Mark Isherwood: Mewn ymateb i adolygiad Taylor a gyhoeddwyd ar ddydd Llun ac y cyfeiriwyd ato nawr, yr adolygiad o gyfiawnder ieuenctid, mae’r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys lansio dwy ysgol ddiogel, gan ganolbwyntio ar Saesneg, mathemateg ac ystod o gynlluniau hyfforddiant gwaith i gynorthwyo gyda diwygio troseddwyr a’u helpu i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau. Ym mis Chwefror...
Mark Isherwood: Mewn gwirionedd, credaf eich bod newydd ateb fy nghwestiwn. Credaf ein bod oll yn dibynnu ar yr erthygl honno yn y ‘Telegraph’ lle y mae adran fusnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn dweud nad yw’r ymgynghoriad yn ymwneud â chau canghennau, a dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post fod yr ymgynghoriad yn rhan o gais y Llywodraeth i’r Undeb Ewropeaidd i barhau...
Mark Isherwood: Rydym yn croesawu’r ymchwiliad hwn i hawliau dynol, ac fel rhywun a fu’n rhan o ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, croesawaf y ffaith eich bod yn dymuno gwneud gwaith dilynol ar hynny. Tybed a allwch roi sylwadau, o ystyried bod cydraddoldeb a hawliau dynol, yn amlwg, yn hanfodol bwysig,...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru?
Mark Isherwood: Mae’n wirionedd amlwg fod mwy o alw tymhorol yn rhoi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes o dan bwysau, gan arwain at amseroedd aros hir i gleifion. Fel y rhybuddiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru fis Hydref diwethaf, mae’r henoed bregus a chynnydd mewn cyflyrau anadlol yn arwain at dderbyn mwy o gleifion gyda chyflyrau gwahanol yn ystod y gaeaf. Mae meddygon teulu yn nodi...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Theresa May wedi dweud yn glir mai ei gweledigaeth ar gyfer y DU y tu allan i’r UE yw y bydd yn wladwriaeth sofran gwbl annibynnol ac y bydd y cytundeb gorau ar gyfer y DU wrth i ni adael yr UE yn un unigryw yn hytrach nag ateb parod. Fel y dywed ein gwelliant, rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu bwriad y Prif Weinidog...
Mark Isherwood: Wrth gwrs, mae symudiadau yng ngwerth arian yn un o’r effeithiau sy’n deillio o hynny. Mae’n ddoniol nad oedd wedi’i ystyried yn ffactor gan y rhai a oedd yn rhagweld gwae. Efallai y gallech ddweud wrthym pa Jeremy Corbyn oedd yn iawn ddoe, yr un sy’n dweud ei fod am weld mewnfudo dan reolaeth neu’r un a ddywedodd ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod rhyddid i symud yn parhau? Mae...
Mark Isherwood: Pan fyddaf wedi gorffen y paragraff hwn, gwnaf. Bydd gennym reolaeth ar ein ffiniau, rheolaeth ar ein deddfau, ond rydym yn dal am gael y cytundeb gorau posibl i gwmnïau yn y DU fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd a gweithredu o’i fewn, a chwmnïau Ewropeaidd hefyd i fasnachu â’r DU a gweithredu o’i mewn. Os byddwch yn gyflym.
Mark Isherwood: Mae hwnnw’n destun trafod. Nid wyf yn gwybod mwy na chi am hynny. Pan bleidleisiodd pobl yn y refferendwm ar 23 Mehefin, iawn, fe wnaethant bleidleisio dros adael yr UE, ond roeddent hefyd yn pleidleisio dros newid, ac eleni, 2017, yw’r flwyddyn pan fyddwn yn dechrau gwneud i hynny ddigwydd.
Mark Isherwood: Ar y pwynt hwnnw’n unig, a fuasech yn derbyn, y llynedd mewn gwirionedd fod cyfran Cymru yn llai na chyfartaledd y DU o gryn dipyn, a bod llawer o’r newid yn deillio o dwf yn yr UE wedi’i wrthbwyso gan gwymp mewn masnach ryngwladol arall, lle y mae angen i ni edrych ar Ewrop a’r byd wrth i ni symud ymlaen?
Mark Isherwood: Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â swyddfa’r Groes Goch Brydeinig yn Abergele i glywed mwy am brosiect Cyswllt Cymunedol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac ailgysylltu pobl â’u cymunedau, y cyfeiriodd Joyce Watson ato, gan elwa o’r bartneriaeth rhwng y Groes Goch a’r Co-op. Y rheswm am hyn oedd bod Conwy yn un o’r pedair ardal y cyfeirioch chi atynt gyda 32 y cant o...
Mark Isherwood: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ag anableddau yng Nghymru? OAQ(5)0369(FM)
Mark Isherwood: Diolch. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod yn trosglwyddo grant byw'n annibynnol Cymru i awdurdodau lleol, mynegodd ymgyrchydd yn Wrecsam, Nathan Davies, a gyflwynodd dystysgrif i'r seremoni raddio Galluogi Cymru gogledd Cymru fis diwethaf mewn gwirionedd, bryder eu bod yn teimlo bod pobl anabl wedi cael eu bradychu, a’r cwbl y gallent ei weld oedd mwy o ddadlau unwaith eto. A...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, mynychodd y ddau ohonom gyfarfod ‘na i beilonau’ ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr 2015, ond a ydych yn rhannu fy mhryder, er bod y Grid Cenedlaethol wedi dweud wrthyf eu bod yn cael eu talu pa un a ydynt yn rhoi peilonau uwchben neu o dan y ddaear ond bod Ofgem yn ei gwneud hi’n ofynnol i sicrhau’r gwerth gorau i’r cwsmer, mae’r pwyllgor peilonau Un Llais Cymru...
Mark Isherwood: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn GIG Cymru? OAQ(5)0386(FM)
Mark Isherwood: Diolch. Wel, yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ei ganllawiau iechyd y cyhoedd ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf, afiachusrwydd a’r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig â chartrefi oer, gan amlinellu nifer o argymhellion a sut y gallai ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol leihau'r perygl o farwolaeth ac afiechyd sy'n...
Mark Isherwood: Pan drafodais hyn gyda’r Grid Cenedlaethol ychydig yn ôl, dywedasant wrthyf eu bod yn cael eu talu am yr hyn y maen nhw’n ei wneud pa un a yw peilonau yn mynd dros y tir neu o dan y ddaear, ond mae Ofgem yn gwneud gwerth gorau i'r cwsmer yn ofynnol, a bydd hyn yn cael ei dalu trwy filiau ynni cwsmeriaid yn y pen draw. O ystyried bod gwerth gorau yn golygu gwerth ansawdd yn ogystal â...
Mark Isherwood: Er bod y bobl yn ymddiried mewn sofraniaeth, sef awdurdod y wladwriaeth i lywodraethu ei hun heb ymyrraeth o ffynonellau neu gyrff allanol, i Brif Weinidog a Llywodraeth, ac er bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau'r wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi’r fargen derfynol rhwng y DU a'r UE i bleidlais yn y ddau Dŷ Seneddol cyn iddo ddod i rym, rydym yn parchu penderfyniad y...
Mark Isherwood: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl yng Nghymru sydd â dementia?