Darren Millar: A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hi? Rwy'n credu ei bod yn siomedig, wrth gwrs, fod y cyhoeddiad wedi ei wneud i'r cyfryngau ddoe yn hytrach nag yn y Siambr hon. Ond rydym yn cael datganiad heddiw, ac o leiaf mae hynny’n gyfle i ofyn rhai cwestiynau i chi am y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi. Rwy’n dymuno croesawu sefydlu’r gwaddol. Mae'n...
Darren Millar: A gaf i roi ar gofnod y byddwn ni hefyd yn cefnogi’r rheoliadau hyn, er gwaethaf amheuon y pwyllgor materion deddfwriaethol o ran y rheoliadau ychwanegol sydd eto i’w cyhoeddi i’w craffu? Un peth, fodd bynnag, sy’n fy mhoeni i ryw ychydig yw bod, o fewn cylch gwaith y Cyngor Gweithlu Addysg hefyd, yn amlwg, gyfrifoldebau ar gyfer darlithwyr addysg bellach, er enghraifft. Tybed pam...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn ddiolchgar iawn am eglurhad o’r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi nhw. Ond a ydych chi’n derbyn ei bod yn anarferol iawn nad yw sefydliad fel y Cyngor Gweithlu Addysg yn gyfrifol am ddatblygu’r safonau hynny, a'i bod yn anarferol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdanynt? Pam hynny? Beth yw'r ddadl dros gadw'r...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ildio. Un o’r buddion eraill, wrth gwrs, y mae’r mathau hyn o gynlluniau’n gallu eu darparu yw budd o ran amddiffyn rhag llifogydd. Wrth gwrs, ar arfordir y gogledd mae yna gyfle i ddatblygu morlyn llanw i ddiogelu Bae Colwyn, Conwy a rhannau o arfordir Sir Ddinbych. A ydych chi’n cytuno â mi bod y math hwnnw o gyfle, oherwydd y gallai sicrhau...
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Hoffwn wneud cyfraniad byr yn unig, gan fod llawer o bwyntiau eisoes wedi cael eu gwneud am y sector bancio a’r angen i wasanaethu ei gwsmeriaid yn well. Mae tri banc sydd dan fygythiad o gau ar hyn o bryd yn fy etholaeth, dau ohonynt mewn un dref yn Abergele, sydd hefyd wedi gweld banc NatWest yn cau flwyddyn neu ddwy yn ôl. Yn...
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw rhyw fath o rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol lle nad oes neb yn byw ymhellach na rhyw bellter penodol o’u cangen leol? Mae gennym ryw fath o drefniant tebyg gyda swyddfeydd post. Wyddoch chi, mae yna rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol ar gyfer rhai cwmnïau cyfleustodau....
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod i’n croesawu'r ymrwymiad parhaus i gyfres Llyfrgell Cymru, a ydych chi’n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn trafod y tueddiadau darllen a gallu darllen disgyblion ar draws y DU? Yn yr adroddiad penodol hwnnw, mae'n dangos bod Cymru wedi gweld cwymp i oedrannau darllen, fel, mewn gwirionedd, o ran y sefyllfa yn erbyn oedran...
Darren Millar: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac, yn wir, am y copi ymlaen llaw o adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddoe, y cafodd ei rannu â phob un o'r pleidiau gwleidyddol, rwy’n credu? Rwyf o’r farn mai’r hyn sy'n glir iawn, ar ôl darllen yr adroddiad, yw nad oedd popeth cystal â’r darlun a roddwyd ym mis Rhagfyr,...
Darren Millar: Mae gennyf ychydig mwy—
Darren Millar: Rwy’n sylweddoli hynny, Ddirprwy Lywydd—
Darren Millar: Byddwn wedi bod wrth fy modd eich gweld chi yma yn y datganiad blaenorol, Ddirprwy Lywydd, fel y gallem ni fod wedi cael rhywfaint—
Darren Millar: Rwy’n sylweddoli hynny, ac o leiaf yr ydych yn gyson yn y pethau hyn, Ddirprwy Lywydd.
Darren Millar: Os caf i felly, gydag un cwestiwn arall, a byddaf i’n ceisio ei wneud yn gwestiwn mor eang â phosibl. A wnewch chi ddweud wrthym yn ychwanegol felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r pryder y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ei amlygu ynghylch y diffyg pwyslais ar ddisgyblion mwy abl a thalentog? Un peth yr wyf yn...
Darren Millar: Roeddwn i eisiau siarad yn fyr iawn, os caf i, yn y ddadl bwysig hon. A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod â Bil yn ôl heb unrhyw gynigion am gyfyngiadau sylweddol ar e-sigaréts? Rydym yn gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth ostwng cyfraddau smygu yma yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi mynd law yn llaw â phobl yn dewis cael...
Darren Millar: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf economaidd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(EI)
Darren Millar: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros ar gyfer triniaethau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0117(HWS)
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roesoch i dwf posibl y diwydiant gweithgynhyrchu pren yng ngogledd Cymru? Fe fyddwch yn gwybod bod rhannau sylweddol o ogledd Cymru wedi’u gorchuddio â choedwigaeth, ond lleisiwyd pryderon sylweddol gan bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant gweithgynhyrchu pren ynglŷn â phrinder pren o Gymru yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae hynny, a bod yn onest,...
Darren Millar: Llandegla.
Darren Millar: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fy mod wedi crybwyll amseroedd aros orthopedig ar gyfer llawdriniaethau clun yn benodol wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar, ac wedi cyfeirio at y ffaith fod yr amser aros arferol ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd yn 112 wythnos ar gyfer llawdriniaethau o’r fath, er gwaethaf targed 26...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?