Siân Gwenllian: Mae’n ymddangos i mi fod yna fwlch anferth rhwng yr hyn y mae Llafur yn ei ddweud a’r hyn y mae Llafur yn ei wneud. Mae yna fwlch rhwng llywodraeth Lafur Caerdydd ac arweinwyr Llafur yn Lloegr, a hefyd bwlch rhwng yr hyn y mae Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn ei ddweud a beth y mae cynghorau Llafur ar lawr gwlad yn ei wneud. Rwy’n sôn yn benodol yn fan hyn am gynlluniau i annog pobl i...
Siân Gwenllian: Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod y sector ynni dŵr cymunedol wedi’i effeithio’n wael iawn wrth i ardrethi busnes cael eu hail-werthuso. Mae dros 92 y cant o gynlluniau hydro yng Nghymru yn wynebu cynnydd anferthol, hyd at 900 y cant. Roedd eich maniffesto chi ar gyfer 2016 yn nodi cefnogaeth eich plaid i gynlluniau ynni cymunedol. A fedrwch chi ymrwymo i gynnig pecyn gostyngiad trethi...
Siân Gwenllian: Diolch. Mae’n bleser gen i, ar ran Plaid Cymru, hoelio ein sylw y prynhawn yma ar bwysigrwydd cynnal a datblygu llywodraeth leol gadarn yng Nghymru. Drwy gryfhau cymunedau, byddwn yn cryfhau Cymru. Gyda chyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin yn dwyn sylw’r wasg a gwleidyddion o bob lliw, rwyf i yn falch bod yna gyfle inni oedi am ennyd yn y...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, a diolch am drafodaeth ddifyr, er gwaetha’r toriad yn y canol. Fe soniodd Janet Finch-Saunders ar ddechrau’r drafodaeth yma am effaith toriadau ar wasanaethau cyhoeddus, ond toriadau’r Torïaid ydy’r rhain—eich toriadau chi ydyn nhw, felly nid ydy o’n gwneud sens, Janet, i fotio Tori. Nid ydy o’n gwneud unrhyw sens i unrhyw un sydd am ddiogelu ein...
Siân Gwenllian: Na wnaf. This leads to indebtedness, causes stress, affects the quality of life of the workforce and their families. Zero-hours contracts are not fair contracts, and it’s entirely clear that we need to move towards a situation where we scrap these contracts in Wales, and you have the power within Government to do that. According to the Assembly Research Service, up to 48,000 people say that...
Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rydym ni hefyd yn croesawu’r awydd i gyflwyno gwelliant ynglŷn â’r defnydd o weithwyr asiantaeth, er yn cytuno y byddai, efallai, wedi bod yn well i’w gynnwys o’r cychwyn, fel mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei ddweud. Bydd y Bil yma, wrth gwrs, yn datgymhwyso agweddau ar Ddeddf...
Siân Gwenllian: Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru pob cam o’r ffordd. Diolch.
Siân Gwenllian: Er gwaethaf beth yr ydym ni wedi ei glywed o un cyfeiriad y prynhawn yma, mae yna gonsensws cyffredinol yng Nghymru y dylid datganoli heddlua i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion. Rydw i am ganolbwyntio ar ddwy ddadl pam mae’n gwneud synnwyr i ddatganoli i Gymru. Mae plismona effeithiol yn golygu perthynas effeithiol ac agos efo’r...
Siân Gwenllian: Rwyf am siarad am integreiddio gofal cymdeithasol a iechyd, a’r problemau y byddai creu darpariaeth a system a fyddai’n mynd yn fwy a mwy darniog ei natur yn eu creu pe baem ni’n symud at ddefnyddio mwy a mwy o gontractwyr preifat. Rydym wedi trafod yr angen i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol sawl tro. Mae nifer o broblemau yn cael eu hachosi wrth i sefydliadau gwahanol ddadlau...
Siân Gwenllian: Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma. Yn amlwg, mae’n hollol annerbyniol fod landlordiaid yn gosod eiddo yn ddi-rent gan ddisgwyl cael eu ‘talu’, mewn dyfynodau, efo ffafrau rhywiol. Rydw i wir yn gobeithio fod yna ffordd i atal hyn rhag digwydd. Yn anffodus, fel rydym ni wedi’i glywed, mae yna dystiolaeth fod hyn ar waith yn Llundain, Bryste, Birmingham, yr Alban, ac, yn...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, ac mae’n bleser gen i gynnig y cynnig yma. Mae prinder meddygon yn y gogledd, ac yn ardaloedd gwledig Cymru, yn creu her anferth i’r gwasanaethau gofal iechyd. Mae modd ceisio taclo’r broblem yn y tymor byr, ond hefyd mae angen symud ymlaen i gynllunio ar gyfer atebion parhaol, hirdymor. Mae angen hyfforddi mwy o ddoctoriaid yn y gogledd, yr ardal lle mae’r prinder ar...
Siân Gwenllian: Mae problem efo meddygaeth teulu, hefyd. Mae gan bwyllgor meddygol gogledd Cymru bryder ynglŷn â chynaladwyedd dros dreian o feddygfeydd yn y rhanbarth: mae un o bob tair meddygfa mewn perig. Mae’r pwyllgor yn dweud bod angen 70 meddyg teulu ychwanegol ar fyrder yng ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r effaith ar gleifion, mae cost ariannol i’r prinder. Fe gododd gwariant ar staff meddygol...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich sylwadau. Diolch i Mark Isherwood am gyflwyno nifer o ddadleuon, ac rydw i’n cytuno—oes, mae angen gweithio ar y cyd ar draws y gogledd ac efo Lerpwl a Manceinion, a phwy bynnag arall sydd eisiau gweithio efo ni i wella’r sefyllfa. Mi oedd Lee Waters yn sôn am broblemau yn ardal bwrdd Hywel Dda, ond peidied â rhoi yr holl fai ar y byrddau...
Siân Gwenllian: Mi ydw i yn ddigon ffodus i gael cynrychioli rhan o Barc Cenedlaethol Eryri—ardal nodedig o ran tirwedd, byd natur, a’i ffordd o fyw unigryw. Yn ogystal a bod yn un o lefydd prydferthaf y byd, mae Eryri hefyd yn gartref i 26,000 o bobl, llawer ohonyn nhw’n gweithio yn y parc o dydd i ddydd. Yn y blynyddoedd diweddar, fe welwyd twf aruthrol mewn un rhan o’r economi yn yr ardal, sef...
Siân Gwenllian: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardrethi busnes yn y sector ynni cymunedol? OAQ(5)0686(FM)[W]
Siân Gwenllian: Ddydd Sadwrn, roeddem ni’n lansio dau gynllun ynni dŵr yn Arfon, sef Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen. Mae Ynni Anafon yn weithredol yn barod ac rydw i’n falch iawn bod gennym ni dri chynllun sydd yn harneisio un o’n hadnoddau naturiol mwyaf dibynadwy ni, sef dŵr, a bod yr elw sy’n cael ei greu yn cael ei wario ar brosiectau yn y gymuned ac yn dod â manteision i bobl leol. Ond, yn...
Siân Gwenllian: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18?
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido addysg uwch yng Nghymru?
Siân Gwenllian: Mae llawer o bwyslais ar gydweithio rhwng cynghorau ar lefel ranbarthol ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, ‘Cadernid ac adnewyddiad’. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld pedair sir y gorllewin yn cydweithio yn strategol ar faterion sy’n unigryw i’r gorllewin ac sy’n codi o’r plethiad hanfodol hwnnw sydd yna rhwng yr economi wledig, tai, cynllunio a’r iaith Gymraeg. Fe ellir ehangu ar...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, ac rydw i’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl yma heddiw ac i gynnig y cynnig. Ym mis Mawrth eleni, fe wnes i gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Cyrraedd y Miliwn’, a oedd wedi ei lunio gan brif asiantaeth polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru, sef IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Mi oeddwn i’n awyddus i gyfrannu i’r drafodaeth wrth i’r Llywodraeth fynd ati i...