Jeremy Miles: A gaf i hefyd gydymdeimlo â’r rhai a gollodd eu bywydau ac a gollodd eu cartrefi yn Nhŵr Grenfell, sy’n enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan fydd cymdeithas yn methu ag amddiffyn y mwyaf di-rym yn y man lle y dylen nhw deimlo fwyaf diogel? Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau sydd gen i wedi eu hateb. Mae gen i ddau gwestiwn ar ôl. Yn gyntaf, pa drefniadau fydd ar waith rhwng Llywodraeth...
Jeremy Miles: A gaf i groesawu datganiad y Prif Weinidog a'r datganiad 'Brexit a Datganoli', sy’n achos sylweddol a rhesymegol, ac yn eirioli dros realiti newydd? Mae ganddo hefyd, yn hollbwysig, dôn o bartneriaeth wrth gydnabod bod pob rhan o'r DU yn dymuno gwneud i’r trefniadau newydd weithio ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? Yn ei ddatganiad ac yn y papur...
Jeremy Miles: 7. A yw Busnes Cymru yn bodloni amcanion cefnogi busnes Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0183(EI)
Jeremy Miles: Rwy’n eilio hynny.
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac am yr amser a roddodd i drafod materion sy’n codi yn economi Castell-nedd a’r rhanbarth gyda mi. Fe fydd yn gwybod o’r trafodaethau hynny fod busnesau bach, fel y dywedais wrtho, yn aml yn teimlo nad yw Busnes Cymru yn hawdd i’w ddefnyddio, a’i fod yn rhy ganolog. Fodd bynnag, i fusnesau mwy o faint, ar gam gwahanol yn eu cylch twf os...
Jeremy Miles: Cawn ein gwahodd yn y ddadl hon i drin UKIP fel pe bai ganddynt ddwylo glân ar fater mewnfudo. Cawn ein gwahodd i ystyried y ffaith fod UKIP wedi cael eu hethol i’r lle hwn fel pe bai’n glanhau staen ensyniadau, chwiban ci a rhagfarn—ond nid oes ganddynt ddwylo glân. Nid yw cael eu hethol i’r Cynulliad yn dileu staen cyn-ymgyrchoedd lle roeddent yn dangos posteri o ffoaduriaid yn...
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â’r ddadl hon gerbron, a’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl? A diolch i Huw am ei ymroddiad i’r maes yma, sy’n hysbys i ni i gyd. Erbyn hyn—y pwynt yma yn y ddadl—bydd fy nghyfraniad i ar sail y ffaith os na allwch chi wneud dadl newydd, o leiaf gallwch chi ailadrodd dadl dda gan rywun arall.
Jeremy Miles: Mewn iaith arall. Ond mae digon o bwyntiau dilys wedi eu gwneud. I’ll echo the points that Huw Irranca-Davies was making, in particular, about making energy efficiency a matter of national infrastructure priority. What goes along with that, in a sense, is that sense of a national mission around the scale of the challenge, which he and others have identified. We’ve outlined and talked...
Jeremy Miles: 5. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr? OAQ(5)0710(FM)[W]
Jeremy Miles: Diolch, Brif Weinidog. Byddwch chi’n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf yn cloriannu perfformiad y Deyrnas Unedig a’r cenhedloedd datganoledig yn erbyn eu targedau amgylcheddol ac yn nodi gwelliannau yng Nghymru yn y sectorau gwastraff a diwydiannol, ond yn nodi cynnydd mewn allyriadau o adeiladau busnes,...
Jeremy Miles: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i asesu gwydnwch gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y dyfodol yn sgil polisi cyni parhaus Llywodraeth y DU? OAQ(5)0151(FLG)
Jeremy Miles: Diolch iddo am ei ateb. Wrth wraidd y cwestiwn ynglŷn â gwydnwch, fel rydym newydd fod yn ei drafod, mae mater lles a chynhyrchiant y gweithlu, y gallu i recriwtio a chadw talent, ac wrth wraidd hynny, mae mater cyflog. Felly, a wnaiff ymuno â mi i resynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac effaith hynny ar allu Llywodraeth Cymru i ariannu, mewn...
Jeremy Miles: A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i’n edrych ymlaen nawr i weld cyhoeddiad y strategaeth? Gobeithio y bydd e’n dangos ôl yr argymhellion a’r drafodaeth a gafwyd yn y pwyllgor ar y strategaeth iaith ac yn awgrymu camau penodol i’r Llywodraeth eu cymryd i mewn i ystyriaeth—yn eu plith nhw, y syniad, rydw i’n gobeithio, y bydd y strategaeth newydd yn dangos y siwrne i ni o sut...
Jeremy Miles: Wel, dyma ni yn cychwyn ar ein siwrnai gyda’r darn cyntaf o’r map yn ein dwylo ni. Rwy’n gwerthfawrogi tôn y Gweinidog yn sôn am yr iaith fel ffordd o uno ein cymunedau a’n diwylliannau, a hefyd fod angen ymdrech genedlaethol, nid jest polisi Llywodraeth, er mwyn llwyddo i wneud hynny. Rŷch chi wedi pwysleisio yn yr atebion pa mor gynhenid bwysig yw’r blynyddoedd cynnar o ran...
Jeremy Miles: Dau gwestiwn byr, Gweinidog. Yn gyntaf, yn amlwg, pwyslais y rhaglen yw cael pobl mewn gwaith. Un o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yw gwella telerau ac amodau a dyrchafiad a datblygu drwy'r gweithlu pan fyddwch mewn gwaith. Faint o bwyslais all y rhaglen ei roi ar gefnogi datblygu yn yr ystyr hwnnw? Yn ail, rydych yn mynegi y byddwch yn darparu cyngor i gyflogwyr ar recriwtio a sgiliau...
Jeremy Miles: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff ysgolion i ddarparu addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion?
Jeremy Miles: Y drafferth gyda Bil hwn yw nad yw'n ymwneud ag ymadael â’r UE, ond mae'n ymwneud â thynnu'n ôl oddi wrth y setliad datganoli. Gadewch i ni fod yn glir: byddai wedi bod yn gwbl bosibl i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil sy'n mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd tra hefyd yn parchu trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Ond yr hyn a wna'r Bil mewn gwirionedd yw datgelu dau beth: yn...
Jeremy Miles: Diolchaf i Dai Lloyd am ddod â'r cwestiwn hwn i chi y prynhawn yma, Prif Weinidog. Bu hanes o dirlithriadau yn y rhan arbennig honno o'm hetholaeth i. Mae'r perygl newydd yn deillio o dirlithriadau mewn ardaloedd yr ystyriwyd cynt eu bod yn rhai risg isel. Byddwch yn deall pryder yr aelwydydd y gofynnwyd iddynt adael eu cartrefi, a'r pryder a deimlir gan y gymuned ehangach, yn enwedig wrth...
Jeremy Miles: Ategaf y sylwadau a wnaeth Dai Lloyd am bwysigrwydd bysiau i'r rhai ohonom ni ag etholaethau nad ydynt yn realistig yn mynd i gael eu gwasanaethu gan unrhyw ateb ymarferol rheilffordd yn unig. A wnaiff ef ymrwymo bod unrhyw astudiaeth o ddichonoldeb a gomisiynir hefyd yn ystyried y defnydd o dechnoleg fodern? Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod yn edrych yn ei waith ar...
Jeremy Miles: A gaf fi ddechrau gyda gair o ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei barodrwydd i sicrhau ei fod ar gael o bryd i’w gilydd er mwyn trafod materion yn ymwneud â gwasanaethau’r GIG? Yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael y sgyrsiau hynny gyda chi. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor Iechyd, ond fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, yn amlwg mae pwysau ar recriwtio meddygon...