Suzy Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac yn arbennig am eich pwyslais ar bartneriaeth, yr wyf yn gobeithio, wrth gwrs, sy’n cynnwys partneriaeth gyda’r dinasyddion eu hunain. Dim ond un neu ddau o gwestiynau—y cyntaf yw hwn: tybed a fu unrhyw symudiad ar fater yr wyf wedi’i godi o'r blaen, sef y gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad ariannol Llywodraeth Cymru i'r seilwaith ffyrdd yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: Llwyddodd Aelodau o'r Cynulliad i gael cyfarfod ffurfiol o’r diwedd gyda phrif weithredwyr ac arweinwyr y cyngor i drafod dinas-ranbarth Bae Abertawe cyn y toriad, ac mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddi mewn trafnidiaeth—soniasoch am seilwaith yn eich ateb i David Rees—fel sbardun allweddol i ragolygon economaidd y rhanbarth. A ydych chi'n meddwl bod ail ddinas Cymru, sydd wrth...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywodraeth am wrando, i ryw raddau, beth bynnag, ar fy etholwyr a rhai Aelodau eraill o’r Cynulliad ynghylch y mater o ryddhad ardrethi busnes? Yn amlwg, dyw hi ddim cyn belled ag y byddem ni wedi mynd, ond fe’i croesewir, cyn belled ag y mae'n mynd. Fodd bynnag, rwyf o’r farn fod arnom angen datganiad brys ar sut y bydd y...
Suzy Davies: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia a Chymdeithas Alzheimer, sydd wedi eich cynorthwyo gyda hyn. Rwy’n gwybod bod eu gwaith yn fy rhanbarth i yn werthfawr iawn yn wir. Tri pheth: roeddwn i’n falch iawn â'r gydnabyddiaeth o'r angen am siaradwyr Cymraeg; mae eu hawliau nhw, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod...
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei ddisgwyliadau o ran cydweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cysylltiedig o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe?
Suzy Davies: Prynhawn da. Just referring back to Dai Lloyd’s question, Cadw, as you probably know, will be using revenue raised at various Cadw sites in order to contribute to capital expenditure on some of our most important sites here in Wales. I’m thinking in particular of Neath Abbey, for which £0.25 million, or just over, has been earmarked for this year, but I don’t have much clarity on how...
Suzy Davies: Diben ERW yw darparu un gwasanaeth gwella ysgolion proffesiynol, cyson ac integredig. Pa dystiolaeth y mae ERW wedi’i rhoi i chi ei fod wedi gwella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern? Ac os ydych yn gallu cymryd y cwestiwn hwn, pa dystiolaeth y mae wedi’i rhoi i chi ei fod yn gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn Abertawe, gan helpu i greu ymagwedd fwy cadarnhaol...
Suzy Davies: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf fi, fel Oscar, yn sefyll yma heb fod mewn sefyllfa o gryfder yn union, ond rwyf am gyfrannu a chrynhoi’r drafodaeth heddiw. Cawsom ddadl Aelod unigol ychydig cyn toriad y Nadolig, os cofiwch, a gosodwyd y cefndir ar gyfer y ddadl hon bryd hynny. Agorodd Jenny Rathbone y drafodaeth honno gyda thair...
Suzy Davies: Wrth gwrs, nid cartrefi yn unig yw hyn; ceir gwasanaethau cyhoeddus hefyd, lle mae angen rhoi rhywfaint o sylw i hyn. Mae’r Rhaglen Gweithredu Adnoddau a Gwastraff, WRAP, y mae eich Llywodraeth yn ei hariannu, yn gweithio gyda bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg erbyn hyn i ganfod sut i leihau gwastraff bwyd mewn ysbytai. Dyna un peth. Ond yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd PABM...
Suzy Davies: Fodd bynnag, rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwch chi ddweud wrthym amdano, Weinidog, yw’r effaith mae hyn yn ei chael ar sefydliadau partner sydd wedi bod yn gweithio gyda NSA i gyflwyno ystod o raglenni ers cryn amser erbyn hyn. Nid hwn yw’r sgandal posibl cyntaf sydd wedi mynd trwy archwiliad a chael sêl bendith—rydym yn ymwybodol o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rydych wedi croesawu cryn dipyn sydd yn y Bil heddiw, ac rwy’n cofio, ar ddiwedd y tymor diwethaf, mewn ymateb i heriau a godwyd gan Lee Waters yn ein dadl ar y Ddeddf awtistiaeth, eich bod wedi ei ateb drwy ddweud, Peidiwch â gwneud y gorau yn elyn i’r da'. Meddwl oeddwn i—ni all datganoli aros yn llonydd; dyna’r rheswm pam mae gennym y Bil...
Suzy Davies: Er tryloywder—ac er nad yw’n fuddiant cofrestradwy—dylwn egluro fy mod yn aelod o’r Conservative Workers and Trade Unionists. Mae llawer o angerdd gwleidyddol wedi bod ynghlwm wrth hyn heddiw, ond rwy’n awyddus i wybod pam, Ysgrifennydd y Cabinet, o bob rhan o Ddeddf yr undebau llafur—gwn ein bod wedi trafod llawer ar y trothwyon heddiw—eich bod wedi dewis diwygio adran 172A ac...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ffodus, mae diffibrilwyr awtomataidd brys yn dod yn fwy a mwy cyffredin yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor siomedig â minnau i glywed bod dau o’r diffibrilwyr a ddarparwyd gan elusennau a rhai a fu’n codi arian yn lleol yn fy rhanbarth wedi cael eu fandaleiddio’n ddiweddar. Lluniwyd diffibrilwyr allanol awtomataidd i gael eu...
Suzy Davies: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch. Ar y pwynt olaf, mewn gwirionedd, cafwyd cryn dipyn o sôn heddiw ynglŷn â beth yw rôl y Llywodraeth o ran barn a chynghori. O’r hyn a glywaf, rydych wedi dweud yn glir mai mater o farn yn unig yw unrhyw beth y gallai’r Prif Weinidog fod wedi’i ddweud yma, er enghraifft, ac nad yw’n cynghori. A oes adeg, neu a oedd yna adeg yn ystod eich trafodaethau wrth roi pecyn...
Suzy Davies: Mae’n ddrwg gennyf ymyrryd, ond nid yw hynny’n wir yn Abertawe mewn gwirionedd—mae’n digwydd bob pythefnos. [Torri ar draws.] Ymddiheuriadau, rwy’n anghywir ynglŷn â hynny. Anwybyddwch fi.
Suzy Davies: Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor Abertawe, awgrymodd y swyddogion y bydd eu ffocws yn ystod y cylch hwn o gynlluniau strategol ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs, ond nid yw’n ymateb i’r galw. Ces i’r argraff gan yr aelod cabinet ei bod hi’n gweld bod y galw llafar presennol am ddarpariaeth yn dod o sector penodol o gymdeithas Abertawe, ac...