Rhun ap Iorwerth: Rydych chi’n sicr yn gywir, rwy’n cytuno, ac mae Ofgem yn allweddol. Dof at rai o’r trafodaethau a gefais gydag Ofgem mewn munud. Mae’n hanfodol ein bod yn symud, fel y gobeithiwn ei wneud yn y Cynulliad heddiw, at sefyllfa lle y ceir rhagdybiaeth o blaid gosod ceblau o dan y ddaear, drwy fod Ofgem yn caniatáu hynny. Fe af ymlaen. The additional cost of undergrounding, of course, is...
Rhun ap Iorwerth: Un o’r pwyntiau a nododd Simon Thomas oedd eu bod wedi rhoi sylw i’r effaith gronnol yn Nenmarc drwy ddweud, ‘Iawn. Gadewch i ni roi llawer o’r ceblau hyn o dan y ddaear oherwydd yr angen i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy’.
Rhun ap Iorwerth: A Chymru?
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau'r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn? OAQ(5)0399(FM) [W]
Rhun ap Iorwerth: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r hyn y mae’r ffigurau diweddaraf ar amseroedd aros damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—yn enwedig y rhai sy'n aros mwy na 12 awr—yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw ein bod yn wynebu problem capasiti trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfartaledd o tua 3,000 o gleifion yn aros yn hwy na 12 awr fis ar ôl mis, ar ôl mis, ar ôl...
Rhun ap Iorwerth: Ddydd Mercher diwethaf, mi wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad clir iawn mae’n dymuniad democrataidd ni yma ydy y dylai’r Grid Cenedlaethol chwilio am ddulliau amgen o wneud cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru, yn hytrach na gosod peilonau newydd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yma. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i ni yn Ynys Môn, wrth gwrs, lle rydym ni yn wynebu...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau innau hefyd yn mynd i’r Gweinidog. Mae pwysau ar adrannau brys ysbytai yn effeithio ar y ddwy ochr i glawdd Offa ac wedi bod yn y penawdau eto, ac mae yna lawer o resymau dros y problemau hynny. Ond rwyf am ganolbwyntio ar rôl gofal cymdeithasol. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rôl bwysig wrth atal pobl...
Rhun ap Iorwerth: Rydym yn gwybod wrth gwrs gymaint o gyfran o’n cyllid ni sy’n mynd i’r NHS, ond nid yw’r un sylw, yr un bri, yn cael ei roi i gyllidebau gofal cymdeithasol. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri ar yr arian sydd ar gael i ofal cymdeithasol ac mae effeithiau hynny, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno, wedi bod yn amlwg o ran cynyddu pwysau ar...
Rhun ap Iorwerth: Efallai y dylai’r Gweinidog geisio darganfod pam y mae nifer yr addasiadau hynny wedi bod yn gostwng a pham nad yw’r offer wedi bod yn mynd allan i’r un graddau ag yn y gorffennol gan fod hyn i gyd yn cael effaith ganlyniadol ymhellach yn nes ymlaen yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Gadewch i mi dynnu eich sylw at wasanaeth arall nad yw’n cael ei werthfawrogi o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mi hoffwn i ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mi wnaf i ddiolch hefyd i ambell un sydd ddim wedi cael y cyfle yn y ddadl y prynhawn yma i gael ei safbwynt ar y cofnod. Gwnaf i enwi Jenny Rathbone, wrth gwrs, sy’n un a oedd wedi arwyddo’r cynnig hwn ac sydd yma yn y Siambr yn cefnogi 100 y cant y cynnig sydd ger ein bron ni...
Rhun ap Iorwerth: [Yn parhau.]—ni ddylai ymchwiliad cyhoeddus llawn fod yn ffordd i alluogi’r Llywodraeth i ohirio, ymhellach, gwneud setliad cyfiawn i’r bobl a effeithiwyd. Wrth gwrs, rwy’n barod i gymryd yr ymyrraeth.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am yr ymyriad hwnnw, ac mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, mai’r hyn yr ydym ei eisiau yw ymchwiliad llawn a chyflawn. Rydym wedi aros yn ddigon hir i gael yr atebion i’r cwestiynau a ofynnwn. Rwy’n ddiolchgar fod y pwynt hwnnw wedi’i wneud. Mae’r ymchwiliadau a welsom yn yr Alban wedi bod yn ddefnyddiol o ran y strwythur iawndal, ond nid yw’n...
Rhun ap Iorwerth: Thank you very much, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae’n ddadl amserol a phriodol, ac nid am y rhesymau y mae’r blaid gyferbyn yn ei feddwl efallai. Mae’n amserol oherwydd, unwaith eto, mae arweinydd newydd y blaid wedi cadarnhau mai nod hirdymor ei blaid yw preifateiddio’r GIG—[Torri ar draws]. Mae wedi cofnodi ei farn, unwaith eto, nad yw wedi newid...
Rhun ap Iorwerth: A allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth o hynny?
Rhun ap Iorwerth: Fe gymeraf ymyriad arall, ar bob cyfrif, neu gallwn ddychwelyd at y pwnc dan sylw.
Rhun ap Iorwerth: Nid oes unrhyw ymyrraeth am fod yr Aelod, a bod yn hollol onest, yn bod yn chwerthinllyd. Yng ngwelliant 5, rydym yn fwy penodol ynglŷn â sut y mae angen i ofal sylfaenol wella. Mae’n galw am gyfuniad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd lawer mwy, gyda buddsoddiadau’n cael eu gwneud yn y lle mwyaf priodol yn hytrach na gosod canrannau...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi ildio?
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi codi pryderon hefyd yn y Siambr yma efo’r Prif Weinidog ynglŷn â chyfres o gyhoeddiadau yn fy etholaeth i. Mae yna ragor o gyhoeddiadau wedi dod yn ddiweddar ynglŷn â sefydliadau ariannol, nid dim ond banciau, yn cau: HSBC yng Nghaergybi a chymdeithas adeiladu Yorkshire yn Llangefni ydy’r diweddaraf. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod yna ganoli, rydw i’n meddwl, mewn...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru? EAQ(5)0116(HWS)