Altaf Hussain: Fel y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod sefydliadau sy’n gweithio yn ein cymunedau gyda’r heddlu fel rhan o’n partneriaethau diogelwch cymunedol yn gwbl hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r pryderon sydd bwysicaf i bobl. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu...
Altaf Hussain: Rwyf am ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae meigryn yn felltith i'r rhai sy'n dioddef ohono. Mewn oedolion, gall fod yn wanychol, ond i bobl ifanc, i'r glasoed yn arbennig, gall effeithio'n fawr ar eu haddysg, eu teuluoedd a'u bywydau cymdeithasol. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn hollol sicr beth yw canllawiau presennol Llywodraeth Cymru i ysgolion ynglŷn â...
Altaf Hussain: Faint o ymweliadau ag ysbytai yng Ngorllewin De Cymru y mae'r Prif Weinidog wedi ymgymryd â hwy ers iddo ddod yn Brif Weinidog?
Altaf Hussain: Mae'r GIG yn bryder mawr i bob un ohonom yma, a gallwch chi weld hynny. Gweinidog, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd wrth ymateb i amrywiaeth o bwysau. Nid yw pobl yn gallu cael triniaeth neu lawdriniaeth yn ddigon cyflym; nid yw'r cleifion sy'n ddigon iach i adael ysbyty yn gallu mynd adref yn ddigon cyflym; ac mae rhai pobl yn canfod eu hunain yn yr...
Altaf Hussain: Weinidog, yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr o’r enw, 'Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’, i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio lleoedd ysgolion, i adrodd ar leoedd gwag ac i bennu niferoedd derbyn ysgolion. Nawr, mae defnyddio data, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gwbl gywir—rydym yn defnyddio data i gynllunio ein lleoedd ysgolion—yn hanfodol, fel...
Altaf Hussain: Weinidog, gwyddom fod llawer o addysgwyr, ers blynyddoedd, wedi galw am ffocws ar y pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Yn Abertawe eleni, mathemateg oedd y pwnc Safon Uwch mwyaf poblogaidd ac fe'i cydnabuwyd fel un o'r pynciau anoddaf. Fe gafodd 59.6 y cant A* neu A ac fe lwyddodd 85.7 y cant i ennill gradd C neu uwch. Mae hwn yn ganlyniad eithriadol. Beth y gallwn ei...
Altaf Hussain: Weinidog, gŵyr pob un ohonom ei bod yn hanfodol cael diagnosis cynnar o ganser y coluddyn. Mae'n ffaith y bydd bron pawb sy'n cael diagnosis ar y cam cynharaf yn goroesi. Serch hynny, ers blynyddoedd, rydym wedi methu canfod y salwch hwn yn ddigon cyflym yng Nghymru. Roeddem yn bumed ar hugain allan o 29 o wledydd yn Ewrop ar gyfer y gyfradd oroesi pum mlynedd. Gyda hanner y cleifion canser...
Altaf Hussain: Diolch, Jenny. Rwyf wedi gweithio yn yr ysbyty, ac ar wahân i ofal nyrsio ac ar wahân i'r gwasanaethau cymdeithasol, nid yw adroddiad rhyddhau'r claf byth yn cael ei baratoi ar amser. A daw'r adroddiad rhyddhau'r claf gan y meddyg isaf ei statws yn yr adran pan ddylai ddod gan y meddyg ymgynghorol wrth iddo wneud rownd y ward a rhyddhau'r claf. Dylid gwneud hynny mor gynnar â phosibl.
Altaf Hussain: Diolch, Weinidog iechyd. A yw'n cynnwys ward arsylwi o 30 neu 50 o welyau ynghlwm wrth bob adran damweiniau ac achosion brys ac ysbyty dosbarth cyffredinol? Gallech ddefnyddio'r ward honno ar gyfer y cleifion ychwanegol hyn sy'n barod i'w rhyddhau, ond nad ydynt yn mynd adref.
Altaf Hussain: Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi...
Altaf Hussain: Yr wythnos diwethaf, daeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr â'i ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ehangu Coleg Penybont yng nghanol y dref i ben. Mae'r cynllun cyffrous hwn yn cynnwys prif adeilad gydag awditoriwm 200 sedd, gan ddarparu lleoliad ar gyfer adrannau sy'n cynnwys y celfyddydau perfformio, arlwyo, celfyddydau gweledol, busnes, cosmetoleg, gwallt a harddwch, anghenion dysgu ychwanegol...
Altaf Hussain: 3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553
Altaf Hussain: Diolch. Weinidog, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros adfer gwasanaethau bysiau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr a Phen-y-fai yn dilyn penderfyniad cwmni bysiau Easyway i roi’r gorau i fasnachu. Nid oes gan bobl heb geir sy’n byw ym Mhen-y-fai a’r ardaloedd eraill yr effeithir arnynt unrhyw ffordd o fynd i siopa, ymweld â’r ysbyty neu gael mynediad at lawer o wasanaethau eraill oni bai...
Altaf Hussain: Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud...
Altaf Hussain: Diolch yn fawr. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joel James. Bydd fy nadl fer y prynhawn yma'n canolbwyntio ar fyw gyda chanser. Rydym i gyd yn gwybod beth yw'r ystadegau: bydd un o bob dau ohonom yn cael canser rywbryd yn ystod ein hoes. Roedd canser yn arfer bod yn ddedfryd sicr o farwolaeth, ond diolch byth mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Ledled y DU, mae dros 3 miliwn o...
Altaf Hussain: Mae effeithiau hirdymor yn effeithio ar iechyd corfforol a seicolegol. Rhai o'r effeithiau yw blinder, problemau symudedd, poen, bod yn brin o anadl, diffyg maeth, iselder a gorbryder. Ceir hefyd yr effeithiau hwyr i ymgodymu â hwy. Diffinnir effeithiau hwyr fel problemau iechyd corfforol neu seicolegol sydd i'w gweld chwe mis neu fwy ar ôl triniaeth a gallant effeithio ar systemau organau...
Altaf Hussain: 2. A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd? OQ58597
Altaf Hussain: Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd eich Llywodraeth ei 'Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru—Llif Prosiectau', yn cyflwyno amrywiaeth o fuddsoddiadau mewn cymunedau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai yr oedd awdurdodau lleol wedi ymrwymo iddyn nhw. Er fy mod i'n croesawu'r ymgais i nodi'r gweithgareddau hyn, mae'n amlwg bod amrywiaeth o heriau mawr bellach yn wynebu de'r wlad nad ydyn nhw'n...
Altaf Hussain: Gweinidog, fel clinigwr, rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau enfawr ar y GIG, ar ein cleifion sy'n aros am driniaeth, ac ar ein staff, sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb yn wyneb heriau digynsail. Er fy mod i'n gwybod bod yn rhaid i ni ddatrys yr argyfwng tymor byr, mae angen i ni hefyd edrych i'r tymor hwy yn strategol a gyda phwrpas. Ym maes gofal canser, mae hyn yn hanfodol bwysig. Mae gan...
Altaf Hussain: Weinidog, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ysgolion, ac ynni yw un o’r costau mawr y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mewn llawer o ysgolion, gwelwn hen foeleri mawr sy'n ddrud iawn i'w rhedeg. Pa asesiadau a wnaethoch gydag awdurdodau lleol o’r costau sy’n wynebu ysgolion bellach wrth inni edrych tua'r chwe mis a’r 12 mis nesaf? A pha fesurau sydd dan ystyriaeth...