Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y prosesau sydd gan awdurdodau lleol yng Nghymru i ymdrin â chwynion?
Russell George: Arweinydd y tŷ, mae data gan BankSearch ar ran Banc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn ledled Cymru wedi gostwng o swm syfrdanol o 26 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon? Hefyd, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl iau i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain fel...
Russell George: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, wrth baratoi ar gyfer diwedd y cytundeb ariannu presennol ar docynnau teithio rhatach y flwyddyn nesaf, y bydd trafodaethau gyda'r diwydiant bysiau ac awdurdodau lleol yn cychwyn mewn da bryd fel bod sefydlogrwydd y cynllun yn cael ei gynnal?
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Dylwn hefyd ddweud fy mod wedi cael llawer o adborth cadarnhaol am yr uwchgynhadledd bysiau hefyd, a gynhaliwyd fis diwethaf. Rwy’n ddiolchgar hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi estyn y gwahoddiad i Aelodau'r Cynulliad i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi,...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, credaf eich bod yn iawn—mae cryn bryder heddiw, ers i’r newyddion hwn ddod i’r amlwg ddoe. Gofynnodd Adam Price yn benodol—ni chredaf eich bod wedi ateb ei bwynt—am amserlen y Prif Weinidog yn yr Unol Daleithiau. A gaf fi ofyn a yw’r Prif Weinidog wedi newid ei daith, ac a fydd yn ceisio cyfarfod â swyddogion gweithredol Ford tra bydd yn yr Unol...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod rhywfaint o bryder mewn rhannau o’r diwydiant bysiau mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno rheoleiddio o’r brig i lawr yn sgil datganoli sawl darn o ddeddfwriaeth i Gymru. A wnewch chi roi trosolwg cyffredinol o sut y bydd y diwydiant bysiau’n cael ei reoleiddio yn y dyfodol yn eich barn chi a rhoi sicrwydd hefyd na fydd unrhyw reoliadau...
Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol yn enw Paul Davies, a’u hamcan yw cydnabod y gwaith helaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gontractau dim oriau, realiti nad yw, wrth gwrs, wedi’i adlewyrchu yn y cynnig. Hoffwn wneud rhai pwyntiau a rhoi rhai o’r materion mewn persbectif yn y ddadl hon heddiw. Un peth i’w gydnabod yw bod arferion cyflogaeth...
Russell George: Iawn, fe wnaf.
Russell George: Nid wyf yn credu y byddwn yn cytuno â hynny, oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl ar y contractau hyn yn gweithio cyfartaledd o 25 awr yr wythnos. Nid yw bron 70 y cant o’r bobl hyn eisiau mwy o oriau. Felly, dyna beth y byddwn i’n ei ddweud. Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi dweud y gall y contractau hyn fod o fudd, wrth gwrs, i’r cyflogwr a’r gweithiwr. Nawr,...
Russell George: Wel, rwy’n mynd i roi croeso arall y prynhawn yma. Rwy’n mynd i groesawu’r twf i nifer y teithwyr ar wasanaeth bws T9. Credaf fod hynny’n newyddion gwych i’w groesawu. Nawr, o ystyried y ffaith bod y gwasanaeth hwn yn gymaint o lwyddiant a’i fod yn profi bellach ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y cymhorthdal o £0.5 miliwn gan...
Russell George: Mae ‘Beirdd Cymru’ yn gerdd y gall llawer o Hwngariaid ei hadrodd ar eu cof, ond yng Nghymru ychydig a wyddys am y gerdd hon, a ysgrifennwyd gan Janos Arany yn 1857. Ychydig ddyddiau’n ôl dathlwyd daucanmlwyddiant ei eni. Ar ôl gwrthod ysgrifennu cerdd i glodfori ymerawdwr Awstria, Franz Joseph, yn dilyn chwyldro aflwyddiannus yn 1848 yn erbyn yr ymerodraeth, ysgrifennodd Janos...
Russell George: Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwyf innau hefyd yn llongyfarch yr Aelodau am gyflwyno’r ddadl ar y pwnc hwn—pwnc nad oeddwn yn gwybod rhyw lawer iawn amdano yn flaenorol. Fel y clywsom eisoes heddiw, mae’r cysyniadau ynglŷn â’r economi sylfaenol yn ymgorffori egwyddorion ‘mittelstand’ a rhyddfreinio cymdeithasol, ac mae potensial mawr, rwy’n credu, i...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau ysbytai i bobl gogledd Powys?
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, ceir cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir cytundeb dinas bae Abertawe arfaethedig, a cheir cytundeb twf gogledd Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd i gytundeb twf canolbarth Cymru ar yr un raddfa, i sicrhau bod lefel debyg o fuddsoddiad ym mhedwaredd rhanbarth economaidd Cymru sy’n weddill?
Russell George: A gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda ar Lywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i gyflenwyr yn brydlon? Rwy’n ymwybodol, o gwmnïau bysiau sydd wedi codi'r mater gyda mi, bod taliadau hwyr, wrth gwrs, yn peri problemau llif arian i rai cwmnïau bysiau, yn enwedig cwmnïau llai. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yr wythnos diwethaf, yn ystod y...
Russell George: Hoffwn, yn gyntaf oll, ddatgan buddiant fel cynghorydd sir Powys. Byddwn yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl bod gan Lywodraeth Cymru hanes da i'w adrodd o ran ei chyfradd ailgylchu—nid dim ond, wrth gwrs, yr orau yn y DU, ond un o'r targedau ailgylchu gorau ledled y byd. Rwy'n credu bod hynny i'w ganmol yn fawr. Yn ogystal â hynny, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei...
Russell George: Yr hyn a ddywedaf, Mike Hedges, yw, yn union fel nad ydw i’n aelod o Lywodraeth Cymru, fy mod yn cyflwyno materion yma heddiw, nid wyf yn aelod o gabinet y cyngor, ac rwy’n meddwl ei bod yn iawn yn y ddadl hon heddiw—does bosib nad yw hi’n iawn, onid yw hi, i mi gynrychioli fy etholwyr yn yr adeilad hwn heddiw a dweud beth yw rhai o'r materion sy'n effeithio arnynt? Yn sicr, rwy’n...
Russell George: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cyllid i’r portffolio Cymunedau a Phlant i gefnogi cynllun peilot parcio ceir Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0105(FLG)
Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ofyn pa fanylion pellach y gallwch eu rhoi am y gronfa £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi a sut y bydd yn gweithredu? Pa ymwneud a fu rhyngoch chi ac awdurdodau lleol ledled Cymru hyd yn hyn? Rwyf am ddweud bod un awdurdod lleol yr ysgrifennais ato’n ddiweddar wedi dweud wrthyf nad oedd yn...
Russell George: Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i. Roedd ymchwiliad y pwyllgor i gomisiwn seilwaith cenedlaethol yn waith sylweddol i’r pwyllgor. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn ymddangos bod sawl prosiect blaengar a phwysig gennym ar y gweill. Mae gennym ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ffordd liniaru’r M4, wrth gwrs—a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet...