Julie Morgan: Carwyn Jones.
Julie Morgan: 5.Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ(5)0012 (FM)
Julie Morgan: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig?
Julie Morgan: A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i sylwadau Lynne Neagle am y streic yn yr amgueddfa? Rwy’n credu bod gwir angen datrys hyn ar frys. Yn dilyn y ddadl a’r trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog, a fyddai’n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth am weithrediad y Bil cynllunio ac yn benodol, yr elfen cynllunio strategol a gafodd ei chynnwys yn y Bil hwnnw? Mae fy...
Julie Morgan: Rwy’n croesawu’r newidiadau yn y Bil drafft newydd. Nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell, ond rwy’n meddwl bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, felly mae’n groeso gofalus. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym. Rwy’n meddwl bod croeso cyffredinol i’r ffaith fod trefniadau etholiadol yn mynd i gael eu datganoli i’r Cynulliad hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at yr amser...
Julie Morgan: 3. Beth oedd y prif fanteision i Gymru yn ystod y pedwerydd Cynulliad o fod yn aelod o’r UE? OAQ(5)0055(FM)
Julie Morgan: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae gwyddonwyr a phrifysgolion yng Nghymru wedi mynegi’n gryf pa mor bwysig yw aros yn yr UE. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn unig wedi derbyn cyllid Horizon 2020 ar gyfer 49 o brosiectau gwerth £16.9 miliwn, a bod yr arian hwn yn galluogi'r brifysgol i feithrin perthynas waith gydag arbenigwyr blaenllaw ar hyd a...
Julie Morgan: Yn dilyn y gyflafan yn Orlando a'r wylnos y tu allan i'r Senedd neithiwr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Busnes ystyried amserlennu dadl i roi cyfle i Aelodau amlygu meysydd polisi lle y gellid gwneud cynnydd pellach o ran sicrhau mynd i’r afael â’r gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau o'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol? Yn yr wylnos neithiwr—a gwn fod y Gweinidog...
Julie Morgan: Rwyf yn estyn croeso i’r Ysgrifennydd Cabinet i'w swydd ac yn croesawu ei datganiad a'i hymrwymiad i economi gylchol. Yn amlwg, mae wedi canolbwyntio ar ailgylchu yn y datganiad hwn, a nodaf ei bod yn codi'r potensial ar gyfer ailgylchu pellach drwy ddadansoddi cynnwys y bagiau duon, sy'n dangos bod llawer mwy yno y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, credaf y dylem, law yn llaw â pharhau...
Julie Morgan: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud busnesau ar-lein yn ymwybodol o’r rheoliadau dull amgen o ddatrys anghydfod a ddaeth i rym eleni? OAQ(5)0017(EI)
Julie Morgan: Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb. Mae mwy a mwy o fusnesau yn gwerthu ar-lein, o bethau bach iawn—bwydydd—i geir. Mae hyn yn digwydd yn y DU ac ar draws yr UE, yn amlwg. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno bod y rheoliadau anghydfodau ar-lein newydd yn gyfle i gynyddu hyder defnyddwyr a masnachwyr, ac i fusnesau Cymru allu dangos eu bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Bydd y...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. Bu’n siarad am y cymalau cadw a’r rhesymeg sy’n sail iddynt ac roeddwn i’n meddwl tybed a yw wedi cael cyfle i ystyried y cymalau cadw yn yr adran ar berthnasoedd teuluol a phlant, sydd i’w gweld yn cynnwys mabwysiadu a rhai rhannau o’r Ddeddf Plant, ac achosion yn ymwneud â gofal, goruchwyliaeth neu amddiffyn plant. Efallai fy mod yn...
Julie Morgan: Mae gennyf ddau bwynt yr oeddwn am eu codi. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yma yn y Senedd yn ymwneud â gwaith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru ac i nodi’r milfed rhoddwr cyfatebol gan y gofrestrfa yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli o fewn ymddiriedolaeth Felindre yn fy etholaeth. Dyma gyflawniad gwbl aruthrol, ac mae'r rhoddwyr cyfatebol ledled y byd i gyd, ac...
Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn. Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym. Roeddwn yn falch o lofnodi llythyr Lee Waters, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at ganlyniad. Mae 'Casualty' yn cael ei ffilmio ar ystâd Gabalfa yr wythnos nesaf, felly mae pawb yn hynod falch am hynny, ond rwyf am ategu’r pwyntiau y mae pobl wedi eu gwneud, sef y gellid ei ffilmio yn unrhyw le o ran portreadu unrhyw...
Julie Morgan: Rwy’n croesawu'r camau gweithredu ar dlodi bwyd yn arbennig, ac rwy’n falch ei bod hi wedi crybwyll y fenter a gymerwyd yng Nghaerdydd gan Bwyd Caerdydd—y fenter gwyliau ysgol. Un o'r pethau yr wyf yn poeni’n fawr amdano yw gwastraff. Cynhaliais ddadl fer ar wastraff yn ystod y Cynulliad diwethaf, a chafwyd llawer iawn o ddiddordeb gan y cyhoedd. O ganlyniad, cefais ryw fath o...
Julie Morgan: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0017(CC)
Julie Morgan: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes rhwystrau statudol yn atal cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru?
Julie Morgan: Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth am symud ymlaen ar y ddeddfwriaeth hon ar sail drawsbleidiol yn fawr iawn ac rwy’n siŵr y byddwn yn gallu cael consensws er mwyn cyflwyno hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’n credu bod yna gymalau cadw yn y Bil Cymru drafft a fyddai’n effeithio ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol?
Julie Morgan: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw, ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar y cynnydd a wnaed gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae rhieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru sy’n pryderu ynglŷn â’u statws mewn achosion mabwysiadu a ymleddir wedi cysylltu â mi. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diwygio cymal 9 y Bil Plant...
Julie Morgan: Diolch. Diolch, Lywydd. Carwn ddweud ar ddechrau’r ddadl, fy mod wedi rhoi munud i Rhianon Passmore a munud i Joyce Watson ar ddiwedd fy araith. Teitl y ddadl a dewisais yw ‘Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?’ Nawr, cyflwynais y ddadl hon cyn y digwyddiadau ofnadwy ddydd Iau diwethaf pan gafodd yr AS dros Batley a Spen,...