Canlyniadau 141–160 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Rygbi Cyffwrdd
( 2 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Os caf ategu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwedd y cwestiwn hwnnw, hoffwn wneud hynny. Fel rhywun sy’n dal i chwarae rygbi, er mai rygbi i chwaraewyr hŷn yw hwnnw, a rhywun sy’n dal i ymdrin â’r nifer o lythyrau gan yr unigolion a drawmateiddiwyd wrth fy ngweld wedi diosg fy nghrys ym Mharc yr Arfau Caerdydd—mae honno’n olygfa rhy frawychus—rwy’n derbyn y pwynt fod...

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food ( 2 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Rwy’n datgan diddordeb gan fy mod yn cyflenwi cynnyrch i’r ffatri, ond mae hyn yn newyddion trychinebus a dweud y lleiaf. Y cwmni sy’n rhedeg y safle hwnnw ar hyn o bryd yw’r trydydd perchennog mewn 17 mlynedd. Felly, mae hynny’n rhoi syniad i ni o faint o gwmnïau sydd wedi bod drwy’r broses o ad-drefnu’r safle hwn. Holl bwynt y safle hwnnw oedd ei fod yn safle integredig, yn...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 8 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel plaid a dorrodd dir newydd bron i 40 mlynedd yn ôl, Brif Weinidog, byddwn yn falch iawn o roi’r llawlyfr i’r Blaid Lafur ar sut i ethol menyw i fod yn arweinydd, pe hoffech chi ddarllen y llawlyfr hwnnw. Ond, hoffwn ofyn cwestiwn o ddifrif i chi am ardrethi busnes, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, Brif Weinidog. Yn dilyn ailbrisio diweddar busnesau ar...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 8 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Aeth arweinydd y tŷ a minnau i brotest yn y Bont-faen, ond, rwyf wedi bod i lawer o drefi yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae'n ymddangos y bu enghreifftiau dro ar ôl tro o, yn sicr, safleoedd manwerthu eilaidd a mannau lletygarwch hefyd y mae’n ymddangos eu bod wedi gwneud yn eithaf gwael o dan yr ailbrisiad hwn, ac mae llawer yn wynebu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 8 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Rwy’n gresynu na allwch chi gynnig mwy o gysur na hynny, oherwydd, yn sicr y busnesau yr wyf i wedi siarad â nhw, pan eu bod wedi edrych ar yr arian trosiannol o £10 miliwn sydd ar gael, nid ydynt yn credu y bydd hynny'n mynd yn ddigon pell i’w helpu i aros mewn busnes. Ac nid wyf yn bychanu'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ond ceir rhai pryderon dilys iawn, iawn allan...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, os gwelwch yn dda, ynglŷn â hawliau datblygu a ganiateir? Rhai blynyddoedd yn ôl, pan mai’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am gynllunio, gwnaethpwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud bod y Llywodraeth ar y pryd yn mynd i geisio gwneud yr hawliau yn fwy hyblyg ac yn haws eu defnyddio i...

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru ( 8 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hwn yn faes a ystyriwyd gennym, yn amlwg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan roeddech yn dioddef o annwyd trwm, felly mae'n dda eich gweld chi'n edrych yn well heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a roesoch heddiw. Yn amlwg, roedd gofal plant yn ystyriaeth bwysig yn yr etholiad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Yr Economi Werdd
( 9 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Weinidog, rwyf wedi gofyn i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion olynol yn y sefydliad hwn i ddechrau gwireddu rhywfaint o’r rhethreg y maent wedi siarad amdani, yn enwedig ar ficrogynhyrchu yn y sector ynni gwyrdd, ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen grid sy’n gallu caniatáu i bobl gysylltu ag ef. Mae yna lawer iawn o bobl a fyddai’n dymuno cynhyrchu—neu chwarae rhan yn...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ( 9 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi tyfu’n ddadl flynyddol bron ychydig cyn Diwrnod y Cadoediad, ac ni allwch anghytuno â’r teimladau sydd wedi cael eu hadleisio ar draws y Siambr gan bron bob un—wel, pob un—o’r pleidiau gwleidyddol yma. Ond rwy’n meddwl bod angen i ni ystyried y profiad cadarnhaol y mae...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyn-filwyr a Phersonél y Lluoedd Arfog ( 9 Tach 2016)

Andrew RT Davies: A wnewch chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y gwelliant y mae’r Llywodraeth wedi’i roi yno, y byddech yn pleidleisio dros y cynnig diwygiedig pe bai gwelliant y Llywodraeth yn cael ei dderbyn, ac felly byddech yn cefnogi’r rhan honno o’r cynnig? Oherwydd nid ydych wedi ceisio ei ddileu, felly rwy’n darllen gan hynny eich bod yn barod i gytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(15 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf y bydd £50 miliwn ychwanegol yn cael ei roi ar gael ar gyfer pwysau’r gaeaf—rhywbeth yr ydym ni’n gobeithio fydd yn lleddfu peth o'r pwysau a wynebwyd gan y sector acíwt neu sylfaenol yr haf hwn, fel nad yw pobl yn dioddef yr amseroedd aros y bu’n rhaid iddynt eu dioddef yn hanesyddol. Un o'r...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(15 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Nid cwestiwn tric oedd hwn, Brif Weinidog; rwyf i wir eisiau gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnynt. Mae pedwar deg y cant o bobl yn dweud eu bod nhw’n cael problemau’n cael apwyntiad ar y diwrnod y maen nhw’n ffonio eu meddygfeydd, pa bynnag ran o Gymru y maen nhw’n byw ynddi. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(15 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, rydym ni wedi gweld yr arian sy’n mynd i mewn i feddygfeydd teulu yn gostwng dros y pedair blynedd diwethaf—gostyngiad o £20 miliwn dros y pedair blynedd diwethaf. Dyna pam mae gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymgyrch ar hyn o bryd i gynyddu’r gyfran o gyllideb y GIG sy’n mynd i feddygfeydd teulu i 11 y cant o'r gyllideb erbyn 2020. A allwch chi ymrwymo i...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(22 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, mae Cylchffordd Cymru yn cynnig potensial enfawr i adfywio rhan dlawd iawn o Gymru, ac yn cynnig cyfleoedd, o ran adfywio a gobaith am swyddi i ardal Blaenau Gwent a de Cymru—i Gymru gyfan a dweud y gwir—weddnewid ei delwedd i fod yn gyrchfan gwerth uchel i dwristiaid a'r diwydiant peirianneg. Ond, yn anffodus, mae’r cwmni Blaenau'r Cymoedd sy'n...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(22 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, rwy’n sylwi na wnaethoch chi ddweud bod gennych chi ffydd Soniasoch yn faith bod potensial o fewn y prosiect, ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan eich Llywodraeth, yr wyf yn gobeithio eich bod yn ymwybodol ohonynt, gan gyfarwyddwr cyffredinol adran yr economi, James Price, yn dangos yn eglur bod gweision sifil wedi codi pryderon gyda Gweinidogion ynghylch y cynlluniau i...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(22 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Wel, Brif Weinidog, mae arian cyhoeddus wedi mynd i’r cwmni hwn, fel yr wyf wedi ei amlygu—£1 filiwn ar ffioedd ymgynghori yn unig, cyfanswm o £9 miliwn, a gwarantau benthyciadau banc yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni’n gwybod am bethau eraill sydd wedi eu talu: ceir ras a wnaeth golled yn Silverstone; £35,000 ar gyfer garddio yn ogystal â phrynu cwmni beiciau modur,...

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r sefyllfa yr oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ynddi ddydd Sul? Rwy’n gwerthfawrogi bod y pwysau hyn yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac rwy’n gwerthfawrogi bod mwy o bwysau ar adegau penodol o'r flwyddyn, ond pan fo gennych chi...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (23 Tach 2016)

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â ffermwyr yng Nghanol De Cymru?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd
(23 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, rydym wedi cael datganiad yr hydref heddiw. Rydym yn gwybod bod y cytundeb dinas ar waith. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o ddatganiad yr hydref heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £400 miliwn ychwanegol, a bydd yn allweddol, wrth gyfuno’r cytundeb dinas a’r adnoddau ychwanegol a ryddhawyd heddiw, fod cynhyrchiant ardal cytundeb dinas Caerdydd yn cael ei gynyddu,...

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Amaethyddiaeth Fanwl (23 Tach 2016)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon, er bod hynny ychydig yn gynt nag y credais y byddwn yn cymryd rhan yn y drafodaeth. Rwy’n datgan buddiant, fel ffermwr, a rhag i mi grwydro i feysydd y gallai pobl feddwl eu bod yn gwrthdaro â fy muddiannau, rwy’n cofnodi hynny. Ar ein fferm ym Mro Morgannwg, rydym yn gwneud defnydd mawr o ddelweddau lloeren a...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.