Bethan Sayed: Rwy’n sylweddoli ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig ar NSA Afan yn fy rhanbarth i. Ond hoffwn ofyn am ddatganiad llafar ar sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymchwiliad i honiadau o anghysonderau ariannol yn NSA Afan. Ni roddwyd yr un honiad sylweddol iddynt, yn ôl NSA Afan a'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthyf. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir nad ydw i'n dymuno...
Bethan Sayed: Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddod yn ôl ac egluro canlyniad hyn. Ond, fel yr ydych yn ymwybodol, mae trafodaethau parhaus, nid yn unig gyda'r awdurdod lleol ar ddiogelu gwasanaethau ond hefyd drafodaethau gyda'r heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ni ellir dweud mwy na’r hyn sydd yn y datganiad ysgrifenedig a mwy na’r ateb i'ch cwestiwn yr wythnos diwethaf. Ond...
Bethan Sayed: Ar ddiwedd mis Chwefror, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta, ac roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech yn gallu amserlennu dadl gan y Llywodraeth ar y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ar anhwylderau bwyta. Rwy’n gwybod ac yn gwerthfawrogi ein bod wedi cytuno ar fwy o gyllid ar gyfer anhwylderau bwyta drwy'r trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn ystod y...
Bethan Sayed: Diolch. Ar ôl inni glywed gan randdeiliaid am eu pryderon, ac o ystyried y ffaith bod y pedwerydd Cynulliad wedi gwrthod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), cytunodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylid ystyried y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 27.8 ac adrodd ein casgliadau i’r Cynulliad. Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gosod, gwnaethom ysgrifennu at Gymdeithas yr...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymchwiliad i afreoleidd-dra ariannu yn NSA Afan?
Bethan Sayed: Nid wyf am gamddehongli’r hyn sydd wedi cael ei ddweud, ond credaf eich bod wedi dweud wrthyf mewn ymateb blaenorol eich bod am fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr ac effeithiol, ac rydych wedi dweud eich bod am edrych ar yr hyn yr oedd y DU yn ei wneud er mwyn gallu pwyso a mesur yr hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru, fel nad ydym yn dyblygu gwaith neu’n rhoi cofrestr ar waith yn...
Bethan Sayed: Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn rhywbeth rwyf wedi’i ddwyn i’ch sylw gryn dipyn o weithiau bellach yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mewn perthynas â NSA Afan, roeddwn yn meddwl a allem gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad, yn benodol oherwydd bod pobl ym Metws sydd â ffrydiau ariannu yn sgil darparu’r gwasanaeth hwn yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf nad oes ganddynt syniad...
Bethan Sayed: Mae hynny’n ateb y cwestiwn ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ond nid yw’n ei ateb ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Nid beirniadaeth oedd hi; roeddwn yn ceisio darganfod y gwahaniaethau rhwng y gweithrediadau a pham y gwnaethoch y penderfyniad hwnnw, ac mae’n dal i fod braidd yn aneglur i mi. Ar agenda ehangach Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n clywed gan y rhai sydd â diddordeb yn nyfodol...
Bethan Sayed: Diolch i chi, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw, gan fy mod yn meddwl bod llawer o bobl yn y sector yn awyddus i wybod yn union sut y gall unrhyw gynllun newydd dargedu tlodi’n effeithiol. Mae llawer o’r bobl y siaradais â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi dweud ei fod yn ymwneud â’r economi a hybu’r farchnad swyddi i’r rhai llai cefnog: er enghraifft, mwy o swyddi yn...
Bethan Sayed: Ddoe, pan oeddwn yn gwybod fy mod yn dod i mewn ar y cwestiwn atodol hwn, fe roddais gwestiwn bach ar Facebook i ofyn i bobl beth oedd eu barn am y ffaith fod yr ymgyrchoedd hyn wedi digwydd. Mae llawer o bobl yn ymwybodol, ond roedd yna nifer go drawiadol o bobl nad oedd yn ymwybodol fod yr ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd hyn yn bodoli hyd yn oed. Trwy Cymorth i Fenywod, gallwn ddod o hyd i...
Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg ariannol yng Nghymru?
Bethan Sayed: Rwy’n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng nghyd-destun—fel y crybwyllwyd gan Darren Miller yn gynharach—yr ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal i gerddoriaeth mewn addysg, nid am ein bod ni fel ACau yn awyddus i wneud hynny, ond oherwydd bod y cyhoedd, drwy bôl piniwn a sefydlwyd gennym, wedi penderfynu ar ein rhan y dylem edrych ar y mater hwn oherwydd,...
Bethan Sayed: Weinidog, mae masnachwyr ym marchnad Castell-nedd wedi cael cynnig llai o ardrethi busnes ers peth amser, gyda rhai yn elwa o dalu dim o gwbl. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda rhai masnachwyr yn y farchnad a ddywedodd wrthyf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi codi eu rhenti i’r pwynt lle y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau neu symud eu busnes i fannau...
Bethan Sayed: Diolch, Dai, am y geiriau caredig iawn. Gwnes i ddim talu Dai Lloyd i ddweud y pethau yna, yn sicr. Rydym ni wedi bod yn craffu yn weddol gyson ar ITV, BBC ac eraill, fel rhan o’r ymchwiliad penodol hwn, ond fel pwyllgor sydd â ‘chyfathrebu’ yn ein teitl, rwy’n credu ei bod yn bwysig inni osod yr agenda gwleidyddol er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn y maes cyfryngol yn ymatebol...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, ni thelais neb am y ganmoliaeth, ond diolch yn fawr i chi beth bynnag. Rwy’n siŵr na fydd fy arweinydd yn gallu rhoi pryd o dafod i mi am rywbeth a ddywedoch chi. Byddai hynny’n rhywbeth newydd i mi, ond hei, mae rhyfeddodau’n digwydd. Beth y gallaf ei ddweud? O ran S4C, hynny yw, wyddoch chi, byddem yn cytuno ar y meinciau hyn, wrth gwrs, na...
Bethan Sayed: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heddiw, yn amlwg, fel y dywedwyd, rydym wedi cael canlyniad ymgynghorol y bleidlais. Er gwaethaf yr hyn a oedd yn ddewis anodd i weithlu Tata, un a oedd yn ddewis rhwng pensiynau a buddsoddi yn y gwaith yn y dyfodol, mae’n amlwg eu bod wedi penderfynu cadw eu ffydd yn Tata Steel. Ond a fuasech yn cytuno â mi ei bod hi’n bryd i Tata Steel gyflawni eu...
Bethan Sayed: Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru, fel y soniwyd, dros 55 oed ac mae'r adroddiad diweddaraf yn awgrymu eu bod, ar gyfartaledd, yn 71 mlwydd oed. Nid yw mwyafrif llethol y preswylwyr hyn yn rhagweld gadael neu werthu eu cartrefi yn y dyfodol agos. A wnewch chi, felly, gytuno â mi nad yw’r cynnydd i ffioedd lleiniau i dalu am golledion perchnogion parciau a...
Bethan Sayed: Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi siarad â dau o Aelodau’r Cynulliad, ond ni chredaf eich bod wedi siarad gyda phob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r ardal, a chredaf, mewn perthynas â democratiaeth yma yng Nghymru, y byddai’n dda pe gallech gynnwys pob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Edrychwch,...
Bethan Sayed: Lywydd, rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd ym Mhlaid Cymru nid oes gennym ddim o gwbl i’w guddio neu i fod â chywilydd ohono mewn perthynas â’r mater pwysig o gefnogi pobl sy’n gweithio. Rydym yn gyson wedi cefnogi’r alwad i roi diwedd ar gontractau dim oriau camfanteisiol ac ansefydlog, ac rydym wedi defnyddio ein pleidleisiau yn y Siambr hon i brofi hynny....
Bethan Sayed: Na fyddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fe gyflwynasom y Bil cyflogau amaethyddol a gafodd ei herio yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n credu, os ydych yn mynd i fod yn gosod yr agenda, yn wleidyddol ac yn bennaf, mae angen i ni wneud hynny gyda Bil yr undebau llafur. Byddwn yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn drwy gyflwyno hwnnw, a byddwn wedi meddwl, ar faterion megis...