Mike Hedges: Carwyn Jones.
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0023(FM)
Mike Hedges: Diolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy’n meddwl ein bod yn cytuno bod gan ddinas-ranbarth bae Abertawe gyfeiriad teithio clir. Rwy’n credu ym mhwysigrwydd dinas-ranbarthau fel sbardunau economaidd. Mae Caerdydd wedi derbyn cyllid y cytunwyd arno ar gyfer ei bargen ddinesig. A all y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyllid ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe,...
Mike Hedges: Roeddwn wedi dechrau ofni na fyddai Cymru byth eto yn ennill ei lle mewn pencampwriaeth fawr yn ystod fy oes. Blwydd oed oeddwn i pan aethant drwodd i’r rowndiau terfynol ym 1958; mae’n debyg na fyddai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’u geni. Ond mae’n gamp aruthrol i Gymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ac rwy’n falch dros ben eu bod wedi gwneud hynny. Credaf fod...
Mike Hedges: Beth yw rhagolygon anghenion tai Cymru dros y pum mlynedd nesaf?
Mike Hedges: Mae angen sylweddol yng Nghymru am dai o ansawdd da, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â thai yn rhan o'i bortffolio ar sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y tai cymdeithasol a chydweithredol sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i gynghorau fel Abertawe i adeiladu tai cyngor newydd?
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf i ddatgan buddiant? Mae gennyf ferch sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac wyres yn mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan. Rwyf yn croesawu'r adroddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog i'r Gymraeg. Rwyf yn credu bod addysg yn allweddol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol. Rwyf yn falch o dwf addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y de, a arweinir...
Mike Hedges: Wrth gwrs, mae'n gambl enfawr datganoli treth incwm heb reolaeth dros bolisi macro-economaidd na heb ddiogelu incwm. Caiff treth incwm Cymru ei heffeithio gan benderfyniadau yn San Steffan. Rydym ni’n gwybod y bu gostyngiad o £440 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10, ac nid oedd dim o hynny’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os caiff trethi eu datganoli, bod...
Mike Hedges: Na.
Mike Hedges: Rwy’n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o’r diwedd. I’r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi’u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a’i roi i iechyd, sy’n cyfateb i brynu car, peidio â’i gynnal a’i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd...
Mike Hedges: A gaf i enwebu Julie Morgan?
Mike Hedges: Rwyf yn eilio Jayne Bryant.
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o Wybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID) gan awdurdodau lleol ar gyfer prynu? OAQ(5)0001(FLG)
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac am lwyddo i egluro beth y mae’r talfyrriad SQuID yn ei olygu yn well o lawer nag y gallwn i fod wedi gwneud? Rwyf am barhau â SQuID, er hynny. [Chwerthin.] Mae SQuID yn gynllun ardderchog sy’n caniatáu i gontractwyr llai gystadlu ar draws ystod o brosiectau, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai pob awdurdod lleol ei...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi’n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae’r ysgolion newydd hyn yn gwella’r...
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau tai cymdeithasol arfaethedig yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0086(FM)
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna yn gyntaf oll? Rwy’n credu ym mhwysigrwydd tai cymdeithasol; mae gen i lawer o’m hetholwyr ar y rhestr aros am dŷ cyngor ar hyn o bryd. Hoffwn bwysleisio hefyd pwysigrwydd terfynu'r hawl i brynu fel y gall cynghorau adeiladu eto heb ofni y bydd y tai hynny’n cael eu gwerthu’n gyflym iawn, iawn. A ellir rhoi rhywfaint o'r cyllid...
Mike Hedges: Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae'n bwysig iawn, os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel, bod gennym system drethu sy'n gweithio. Nid dull o ddatblygu economaidd yw prif bwrpas trethiant; mae yno i ddarparu arian ar gyfer gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae’r ddwy dreth y cynigir eu datganoli ar 1 Ebrill 2018 yn codi incwm...
Mike Hedges: Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y maint delfrydol ar gyfer dosbarthiadau cyfnod allweddol 1?
Mike Hedges: Wrth gwrs, pan fydd disgyblion yn cyrraedd yr ysgol, rhaid iddynt wneud eu ffordd o gwmpas yr ysgol. Mae nifer o blant yn cael anhawster symud, mae rhai mewn cadeiriau olwyn, ond mae rhai hefyd yn cael anhawster i wneud eu ffordd o amgylch yr ysgolion. Sawl un o’r ysgolion sy’n methu â chydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei...