Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yng Ngorllewin De Cymru?
Bethan Sayed: O ran y mater ehangach o greulondeb anifeiliaid, yn amlwg, derbyniwyd yn eang bod creulondeb anifeiliaid yn cael ei ystyried yn ymddygiad sy’n arwain at drais yn erbyn pobl. Byddai llawer o'r troseddwyr hynny, rwy'n siŵr, fel gyda phethau eraill, yn gwadu eu cyfrifoldeb yn y gweithredoedd hyn o drais, ond beth ydych chi’n ei wneud i ystyried hyn yn rhan o ddeddfwriaeth cam-drin...
Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu’r cynllun cynhwysiant ariannol? OAQ(5)0123(CC)
Bethan Sayed: Hoffwn innau hefyd ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i’r holl fenywod yn y Siambr. Mewn ymateb i alwadau blaenorol i wahardd ffioedd gosod ar ddechrau’r denantiaeth, mae eich Llywodraeth wedi honni y byddai rhentwyr yn talu mwy yn y tymor hwy oherwydd cynnydd yn y rhent. Fodd bynnag, ers i ddeddfau’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gael eu rhoi mewn grym yn yr Alban, mae’r...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf diwethaf, roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnais i chi yn ymwneud â chasglu a chyhoeddi data mewn perthynas â chynlluniau gwrth-dlodi, a oedd yn un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad blaenorol. A allwch ddweud wrthyf pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld data’n cael ei...
Bethan Sayed: Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedwch mewn perthynas â hynny, ond wrth gwrs, mae’n dal i fod gennym nifer o gynlluniau sy’n seiliedig ar ddata cyfredol a data o’r gorffennol. A bûm yn siarad yn ddiweddar ag ystod o sefydliadau, sydd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn gallu dod o hyd i ddata ar ganlyniadau ar gyfer 29 allan o’r 35 o raglenni cymunedol a ariannwyd o gronfa...
Bethan Sayed: Un o’r prosiectau hynny oedd Cymunedau am Waith, ac rwyf wedi crybwyll hyn wrthych droeon, nid yn unig yma, ond yn y pwyllgor hefyd. Felly, rwy’n credu bod honno’n un enghraifft y gallech edrych arni, o bosibl, a dod yn ôl ataf. Ond mewn perthynas â dyfodol eich strategaethau gwrth-dlodi yn fwy cyffredinol, rwyf wedi clywed hefyd mai’r broblem gyda llawer o gynlluniau yn y...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr am eich ateb. Fel rhan o’ch strategaeth cynhwysiant ariannol, mae gofyn i undebau credyd ddarparu gwasanaethau allgymorth ac addysg, megis clybiau cynilo mewn ysgolion. Ond pan gyflwynais y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), un o’r pethau allweddol a nodwyd gennym ar ôl ymgynghori oedd argaeledd y gwasanaethau hyn ledled Cymru. Byddai rhai ysgolion yn gwneud...
Bethan Sayed: Rwy’n meddwl bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt yn ddigon clir am bwysigrwydd Cronfa’r Teulu, felly rwyf am roi’r ddadl yng nghyd-destun ehangach anabledd a’r ffaith fod toriadau i fudd-daliadau eraill, wrth gwrs, wedi effeithio ar bobl anabl mewn modd anghymesur yn aml. Rydym wedi clywed am rai o doriadau proffil uchel y Llywodraeth yn y maes hwn, ond cafwyd dros 100 o newidiadau...
Bethan Sayed: Yn gyntaf, credaf ei bod yn rhaid i mi ddweud bod ymateb Miller Argent i'r adroddiad hwn yn un sarhaus ac yn tanseilio difrifoldeb y sefyllfa. Mae disgrifio hyn yn 'ffug newyddion'—adroddiad gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig—yn atgas, a dweud y gwir, ac yn warthus o ystyried bod y gymuned leol wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers peth amser. Rwyf hefyd yn bryderus iawn fod cyngor sirol...
Bethan Sayed: Rwyf yn credu, o glywed y cwestiynau hyd yn hyn, eu bod yn amlygu’r pwynt a wnaeth Lee Waters ynghylch pam mae angen i ni gael gwrandawiadau rhagarweiniol o fewn y strwythurau seneddol. Mae hynny yn un o amodau Senedd y DU pan maent yn cynnig enwau ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni allu ei wneud. Ond ni wnes i eich clywed chi yn ateb y cwestiwn, gan ein bod yn y sefyllfa...
Bethan Sayed: Rwyf i eisiau codi'r mater ynghylch Juhel Miah yn fy etholaeth i, fy rhanbarth i, eto. Gwn fod sawl AC arall wedi gwneud hynny. Rwyf i wedi cyfathrebu ag ef yr wythnos hon, welwch chi, yn dweud nad yw wedi cael unrhyw ymateb gan y Prif Weinidog. Ysgrifennodd y Prif Weinidog, yn amlwg, at awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â’r ffaith iddo gael ei dynnu oddi ar y trên i...
Bethan Sayed: Hoffwn i ddweud ein bod yn cefnogi'r Bil hwn a bwriad y polisi y tu ôl iddo. Mae wedi bod yn safbwynt hirsefydlog gan Blaid Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at y broses graffu. Byddaf yn dweud mewn ymateb i'r Ceidwadwyr nad oes llawer o bobl yn gallu fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae bob amser angen tai cymdeithasol at y diben hwnnw. Ni fyddwn yn dymuno troi pobl dosbarth gweithiol...
Bethan Sayed: Diolch am roi’r cyfle i fi gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwyf i, yn amlwg, yn mynd i gefnogi ymgais Dai Lloyd i gyflwyno’r Bil yma, sy’n bwysig yn nhermau ein hetifeddiaeth a’n hanes ni fel gwlad. Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan nifer o Aelodau yma heddiw, roedd yna drafodaeth eithaf trylwyr yn y Senedd ddiwethaf, ac roedd gwelliannau wedi cael eu rhoi i mewn gennym ni, fel...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, mae Shelter yn poeni’n fawr bod yna ddiffyg data ar gael ar gyfer monitro’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy’n credu gyda nifer o gynlluniau eraill, megis Cymunedau dros Waith a Chymunedau yn Gyntaf, mae data a diffyg data yn thema sydd yn dod trwyddo gan eich Llywodraeth chi. Gyda mater sydd mor bwysig, a gyda’r ffaith bod...
Bethan Sayed: Diolch am eich datganiad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn hapus i ddweud ein bod ar ochr perchnogion y cartrefi mewn parciau ac nid y landlordiaid yn yr achos hwn. Mae'r comisiwn o 10 y cant yn annheg. Nid wyf yn meddwl y gallai fod unrhyw gasgliad arall. Mae ffi comisiwn fympwyol o 10 y cant i'r landlord ar ben unrhyw ffi arall y gallai fod yn rhaid i werthwr ei thalu yn ystod proses yn rhywbeth...
Bethan Sayed: Fy ymateb cyntaf yw dweud nad ydym yn dymuno troi Cymru yn garchar enfawr. Mewn egwyddor, nid ydym yn cefnogi datblygu carchardai mawr. Nid yr Unol Daleithiau yw’r fan hon. Onid ydych yn cytuno â mi fod angen cyfleusterau sy’n addas i anghenion carcharorion o Gymru a bod angen i ni ddatganoli cyfiawnder i Gymru a sicrhau nad ydym yn syrthio i’r fagl o adeiladu carchardai newydd heb...
Bethan Sayed: Nid ydym yn gwybod llawer o’r manylion hyd yn hyn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chynghorwyr o fy mhlaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac maent wedi dweud wrthyf mai cyfrifoldeb y cynghorau a/neu Lywodraeth Cymru yw cyflwyno meini prawf i alw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud cais am y swyddi hynny. Felly, rwy’n awyddus i ddeall a yw Cyngor Castell-nedd Port...
Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? OAQ(5)0143(EI)
Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Rwy’n falch fod ymdrechion megis y ffilm hyrwyddo wedi llwyddo i gynyddu nifer y cwmnïau a’r prosiectau sy’n ffilmio yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond o gymharu â gwledydd eraill, rydym yn dal ar ei hôl hi. Hoffwn ofyn pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i wella’r ffordd y mae cwmnïau cynhyrchu a phrosiectau ffilm allanol yn hyrwyddo’r ffaith eu bod...