John Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi yn gyntaf eich llongyfarch ar eich ethol i swydd y Llywydd, ac ychwanegu hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Rosemary Butler, y cyn-Lywydd? Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod wedi gwneud llawer iawn o waith da dros y pum mlynedd flaenorol ac yn esiampl dda iawn i'w dilyn. I’r un perwyl, a gaf fi ddweud hefyd y bydd yn her fawr, os dof yn...
John Griffiths: Carwyn Jones.
John Griffiths: Brif Weinidog, dylai’r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i’r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi’n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am...
John Griffiths: Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi cefnogi peiriannau, gwell proses, uwchraddio sgiliau a hyfforddiant,...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich cydnabyddiaeth o safle a sefyllfa Casnewydd yn y darlun cyffredinol o’r diwydiant dur yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod o’ch ymweliad diweddar â Llanwern am y dur o’r safon uchaf sy’n cael ei gynhyrchu yn ffatri Zodiac, er enghraifft, ar gyfer y diwydiant ceir yn y DU a thu hwnt. Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â gwaith dur Orb,...
John Griffiths: Mae tollau croesi Afon Hafren ar y ffin yn cyfyngu ar economi de Cymru ac yn achosi tagfeydd. A fyddech yn cytuno y dylai’r croesfannau hynny ddod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd a phan fydd hynny’n digwydd, y dylid diddymu’r tollau i leddfu’r cyfyngiad hwnnw ar yr economi leol a rhoi diwedd yn wir ar yr anghyfiawnder maith sydd wedi gwylltio llawer iawn o...
John Griffiths: Yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi bod yn cyfarfod yn lleol—fi, y bwrdd iechyd lleol, yr ymddiriedolaeth hamdden, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyrff chwaraeon lleol a llu o rai eraill—i weld sut y gallwn gael y boblogaeth leol yn fwy corfforol egnïol. Felly, tybed a fuasech yn cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r ymdrechion hynny, oherwydd os ydym am...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd yn gamp aruthrol i dîm pêl-droed Cymru ennill ei le yn rowndiau terfynol Ewro 2016 ar ôl sawl degawd o aros, a dyna’n union sut y teimlai yn Bordeaux ddydd Sadwrn. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yno gydag Aelodau eraill o bob un o’r pleidiau, ac rwy’n meddwl y gallaf ddweud ar ran pob un ohonom, ddirprwy Lywydd, fod y ffordd y perfformiodd tîm...
John Griffiths: O ran y llwybrau posibl, rwy’n meddwl ei bod yn glir, ym marn llawer o bobl, ac yn sicr yn fy marn i, bod y llwybr glas, byddwn yn dadlau, yn amhosibl am lawer o resymau; rhai’n ymwneud ag ymarferoldeb, ac eraill yn ymwneud â’r canolfannau poblogaeth y byddai'n teithio drwyddynt. Rydych wedi cyfeirio at rai o'r materion eisoes. Cyn belled ag y mae’r llwybr du yn y cwestiwn, wrth...
John Griffiths: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0011(ERA)
John Griffiths: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i’r afael â thlodi yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(CC)
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ymddiriedolaethau Natur wedi lansio strategaeth hyrwyddwyr rhywogaethau yn ddiweddar. Rwyf fi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad yn hyrwyddo rhywogaethau yng Nghymru. Llygoden y dŵr—[Torri ar draws.]—yw fy rhywogaeth benodol i, ond bydd llawer o rai eraill yn helpu gyda’r ymdrechion. Ond a fyddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet,...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad iaith ac ar gyfer darllen ac addysg a datblygiad cyffredinol, a cheir ystadegau sy’n dangos bod plant sy’n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn perthynas â chaffael iaith yn bump oed na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae materion a nodwyd ar gyfer ymdrin â...
John Griffiths: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu mynediad i'r awyr agored eang yng Nghymru?
John Griffiths: Fel llawer o rai eraill yma heddiw, Lywydd, mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a'i chanlyniadau yn destun pryder mawr i mi. Rwy’n credu ein bod ni wir ar dir newydd yn awr, ac rwy’n teimlo'n bryderus iawn o ran diogelwch a heddwch ar y cyd yn Ewrop a thu hwnt; ein mynediad, wrth gwrs, at y farchnad sengl, sydd mor bwysig; mewnfuddsoddiad ac, yn wir, buddsoddi cyffredinol yma...
John Griffiths: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddfau a gafodd eu pasio yn y Pedwerydd Cynulliad?
John Griffiths: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd. Yn gyntaf, ynglŷn ag adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, tybed a oes modd inni gael datganiad ar yr agenda iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus, sydd yn un agwedd bwysig ar ymdrin â marwolaethau y gellir eu hosgoi, ac efallai ein...
John Griffiths: Yn yr un modd â Hannah, rwyf am bwysleisio’r darlun ehangach yng Nghymru mewn perthynas â dur a’r angen i gefnogi’r diwydiant dur yn y dyfodol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd, yn amlwg, yn fy ardal i, yng Nghasnewydd, mae gennym waith Tata yn Llanwern, mae gennym waith Orb, sy’n rhan o Tata Steel, a hefyd Liberty a nifer o weithredwyr llai yn ogystal. Felly, mae dur yn dal yn bwysig iawn...
John Griffiths: Brif Weinidog, yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd, mae hefyd yn bwysig ein bod yn parhau i adeiladu colegau newydd ar gyfer addysg bellach. Mae gan Goleg Gwent gynlluniau uchelgeisiol a phwysig i adleoli eu campws yng Nghasnewydd i lan yr afon ochr yn ochr â champws Prifysgol De Cymru ac, yn wir, rhagor o adeiladau yn y cyffiniau. A ydych chi’n cytuno â mi bod yn rhaid i ni barhau i...
John Griffiths: Ysgrifennydd, yn ogystal â Phort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru, mae gweithwyr yng ngweithfeydd Llanwern ac Orb yn bryderus iawn ynghylch eu bywoliaeth yn y dyfodol, a dyfodol eu teuluoedd, o ystyried y pryder a’r bygythiad parhaus. Byddwch yn ymwybodol bod cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynhyrchu yng Nghasnewydd, fel y dur ar gyfer y diwydiant ceir yng ngwaith Zodiac yn...