Rhun ap Iorwerth: Mi es i ar ymweliad ddydd Llun â Chemlyn, sef eiddo arfordirol hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar arfordir gogledd Môn. Mae o’n safle pwysig iawn o ran bioamrywiaeth, yn cynnwys cyfran sylweddol o boblogaeth byd y môr-wennol bigddu, neu’r ‘sandwich tern’, ac mae’n un o’r gwarchodfeydd natur hynaf ym Mhrydain, yn deillio’n ôl bron i ganrif. Mae unrhyw un sy’n adnabod...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mewn archwiliad diweddar o faterion iechyd a dynnwyd i fy sylw gan etholwyr, roedd offthalmoleg yn agos at frig y rhestr mewn gwirionedd, gan wneud i mi feddwl bod yna broblem benodol yma. Wrth gwrs, gydag offthalmoleg, mae amser aros hir yn fwy nag anghyfleustra’n unig neu amser hwy na’r angen mewn poen, oherwydd gwyddom fod amseroedd aros hir i rai...
Rhun ap Iorwerth: Nid wyf yn dymuno ailddatgan yr hyn mae Dai Lloyd, Cadeirydd y pwyllgor, wedi’i ddweud yn barod, ond rwyf yn sicr am iddo gael ei gofnodi fy mod i yn sicr yn cyd-fynd â’r sylwadau glywsom ni yn fanna ac yn cytuno efo casgliadau’r adroddiad yma. Wrth gwrs bod yna ofynion gwahanol yn codi yn ystod y gaeaf, yn enwedig, fel y clywsom ni yn ystod ein hymchwiliad ni, o ran y mathau o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma ar ofal cymdeithasol, gofalwyr ac ysbytai cymunedol. Yr ydym yn siarad yn aml iawn, fel y dylem, yn y Siambr hon, am y gwasanaeth iechyd—am yr NHS—ond mae’n hynod bwysig ein bod ni bob amser yn cofio bod yna, y tu ôl i’r NHS, ecosystem gefnogol o ofal cymdeithasol, grwpiau trydydd sector, gofalwyr di-dâl—y...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n siwr y maddeuwch i mi am nodi’r eironi fod Aelod Ceidwadol yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol ar adeg pan ydym wedi gweld cymaint o doriadau. Er, wrth gwrs, rwyf wedi nodi bod y blaid yma yn y Cynulliad o bosibl yn meddu ar agwedd wahanol. Mae yna gyllidebau cyfyngedig, wrth gwrs, ac fe helpaf y Llywodraeth o ran hynny, ond un o’r pethau, gobeithio, y byddwn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Rhyw ychydig o funudau sydd gen i ar ôl. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Sian Gwenllian am danlinellu mor werthfawrogol y dylem ni fod o weithwyr gofal proffesiynol ar draws Cymru—pwynt, wrth gwrs, sydd wedi cael ei wneud gan nifer o Aelodau? Mae’n bwysig iawn bod y gweithwyr proffesiynol yma yn...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid i fyfyrwyr ôl-radd yng Nghymru? OAQ(5)0434(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ar ôl eitem ar newyddion ITV Cymru ychydig o ddyddiau yn ôl, am hanes Emma Stenson o’m hetholaeth i sydd wedi troi at ‘crowdfunding’ i drio helpu talu’i ffordd trwy gwrs ôl-radd i fod yn gynorthwyydd meddygol, neu ‘physician associate’, ym Mangor. Mae gan Emma radd dosbarth cyntaf mewn gwyddorau meddygol, ond...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma a fydd wrth gwrs o ddiddordeb i lawer iawn o bobl yng Nghymru oherwydd bod gymaint yn byw efo cyflyrau ‘cardiac’ neu’n dioddef o glefyd y galon. Wrth gwrs, rydym ni yn croesawu hefyd lle mae yna dir wedi cael ei ennill oherwydd gwaith caled ein staff ni o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd mae’n rhaid cofio oherwydd pethau...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnewch chi dderbyn, fodd bynnag, bod y Papur Gwyn hwn yn ceisio ymdrin â’r cyd-destun Cymreig penodol i adael yr UE, gan gynnwys y pwynt bach hwnnw bod Cymru yn allforiwr net i'r Undeb Ewropeaidd?
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff yr Aelod ildio?
Rhun ap Iorwerth: Yn ogystal â chefnogi’r Papur Gwyn hwn heddiw, a yw'r Aelod yn cytuno y dylai Aelodau yma yn y Siambr hon hefyd gefnogi gwelliant Plaid Cymru er mwyn dangos ein bod yn ddigon penderfynol yma am bwysigrwydd sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a'i barchu, ein bod yn dweud na allwn gefnogi erthygl 50 yn awr hyd nes y byddwn yn cael y diogelwch a hyd yn oed y fframwaith sydd eu hangen...
Rhun ap Iorwerth: Mewn ychydig iawn o eiriau mi wnaf innau ddweud fy mod i yn cefnogi'r cynnig yma. Rydym ni yn barod wedi clywed am bwysigrwydd cymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd brys. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig, wrth gwrs, ydy hi fod offer fel ‘defibrillators’ a ‘kits’ cymorth cyntaf a ballu ar gael. Mae’r arolwg diweddar gan Sant Ioan—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod—yn dweud...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r diwydiant pysgod cregyn yn sgil y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0456(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ateb yna. Yn 2015, mi oedd amaethu pysgod cregyn yn werth rhyw £12 miliwn i economi Cymru. Mae o’n ddiwydiant ac yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth i ac mae’r gallu i werthu mewn marchnad sengl yn ddi-doll wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at lwyddiant y diwydiant. I roi ffigurau i chi, mae 98 y cant o gynnyrch y Bangor Mussel Producers yn cael ei allforio—rhyw 70 y cant...
Rhun ap Iorwerth: Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch,...
Rhun ap Iorwerth: Mae’r mynediad hwnnw’n hollbwysig, ac rydym eisoes wedi clywed awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid rhannu cyfleusterau, efallai gan gynnwys y sector ariannol sefydledig cyfredol, yn ogystal â’r posibilrwydd cyffrous o fanc pobl Cymru a allai gynnig ffordd gyffrous ymlaen i ni, gan ymateb i sefyllfa angenrheidiol. Mae argyfwng yn ein hwynebu yn sgil gwaedlif ein sefydliadau ariannol....
Rhun ap Iorwerth: Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, mae wedi bod yn dda gweld consensws yn datblygu ar draws y pleidiau ynglŷn â'r angen i ddatblygu’r berthynas a datblygu potensial cysylltiadau clos rhwng Cymru a’i diaspora. Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, mi oedd yna gytundeb ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth glir ar sut i sicrhau hynny, a hynny ar ben y math o...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Yn gynharach yn y Siambr y prynhawn yma, gwnaeth arweinydd UKIP yn y Cynulliad gyhuddiadau am ymddygiad yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda a'r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ymwneud â'r ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol yn Llangennech. Yn benodol, cyhuddodd Jonathan Edwards o gymryd rhan, a dyfynnaf,...