Vikki Howells: 3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghwm Cynon yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol? OAQ(5)0715(FM)
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ystod blwyddyn 2015-16, roedd dros 8,300 o blant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu bod mwy nag un o bob 10 o'r holl blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn byw yn fy mwrdeistref sirol i. Mae gwaith ymchwil newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu, mae rhieni...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a hefyd cofnodi fy niolch i'r Gweinidog ac aelodau eraill o dasglu’r Cymoedd am ymweld â fy etholaeth ac am gynnal ymarfer ymgynghori yno. Y bore yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, a’r siaradwraig wadd oedd y Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan. Mae llawer o'r syniadau a drafodwyd gennym ni yno wedi...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd. Ar 8 Gorffennaf 1873 gadawodd 500 o aelodau o Undeb Corawl De Cymru Aberdâr ar ddechrau eu taith i gystadlu am gwpan sialens y Crystal Palace. Roedd yr undeb, wedi’i ffurfio o leisiau o gorau o bob rhan o faes glo de Cymru, yn dychwelyd i gystadlu fel y pencampwyr ar y pryd. Yn 1872 enillasant y cwpan heb gystadleuaeth. Yn 1873 roeddent yn wynebu her gan un o gorau enwocaf...
Vikki Howells: A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ei gweithredoedd i gefnogi ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i gael cyfiawnder i'r menywod di-ri yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau annheg Llywodraeth y DU i'r system pensiynau? Ac, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddai ymgyrchwyr WASPI hefyd yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi ei bod...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sylwadau a wnaethoch am wasanaethau dydd Sul. Mae hwn yn fater pwysig iawn i fy etholwyr, sydd ar hyn o bryd yn wynebu gwasanaethau dim ond unwaith bob dwy awr ar y cyswllt rheilffordd drwodd i Aberdâr. Byddwn yn croesawu unrhyw fanylion pellach y gallech eu rhoi am ddarparu gwasanaethau dydd Sul. Nid ydym yn byw...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, yn ystod yr haf, yr oedd yn bleser i mi gael ymweld â chlwb cinio a hwyl yn Ysgol Gynradd Penywaun, sydd yn fy etholaeth i. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion a gymerodd ran, yn enwedig wrth fynd i'r afael â’r broblem newyn yn ystod y gwyliau. A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg, yn myfyrio ar gynllun yr haf...
Vikki Howells: Prif Weinidog, hoffwn i groesawu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i fodel newydd o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig yn wyneb Brexit a cholli'r arian rhanbarthol y byddwn ni’n ei brofi o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mewn cyhoeddiadau diweddar ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau twf rhanbarthol, ymddengys bod y...
Vikki Howells: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod tymor y Cynulliad hwn i wella profiadau defnyddwyr ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar faterion yn ymwneud â dystonia, sef y trydydd cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mater y mae’r ymwybyddiaeth ohono yn brin ar y cyfan ymysg y cyhoedd. Ac fe hoffwn ddiolch ichi am ddod i'm hetholaeth a chyfarfod ag etholwyr sy'n aelodau o grŵp cymorth dystonia de Cymru, a gwrando ar eu...
Vikki Howells: Ar ddydd Iau 7 Medi ymunais ag aelodau o’r gymuned leol i ddathlu agor siop gydweithredol newydd ar Canal Road yng Nghwm-bach, yn fy etholaeth. A dweud y gwir, roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael gwahoddiad i agor y siop yn ffurfiol. Mae’r datblygiad £0.5 miliwn wedi dod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd, gan ddarparu adnodd cymunedol amhrisiadwy a chreu 16 o swyddi newydd sbon. Bydd...
Vikki Howells: Mae’n bleser gallu cyfrannu at yr ymchwiliad hwn ac at yr adroddiad a ddeilliodd ohono hefyd, fel Aelod dros etholaeth yn y Cymoedd, lle y ceir angen mor daer am welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ychydig o’r argymhellion. Yn gyntaf oll, mae argymhelliad 10 yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn ateb y galw yn y dyfodol. Fel y...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd, am alw arnaf i siarad heddiw. Mae'r ddadl hon yn nodi datblygiad arall eto yn y daith ddatganoli a ddechreuodd ychydig dros 20 mlynedd yn ôl. Yn wir, er gwaethaf y rhybuddion difrifol gan Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn gweld bod llawer i fod yn obeithiol yn ei gylch, o ran y pellter yr ydym ni wedi teithio a'r cynigion gwario y mae wedi eu hamlinellu. Mae Ysgrifennydd y...
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y clybiau hwyl a chinio gwyliau ysgol a gynhaliwyd yr haf hwn?
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion diweddar o gorlenwi ar wasanaethau rheilffyrdd y cymoedd?
Vikki Howells: Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, a hefyd yn yr adroddiad a’i dilynodd. Buaswn hefyd yn hoffi diolch i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu at ein hymchwiliad. Yn amlwg, y bws yw’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddiwn fwyaf, ond dyma’r ffurf fwyaf cynhwysol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dyma’r unig fath...
Vikki Howells: 2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu cyllid o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod tymor y Cynulliad hwn? (OAQ51210)
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod fy etholaeth i, Cwm Cynon, wedi elwa gan fwy na £100 miliwn mewn cyfleusterau addysgol newydd a gwell o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf yn deall bod hynny’n fwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru. Gwn eich bod chi’n bresennol, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, yn agoriad swyddogol campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw. Ac fel cyn-athro ysgol uwchradd fy hun, rwy’n cytuno'n llwyr fod hwn yn fater cymhleth, ac nad oes un dull o gofrestru ar gyfer TGAU sy'n addas i bawb. Mae’n rhaid inni sicrhau bod disgyblion yn cael amser i gyflawni eu potensial llawn, nid eu cofrestru'n gynnar, a'u hannog i fancio gradd is nag y gallent fod wedi ei...
Vikki Howells: 11. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o raddfa a chwmpas chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ51200)