Lesley Griffiths: Gallaf, mae hwn wedi bod yn waith arwyddocaol. Gwn fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r grŵp cynghori ar adnabod da byw ar y cynigion ar gyfer yr unedau cwarantîn, ac rydym yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid ar y gwaith o gyflawni’r prosiect. Credaf mai’r hyn y bydd y trefniadau newydd yn ei wneud yw symleiddio’r drefn gwahardd symud drwy ddisodli...
Lesley Griffiths: Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw beth ar goll. Ond os yw’r Aelod o’r farn fod rhywbeth penodol ar goll, os hoffai ysgrifennu ataf, byddaf yn sicr o roi sylw iddo.
Lesley Griffiths: Rwy’n ymgynghori ar hyn o bryd ar yr adolygiad o’r ardaloedd dynodedig a’r rhaglen weithredu i fynd i’r afael â llygredd nitradau yng Nghymru, ac yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, rwy’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd y flwyddyn nesaf. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol llawn yn cael ei gynhyrchu bryd hynny.
Lesley Griffiths: Nid wyf yn cytuno â hynny.
Lesley Griffiths: Credaf fod rhan o’r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud, ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad i ymgynghori ar hyn. Byddwn yn bendant yn annog yr Aelod a’r holl etholwyr sydd wedi dangos diddordeb yn hyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed barn pobl. Os oes gan Aelodau eraill neu eu hetholwyr farn ar y dulliau gwahanol y...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gael mynediad i’r awyr agored. Rhoddir ystyriaeth lawn ar hyn o bryd i’r ystod o faterion a nodwyd yn yr adolygiad cynharach, ond mae angen mwy o waith cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar gamau newydd posibl i gynyddu mynediad.
Lesley Griffiths: Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o ymatebion i’r Papur Gwyrdd—credaf fod bron 6,000 ohonynt, os cofiaf yn iawn—felly mae’n cymryd peth amser i edrych ar bob un ohonynt. Ond yn ddiweddar, darparais ychydig dros £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol er mwyn iddynt edrych ar eu blaenoriaethau o ran...
Lesley Griffiths: Yn bendant. Credaf fod Dr Lloyd yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe wyddoch ein bod wedi cynnal asesiad o fanteision iechyd cerdded ar lwybr arfordir Cymru yn ôl yn 2014, a daeth hwnnw i’r casgliad fod y gwerth economaidd a oedd yn gysylltiedig ag iechyd gwell drwy gerdded ar lwybr yr arfordir yn £18.3 miliwn bryd hynny. Felly, yn bendant, gallwn dderbyn bod hynny’n wir. Ac unwaith eto,...
Lesley Griffiths: Ydw, yn bendant, rwy’n cydnabod y pryderon hynny ac ni fyddwch yn synnu, yn fy mhortffolio, fy mod yn ei chael hi o’r ddwy ochr. Credaf mai dyna’r holl bwynt: mae’n ymwneud â chydbwysedd rhwng ehangu mynediad a sicrhau ein bod yn diogelu’r amgylchedd hefyd.
Lesley Griffiths: Wel, mae hwnnw’n amlwg yn waith pwysig iawn, ac ar hyn o bryd, rydym yn llunio rhaglen reoli perygl arfordirol gwerth £150 miliwn ar y cyd ag awdurdodau lleol at y diben hwnnw.
Lesley Griffiths: Ydw, yn bendant. Nid yw’r Ddeddf yn rhan o fy mhortffolio—mae’n rhan o un Rebecca Evans—ond byddwn yn fwy na pharod i wneud rhywfaint o waith pellach gyda Rebecca ar y mater hwnnw.
Lesley Griffiths: Diolch. Nododd yr adolygiad o lenyddiaeth wyddonol a gyflwynwyd yn gynharach eleni ystyriaethau lles mewn perthynas â’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac mewn digwyddiadau corfforaethol, adloniant a lleoliadau addysgol. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU, ac rwy’n ystyried pob opsiwn, a byddaf yn gwneud datganiad cyn toriad y Nadolig.
Lesley Griffiths: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nododd yr Athro Harris yn ei adroddiad fod nifer fawr o anifeiliaid gwyllt caeth yn cael eu defnyddio, fel y dywedais, mewn adloniant corfforaethol ac mewn lleoliadau addysgol. I fod yn onest, mae’r maes hwnnw’n peri mwy o bryder i mi, am fy mod yn credu nad ydym yn gwybod faint ohonynt sy’n cael eu defnyddio nac unrhyw beth am eu lles. Fe fyddwch...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag...
Lesley Griffiths: Credaf fod y ffordd y mae cymdeithas yn trin ei hanifeiliaid yn dweud llawer amdani, ac rwyf newydd fod draw—. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yr RSPCA i gyflwyno gwobrau am waith cymunedol sy’n digwydd ar draws ein sector cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae’n amlwg ein bod yn genedl sy’n hoff o anifeiliaid. Nid wyf wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un...
Lesley Griffiths: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aros am ganlyniad ymchwiliad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r heddlu i achos y tân. Maent yn adolygu systemau rheoli’r safle, gan gynnwys y rhai ar gyfer pentyrru gwastraff, a byddant yn cynyddu arolygiadau o’r cyfleuster.
Lesley Griffiths: Cawsom ddadl fer dda iawn gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, a chyfrannodd Aelodau eraill o’r Cynulliad ati hefyd. Rwy’n mynd i gyfarfod â Huw Irranca-Davies. Cyflwynais rai argymhellion, fel y gwnaeth ef, a byddaf yn edrych ar yr holl opsiynau yn y dyfodol.
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi edrych ar hynny’n benodol, ond cytunaf yn llwyr â chi fod angen newid, ac fel y dywedaf, bydd y trafodaethau hynny’n dechrau yn awr. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud hyn yn flaenoriaeth, oherwydd yn amlwg, credaf fod y ddadl fer wedi tynnu sylw at lawer o faterion y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy. Ond rwy’n eich sicrhau y byddwn yn ceisio newid pethau yn y dyfodol.
Lesley Griffiths: Yn hollol. Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae’n bwysig iawn fod y cynigion rydym yn eu cyflwyno yn briodol ac yn berthnasol.
Lesley Griffiths: Fel y dywedais yn fy ateb i Suzy Davies, rwy’n derbyn yn llwyr fod angen newid. Gwn eich bod wedi cymryd rhan yn y ddadl fer, felly fe fyddwch wedi clywed fy atebion. Felly, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer y dyfodol.