yn arwain nid yn unig meddygon a staff clinigol eraill, ond hefyd y rheolwyr y mae angen...
Altaf Hussain: Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adfer gwasanaethau bysiau sydd wedi dod i ben, yn dilyn penderfyniad cwmni bysus Easyway i roi'r gorau i fasnachu. Yn fy marn i, mae gan y Cyngor ddyletswydd i'w breswylwyr i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl sy'n byw yn Oaklands, Broadlands a Phen-y-fai, yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd angen trafnidiaeth gyhoeddus...