Vikki Howells: Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru?
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml, gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd, er gwaethaf y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd ganddynt, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r sylw y mae’r mater hwn wedi’i gael yn y cyfryngau yn ddiweddar. Yn eich ateb i David Rowlands, fe gyfeirioch at gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cod ymarfer ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth moesegol ymhlith busnesau sy’n cael cyllid cyhoeddus yn cynnig nodau clir ar gyfer sut y gall y sector preifat helpu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben. Nawr, mae busnesau fel y Co-operative Group yn arwain y frwydr drwy gynnig lleoliadau gwaith â thâl i ddioddefwyr...
Vikki Howells: Hoffwn longyfarch yr ACau y cyflwynwyd y ddadl hon yn eu henwau heddiw. Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio fy sylwadau at ail ran y cynnig sy’n ymwneud â cherbydau trydan. Mae nifer y cerbydau trydan a hybrid ar ffyrdd Cymru wedi codi’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd 25 gwaith drosodd yn y pedair blynedd rhwng 2012 a 2016. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y...
Vikki Howells: 3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghwm Cynon? (OAQ51248)
Vikki Howells: Prif Weinidog, er gwaethaf y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd yng Nghwm Cynon a ledled Cymru trwy gyfres o gamau gweithredu ymarferol Llywodraeth Cymru, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd tlodi tanwydd yn cael ei ddileu erbyn y targed o 2018 a nodwyd yn flaenorol. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r strategaeth tlodi tanwydd yng ngoleuni hynny, ac, os felly,...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i ni gael clywed am yr ymateb i'ch galwad am gynigion, ac edrychaf ymlaen at ryddhau rhestr lawn o’r ymgeiswyr llwyddiannus. Gwn na allwch chi rannu gormod o fanylion eto, ond mae'n wirioneddol hyfryd i glywed am gynnwys busnesau sefydliadol bach yn y rhaglen hon,...
Vikki Howells: Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ysgogwyr caffael yng nghyd-destun cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd i greu swyddi a hybu ffyniant yn y Cymoedd gogleddol?
Vikki Howells: Prif Weinidog, gallai patrymau gweithio hyblyg fod yn un ffordd allweddol o leddfu'r pwysau ar ein traffyrdd a'n cefnffyrdd ar adegau allweddol. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i siarad â chyflogwyr mawr am fanteision gweithio hyblyg?
Vikki Howells: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis cynnar o ganser yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau diddorol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf am eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect peilot y cyfeirioch chi ato, ac rwy'n synnu ei bod yn ymddangos nad yw'r Aelod a etholwyd yn uniongyrchol dros y Rhondda, yn gwybod bod Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan yn y peilot hwnnw. Gwn fod Rhondda Cynon Taf o'r farn y gallai hyn...
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod fod bwrdd iechyd Cwm Taf a'u partneriaid Rocialle a 1000 o Fywydau Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, wedi ennill y wobr gydweithredu yng Ngwobrau Gwnaed yng Nghymru eleni am ddatblygu pecyn gyda'r nod o gyflymu'r ymatebion clinigol i sepsis. A wnewch chi longyfarch Cwm Taf a'i bartneriaid ar y cyflawniad arwyddocaol hwn? A ydych yn...
Vikki Howells: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ51317
Vikki Howells: Prif Weinidog, rwy'n wirioneddol falch bod cefnogi ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn elfen o 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf sydd â'r nifer fwyaf o bobl sy'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder—un o bob chwech o'r boblogaeth—ac mae hynny'n cyrraedd cyfran syfrdanol o un o bob tri yn nhref Aberpennar yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon....
Vikki Howells: 7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OAQ51336
Vikki Howells: Diolch Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ymuno ag eraill i'ch llongyfarch a'ch croesawu i'ch rôl newydd. Fel y dywedasoch yn eich ateb, gallaf weld eich bod yn deall bod cyflwyno ffioedd tribiwnlys a'r cynnydd parhaus mewn ffioedd llys wedi dychryn llawer o weithwyr proffesiynol yn y sector. Ochr yn ochr â hyn, mae canolfannau cynghori, sy'n darparu cyngor uniongyrchol i bobl, wedi cau...
Vikki Howells: Fel aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn gofnodi pa mor bwysig oedd yr adroddiad hwn yn fy marn i mewn gwirionedd. Rwy'n diolch i bawb a ddaeth i roi tystiolaeth i'n hymchwiliad. Ers cael fy ethol, mae un o'r materion mwyaf anodd rwyf wedi gorfod ymdrin ag ef yn fy mag post yn ymwneud â darpariaeth rhyngrwyd mewn adeiladau domestig. Mae un enghraifft o'r fath yn...
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae yn y broses o wella cyfleoedd gwaith yng Nghymru?
Vikki Howells: Prif Weinidog, sut mae gwaith Rhentu Doeth Cymru yn helpu tuag at gynorthwyo aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas sy'n byw mewn llety rhent preifat?
Vikki Howells: Mae adroddiad diweddar Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ynglŷn â hunangyflogaeth yng Nghymru yn rhoi cipolwg defnyddiol o gyflwr presennol entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn ein hatgoffa bod nifer y bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 15,000 rhwng 2007 a 2016. Felly, mae bron dau o bob pump o swyddi newydd wedi'u creu yng Nghymru yn hunangyflogedig...