Canlyniadau 161–180 o 2000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ( 5 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Mi ddechreuodd y ddadl y prynhawn yma efo Neil Hamilton yn cytuno efo llawer sydd yn y ddogfen, ‘Cyrraedd y Miliwn’. Felly, nid wyf cweit yn deall pam fod angen mynd ar ôl un agwedd ac un agwedd yn unig yn y gwelliant, sydd ddim wir yn cyfrannu at y weledigaeth a’r arweiniad sydd eu hangen yn y maes yma. Mi oedd Suzy Davies yn pwysleisio’r angen i godi hyder, ac...

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ( 5 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Ardderchog. Wel, mae yna gymaint o wyliau—

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ( 5 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Y penwythnos hwn. Reit, dyna ni. Wel, ewch i Langrannog, bawb. Wedyn, mi soniodd Dai am yr angen i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob maes, a’r angen am gorff hyd braich i fod yn gwneud y gwaith hwnnw. I gloi, felly, mae siarad Cymraeg a siarad Saesneg yn rhugl yn fy ngwneud i pwy ydw i. Mae’r Gymraeg yn agor y drws imi at ddiwylliant cyfoethog sy’n dyddio yn ôl i’r chweched ganrif....

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Diswyddiadau Staff ym Mhrifysgolion Cymru
(11 Gor 2017)

Siân Gwenllian: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiswyddiadau staff ym mhrifysgolion Cymru? OAQ(5)0727(FM)[W]

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Diswyddiadau Staff ym Mhrifysgolion Cymru
(11 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Buaswn i’n hoffi llongyfarch fy mhrifysgol leol, Bangor, gan mai hi ydy’r unig brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr aur fframwaith rhagoriaeth dysgu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd yn ganlyniad ardderchog, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor yn cynnal safonau dysgu ac addysgu rhagorol yn gyson ar gyfer ei myfyrwyr, a bod y ddarpariaeth ym Mangor o’r safon uchaf a welir yn y Deyrnas...

6. 5. Datganiad: Strategaeth y Gymraeg (11 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Rydych chi wedi cyhoeddi dogfen bwysig iawn heddiw, ac mae o yn gam cychwynnol cadarnhaol ar y siwrnai i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r Llywodraeth wedi adnabod themâu allweddol y bydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, y glo mân, y rhaglen waith a’r manylion gweithredu, fydd yn bwysig wrth symud ymlaen. Mi fydd...

9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru):
Grŵp 4: Gwaharddiad ar Ddefnyddio Gweithwyr Dros Dro i Gymryd Lle Staff yn Ystod Gweithredu Diwydiannol (Gwelliannau 6, 7)
(11 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Gair cyffredinol cyn manylu ar grŵp 4: mae Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma a gyflwynwyd gan Lafur, ond rydym yn dymuno nodi na wnaeth Llywodraethau Blair na Brown gymryd y cyfle i ddileu nifer o fesurau Thatcher—mesurau sy’n parhau i danseilio hawliau gweithwyr hyd heddiw. Mae’n bwysig cofio hynna rwy’n meddwl. I symud at grŵp 4, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y...

9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru):
Grŵp 5: Dod i Rym (Gwelliant 8)
(11 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 8 yng ngrŵp 5, sydd wedi cael ei gyflwyno gan Janet Finch-Saunders, oherwydd mae o’n cyfyngu’r Llywodraeth rhag cychwyn y Bil tan i asesiad effaith gael ei gyflawni a’i adrodd yn ôl i’r Cynulliad. Ymgais gwbl amlwg ydy hwn gan y Ceidwadwyr i rwystro’r Bil rhag pasio cyn y bydd Deddf Cymru yn weithredol. O dan y model pwerau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Ariannu Addysg Uwch yng Ngogledd Cymru
(12 Gor 2017)

Siân Gwenllian: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu addysg uwch yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0159(EDU)[W]

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Ariannu Addysg Uwch yng Ngogledd Cymru
(12 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Ers eich cyhoeddiad ddoe am gynyddu ffioedd dysgu, rydw i wedi derbyn nifer fawr o negeseuon gan fyfyrwyr sy’n astudio ym Mangor yn ogystal â gan ddisgyblion ysgol sydd yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol. Yn ystod yr etholiad, fe gafodd miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc ar draws y wlad eu hysbrydoli gan wleidyddiaeth unwaith eto, yn rhannol am eu bod nhw wedi gweld rhai o’r pleidiau...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Mae meddygfa yn fy etholaeth i, ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, yn cau ddiwedd y mis, gan adael yr ardal efo un doctor yn llai. Rwyf wedi bod yn ceisio cael gwybodaeth am hyn ers clywed y sibrydion bod y gwasanaeth i’w golli. Mi wnes i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd ar 24 Ebrill, gyda chopi i brif weithredwr Betsi Cadwaladr—dim ateb. Fe wnes i ysgrifennu eto ar 23 Mehefin at...

7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol (18 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich parodrwydd i gael deialog barhaol am y materion yma ac am faterion yn eich portffolio chi. Cymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy’n cael eu creu, yn ogystal â lle mae’r atebolrwydd yn gorwedd a’r craffu yn digwydd—dyna sy’n dod i’r amlwg i mi, beth bynnag, o glywed eich datganiad chi heddiw yma. Yn benodol, mae gen i bryder mawr fod...

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi symud ymlaen efo’r ddeddfwriaeth yma heddiw. Mae’n hen bryd iddo fo ddigwydd ac mae’n cywiro camgymeriad hanesyddol sydd wedi cyfrannu at gyflenwad annigonol o dai cymdeithasol yng Nghymru. Bob wythnos rydw i, fel llawer ohonoch chi, yn cael pobl yn dod i’m cymhorthfa efo problemau tai—pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol anaddas, gorlawn, neu maen...

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Felly, mae hi’n hen bryd symud ymlaen efo hyn, ac mae angen y buddsoddiad hefyd. Rydw i’n cytuno efo beth mae David Melding yn ei ddweud—mae angen y buddsoddiad hefyd a fydd yn dod â thon newydd o dai cymdeithasol. Ni fydd y ddeddfwriaeth ar ei ben ei hun yn datrys y broblem o ddiffyg cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn wahanol i’r Torïaid, rydym ni yn credu ei fod o’n rhan o’r...

12. 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (18 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Hoffwn atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur y wladwriaeth Brydeinig pan gafodd ei chyflwyno yma yn ystod y Cynulliad diwethaf. Rydym ni hefyd wedi gwrthwynebu’r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr yn y lle hwn trwy gydol taith y Bil yma yn ystod tymor y Cynulliad yma, gan herio pob ymdrech ddi-flino gan y Ceidwadwyr i ymosod ar...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (19 Gor 2017)

Siân Gwenllian: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg?

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Darpariaeth Meddygfeydd
(19 Gor 2017)

Siân Gwenllian: Mae meddygfa Dolwenith ym Mhenygroes yn cau ddiwedd y mis, a fydd yna neb yn dod yn lle’r meddyg sy’n ymddeol. Fo oedd yr unig un a oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg mewn ardal o 5,000 o bobl, tri chwarter ohonyn nhw yn siarad Cymraeg. Fe fydd gan y dyffryn lai o ddoctoriaid y pen na chyfartaledd Cymru a ddoe, mewn datganiad tila tu hwnt, fe ddywedoch chi na fyddwch chi yn sefydlu ysgol...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Hawliau Pobl Anabl
(19 Med 2017)

Siân Gwenllian: Mae symiau bychan o arian yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rai teuluoedd sydd â phlant neu blentyn anabl. Rwyf wedi sôn am rai enghreifftiau penodol yn y Siambr yma cyn heddiw o deuluoedd yn fy etholaeth i sydd wedi elwa ar grantiau bychan, gan helpu i wella ansawdd bywydau plant anabl, gan gynnwys gwella iechyd meddwl, cryfhau perthynas deuluol a chynyddu cyfleoedd hamdden. A ydych...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cynnydd mewn Perthynas â Chefnogi Cymunedau yng Nghymru
(20 Med 2017)

Siân Gwenllian: Yn ôl yr hyn rydw i’n ei ddeall, bydd pwyslais y gwaith gwrthdlodi a oedd yn arfer cael ei wneud gan Cymunedau yn Gyntaf ar addysg blynyddoedd cynnar, helpu pobl i waith a grymuso cymunedau o hyn ymlaen, sef yn Saesneg yr hyn yr ydych chi’n cyfeirio ato fo fel y tair ‘E’: ‘early years’, ‘employability’ ac ‘empowerment’. Hoffwn i ddeall, ac rydw i’n meddwl bod pobl yn y...

5. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Recriwtio Meddygol (20 Med 2017)

Siân Gwenllian: Rwy’n mynd i hoelio fy sylw ar yr argymhellion sy’n ymwneud â gogledd Cymru, fel y byddech yn disgwyl, mae’n debyg. Yn ystod wythnos olaf y tymor diwethaf, fe gafwyd datganiad byr gan Lywodraeth Cymru yn dweud nad yw’n cefnogi’r achos dros greu ysgol feddygol ym Mangor oherwydd ei bod yn broses hir ac oherwydd ei bod yn gostus. Rŵan, efallai ei bod hi’n mynd i fod yn broses hir,...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.