Gareth Davies: Na, ddim ar hyn o bryd. Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen.
Gareth Davies: Diolch. Ni ddaeth y cynigion hyn gan y Llywodraeth. Y Comisiwn Etholiadol a awgrymodd yr angen am ddulliau adnabod pleidleiswyr, ac nid plot Torïaidd i atal pleidleiswyr adain chwith rhag cymryd rhan mewn etholiadau ydyw. Nid oes angen cynllwynion Maciafelaidd o'r fath, oherwydd mae'r Blaid Lafur yn dda iawn am droi pleidleiswyr i ffwrdd ar eu pen eu hunain. Nid oes ond angen i chi edrych ar...
Gareth Davies: Gallaf ddychmygu fy mod. [Chwerthin.]
Gareth Davies: Rwy'n credu bod hynny'n ormod braidd, felly rwyf am barhau. Mae amser yn brin.
Gareth Davies: Iawn, mae'n dda gwybod hynny. Diolch. Byddem yn rhoi mesurau ar waith i atal ymosodiadau o'r fath. Efallai nad yw ein system bleidleisio yma yng Nghymru wedi profi twyll pleidleisio eang, ond rydym yn defnyddio'r un system ag y maent yn ei defnyddio ar yr ochr arall i Glawdd Offa. A chafwyd nifer o enghreifftiau o dwyll pleidleiswyr yn Lloegr; rwy'n credu mai sgandal Tower Hamlets yn 2014...
Gareth Davies: Diolch, Llywydd, ac mae'n wych bod yn ôl yn y Siambr. Prif Weinidog, yn anffodus, mae'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn parhau i fod yn druenus o annigonol ac rydym ni'n siomi ein dioddefwyr. Ac er ein bod ni'n gwella, mae gennym ni gryn dipyn i'w wneud o hyd. Mae gan gymorth trawma restrau aros mor hir fel nad oes pwynt iddo fod yno bron. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n...
Gareth Davies: Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog; mae hi'n dda eich gweld chi yn y cnawd ar ôl sawl wythnos o gyfarfodydd Zoom dirifedi. Y canlyniadau ddylai fod wrth hanfod integreiddio gofal, felly pam rydym ni'n integreiddio gofal os nad i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bob dinesydd yng Nghymru? Mae anghenion gofal iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol mor ymhlyg yn ei gilydd...
Gareth Davies: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar effaith plaladdwyr ar iechyd gwenyn? OQ57566
Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r effaith y mae plaladdwyr yn ei chael ar ein pryfed peillio yn bryder gwirioneddol i lawer o fy etholwyr. Mae rôl fawr gan ffermio ffrwythau i lawer yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys eirin Dinbych, y soniaf amdanynt yn aml, a heb wenyn a phryfed peillio eraill, ni fyddai gennym berllannau ffrwythau. Er bod llawer, gan gynnwys yr awdurdodau...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ei hystyried yn fraint cael gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn ffurfiol ac agor y ddadl hon ar bwnc mor bwysig ond anodd. Fel llawer ohonom yma yn y Siambr, ymrwymais i gefnogi targed WAVE Trust o 70 y cant ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn diwedd y degawd hwn. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, roedd...
Gareth Davies: Diolch am dderbyn yr ymyriad, Joyce Watson. A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli’r ddadl hon? Rydym yn trafod pwnc sensitif a phwysig iawn, ac mae llawer o'r cyfraniadau heddiw wedi sôn am gydweithio. Soniodd Jack Sargeant am hynny; Laura Anne Jones, Janet Finch-Saunders—
Gareth Davies: A ydych yn credu ei bod yn briodol gor-wleidyddoli hyn, o ystyried natur yr hyn rydym yn sôn amdano?
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd cell atal a rheoli heintiau COVID-19 y DU ganllawiau newydd ar ddefnyddio offer diogelu anadlol ar gyfer staff gofal iechyd rheng flaen. Arweiniodd hyn at Lywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad i ganiatáu i holl staff gofal iechyd yn Lloegr fanteisio ar lefelau uwch o gyfarpar diogelu personol, sef masgiau FFP2 a FFP3, er mwyn...
Gareth Davies: Diolch i chi am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Gweinidog. Rwyf i o'r farn nad ydym ni wedi deall yn llawn eto pa mor fawr yw effaith hirdymor heintiad COVID ar rai pobl. Yr hyn a wyddom ni yw bod llawer gormod o bobl, yn anffodus, yn teimlo yn wanllyd iawn ymhell wedi i'r feirws adael eu system. Gweinidog, mae yna dystiolaeth yn dod i'r amlwg sy'n tynnu sylw at debygrwydd rhwng sganiau...
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan mewn dadl mor bwysig. Mae'n cael ei hystyried yn eang fel un o uchafbwyntiau calendr gwleidyddol Cymru. Pedair wythnos yn ôl, roeddwn yn feirniadol iawn o'r effaith y byddai'r gyllideb hon yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yn ystod y pedair wythnos hynny, mae'r sefyllfa wedi dod yn llawer cliriach. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol...
Gareth Davies: Diolch, Lywydd. Roedd yn fwy o araith, rwy'n credu, nag ymyriad. Ond dyma'r sector preifat sy'n cwmpasu 80 y cant. Nid dim ond piso dryw yn y môr; hwn yw'r môr. Mae prinder yn y sector gofal yn cael effaith wanychol ar ein GIG. Fel y nododd y Gweinidog ei hun, mae gennym tua 1,000 o bobl sy'n iach yn feddygol yn ein gwelyau ysbyty na ellir eu rhyddhau oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Ond...
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o wisgo fy mathodyn Marie Curie, y cennin Pedr, i gefnogi eu gwaith. Yn anffodus, bydd 50 y cant o'r boblogaeth yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes, ac rydym i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael canser, ac yn drasig, mae llawer gormod ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi marw. Gan Gymru y mae rhai o'r...
Gareth Davies: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y gronfa ffyniant gyffredin yn Nyffryn Clwyd? OQ57678
Gareth Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae fy etholwyr eisoes wedi elwa ar agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU. Cafodd prosiectau yn y fro gyfran o bron i £3 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trwy ragflaenydd y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r gronfa adnewyddu cymunedol wedi dod ag arian y mae mawr ei angen ar gyfer prosiectau ar draws fy ardal i, o brosiectau ieuenctid i gynlluniau...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Comisiynydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac mae hi'n siomedig iawn eich bod chi'n parhau i anwybyddu cyngor pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ni fydd y cyflog truenus sy'n cael ei gynnig yn denu pobl i'r sector gofal, ac ni fydd y bonws o £1,000 a ddadorchuddiwyd gennych chi, gyda chryn sbloet, yn gwneud hynny ychwaith. Gyda...