Delyth Jewell: Nawr, o ran y ffordd y clywsom Mark Isherwood, David Rowlands ac eraill yn gwadu eu bod yn meddwl nad oes gan yr Unol Daleithiau unrhyw fwriad o gael mynediad at y GIG, rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol yn wyneb yr holl dystiolaeth. Mae Trump wedi bod yn agored am ei bolisi 'America yn gyntaf'. Dywedodd ar 4 Mehefin ei fod am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn cytundeb masnach, ac mae gennym...
Delyth Jewell: Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Delyth Jewell: Diolch am yr ymyriad. Rwy'n cytuno nad yw hyn yn rhywbeth sy'n canolbwyntio'n llwyr ar Boris Johnson. Rwy'n credu bod nifer o Aelodau'r Cabinet—wel, y Cabinet presennol ydynt o hyd—fel y dywedoch chi, fel Dominic Raab, y credaf fod peth o hyn—. Mae fel yr olwg Ddickensaidd ar y byd fod y byd ffyniannus yn cynaeafu'r holl wobrau ac rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Mae'n peri pryder...
Delyth Jewell: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru sy'n deillio o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)? OAQ54890
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cawsom drafodaeth ddiddorol yn y pwyllgor materion allanol ddoe ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, pryd y gwnaethoch chi esbonio eich syniadau ar hynny yn eglur iawn. Nawr, rwyf i wedi darllen y memorandwm ers hynny, ac rwy'n cytuno yn gyffredinol gyda'ch dadansoddiad. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn mynd i...
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a dymuno blwyddyn newydd dda ar ddechrau blwyddyn dyngedfennol i Gymru. Rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn cydnabod y bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae Plaid Cymru'n cytuno. Nawr bod gan y Ceidwadwyr fwyafrif, rydym yn gwybod am ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Byddwn...
Delyth Jewell: Hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach ar hynny, os caf, am unrhyw gynnig yn y dyfodol i gynnal Gemau’r Gymanwlad yma ac a ydych wedi dysgu neu siarad â Llywodraeth yr Alban am y buddion a ddaeth i’r Alban, nid yn unig o ran chwaraeon, ond hefyd y buddion diwylliannol a'r buddion i iechyd y cyhoedd a ddaeth i'r wlad honno ar ôl cynnal Gemau'r Gymanwlad. Yn amlwg, roeddem yn siomedig, ynghyd...
Delyth Jewell: Rwy'n croesawu sefydlu'r pwyllgor hwn, ac rwy'n falch iawn o gael bod yn aelod ohono. Er hynny, mae'n drueni na ddaw unrhyw newidiadau a argymhellwn i rym tan o leiaf 2026. Mae'n fwy hanfodol byth ein bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hwn yn brosiect y gall pawb yn y Senedd deimlo ei fod yn perthyn iddynt—ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd meinciau'r Ceidwadwyr yn teimlo y gallant...
Delyth Jewell: Rwy'n gwrthwynebu hyn. [Chwerthin.]
Delyth Jewell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r strategaeth ryngwladol yn gyffredinol. Mae hi yn hwyr iawn arni'n cael ei chyhoeddi, tua saith mis, yn ôl fy nghyfrif i, ac mae'n dilyn dogfen ymgynghori a feirniadwyd yn eang a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, ond y newyddion da yw bod llawer i'w groesawu yn hyn o beth. Nid wyf ond wedi cael cyfle i ddarllen y strategaeth yn gyflym cyn y...
Delyth Jewell: Beth a olygwn pan ddefnyddiwn y gair 'cyfiawnder'? Rwyf wedi edrych, ac mae'r Oxford English Dictionary yn cynnig dau brif ystyr: y cyntaf yw 'ymddygiad rhesymol a chyfiawn neu'r rhinwedd o fod yn deg', a'r ail ystyr yw 'gweinyddiaeth y gyfraith'. Nawr, fel y bydd unrhyw un sydd wedi adnabod rhywun sydd wedi dioddef trais rhywiol neu sydd wedi ymgyrchu i wella'r system yn gwybod, nid yw'r...
Delyth Jewell: Fe ildiaf.
Delyth Jewell: Ni allaf ond rhagdybio bod yna rywbeth nad wyf yn ymwybodol ohono yn yr hyn rydych yn sôn amdano ac ni allaf roi ateb i rywbeth nad wyf yn gwybod beth yw'r manylion yn ei gylch. Rwy'n siomedig eich bod wedi defnyddio cyfle mewn dadl fel hon i wneud y pwynt hwnnw, o ddifrif.
Delyth Jewell: Rwy'n credu'n wir y bydd y ddadl hon yn helpu pobl. Mae'r ffaith nad ydym yn gallu integreiddio plismona'n llawn yn y llwybrau cyfeirio y cyfeiriais atynt a'r rhwydweithiau cymorth yn cael effaith hynod o andwyol ar oroeswr, unrhyw oroeswr, trosedd erchyll fel trais rhywiol. Pe bai plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli, byddem yn gallu edrych ar ffyrdd llai trawmatig o roi gwybod am...
Delyth Jewell: Ambell waith mewn gwleidyddiaeth, mae'n fanteisiol inni edrych i'r pellteroedd i weld sut yr ydym ni wedi cyrraedd y fan lle'r ydym ni. Hwn fydd fy nghyfraniad olaf i yn y Siambr hon fel llefarydd fy mhlaid ar Brexit, gan fy mod i'n ymgymryd â swydd newydd sy'n cyd-fynd yn addas iawn â'n hamseriad ni o ran ymadael â'r UE. Anrhydedd rhyfedd fu hwn—yn heriol ac yn peri rhwystredigaeth ar...
Delyth Jewell: Rwy'n ddiolchgar fod y mater hwn wedi'i godi gan fod mater arall yng Nghaerffili y byddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, lle nad yw preswylwyr lleol yn gallu parcio, sef ym Mryn Heol ym Medwas, lle mae'r preswylwyr wedi cael llond bol ar ddiffyg penderfyniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili neu ddiffyg unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Dywedir wrthynt na allant barcio y tu...
Delyth Jewell: Yr wythnos hon yw fy olaf fel aelod o'r pwyllgor materion allanol, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, a phob aelod arall o'r pwyllgor am y croeso a'r cyfeillgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth inni graffu ar wahanol elfennau o gynlluniau Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Un agwedd ar waith y pwyllgor wnaeth argraff...
Delyth Jewell: Mae rhyddid i symud yn agor gorwelion. Mae pobl sy'n byw yn ein plith yn ein cymunedau wedi elwa o'r rhyddid hwn—pobl a fydd yn awr yn gweld y gorwelion hynny'n diflannu. Mae'n ffenomen hynod a thrist iawn, ond dyma ni. Crybwyllais y grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym fel pwyllgor, ac roedd eu tystiolaeth yn drychinebus: pobl sydd wedi byw am lawer o'u hoes yng Nghymru nad ydynt yn teimlo...
Delyth Jewell: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am recriwtio meddygon teulu ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Dywedwyd wrthyf fod y bwrdd iechyd wedi methu â chynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeoliad meddyg teulu sy'n gwasanaethu Parc Lansbury a meddygfa Penyrheol yn fy rhanbarth i. Mae'r ddau bractis hynny'n hollbwysig yn eu cymunedau lleol, fel y gallwch chi ddychmygu, ac maen nhw'n...